Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Ofcom.org.uk
Mae nifer o deithiau a fydd yn arwain defnyddwyr at raglenni trydydd parti nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y datganiad hwn.
- Salesforce – ar gyfer cyflwyno cwynion ac ymholiadau i Ofcom
- SPECTRAsc – gwneud cais am drwydded
- Gwefan gyrfaoedd - i wneud cais am swydd
- Adnoddau diogelwch ar-lein
Ofcom sy'n cynnal y wefan hon. Rydym am sicrhau bod cynifer â phosib o bobl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 200% heb golli'r testun oddi ar y sgrin
- gweld y porwr mewn fformat un golofn (lled porwr 1280px a chwyddo hyd at 400%)
- llywio drwy ran o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
- llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
- gwylio fideos gydag isdeitlau
- cael strwythur penawdau ystyrlon ar y rhan fwyaf o dudalennau
- profi safonau AA o ran 1.4.3 Cyferbyniad
- gwneud cais rhesymol am fformatau eraill, y bydd Ofcom yn eu hystyried
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall gan gyhoeddi erthyglau defnyddwyr yng nghyswllt cyhoeddiadau mawr.
Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Nid yw rhai dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
- Mae’n anoddach llywio drwy rai templedi neu gyrchu atynt drwy feddalwedd darllen sgrin a bysellfwrdd. Mae’r rhain yn cynnwys ffurflenni sy’n dechrau ar ofcom.org.uk
- Nid yw Power BI a mapio atebion yn hygyrch. Mae’r naill a’r llall yn ffyrdd o ddarlunio data lle mae modd chwyddo i mewn ac allan o feysydd o ddiddordeb. Ni fydd ymwelwyr sy’n defnyddio meddalwedd darllen sgrin neu fysellfwrdd yn gallu rhyngweithio â nhw yn yr un ffordd
- Mae rhai cydrannau’n anoddach eu defnyddio gyda thechnolegau cynorthwyol gan nad ydynt yn cynnwys labeli disgrifiadol na labeli sydd wedi’u pennu’n rhaglennol, nid yw strwythur cynnwys yn cael ei gynrychioli’n briodol drwy benawdau, grwpiau, rhestrau a strwythur tablau, ac, nid yw enwau, rolau a gwerthoedd bob amser yn cael eu cyfleu’n iawn.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â’r tîm digidol.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 21 diwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi’n cael unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n meddwl nad ydym yn cyflawni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â’r tîm digidol.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â’r tîm digidol.
Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post neu drwy anfon e-bost i accessibilityrequests@ofcom.org.uk. Gallwch hefyd gwyno drwy ein hyb.
Mae manylion am hyn a sut i gysylltu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg neu BSL ar gael ar ein tudalen cysylltu â ni.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys sydd wedi’i restru isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
- Rydym yn defnyddio Power BI a mapiau i ddarlunio data. Fodd bynnag, rydym yn disgrifio tueddiadau mewn adroddiadau ymchwil cysylltiedig neu’n ystyried ceisiadau am fformatau eraill
Methu cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
- Nid yw strwythur y pennawd yn neialog y cwci yn cael ei gynrychioli’n iawn i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.6 WCAG 2.2 (penawdau a labeli).
- Nid yw rhai rhestrau'n cael eu cyflwyno'n briodol fel rhestrau heb eu trefnu a gall fod yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin ddirnad lle mae pob eitem yn dechrau ac yn gorffen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a pherthnasoedd).
- Nid oes gan rai tablau gelloedd pennawd. Mae hyn yn golygu na fydd penawdau pob colofn a rhes yn amlwg i dechnolegau cynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a pherthnasoedd).
- Nid yw’r drefn ffocws wrth dabio drwy rywfaint o’r cynnwys mewn trefn ragweladwy. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.2 (trefn y ffocws).
- Nid oes label hygyrch ar dablau chwilio, ac efallai nad yw eu pwrpas yn glir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.6 WCAG 2.2 (penawdau a labeli).
- Does dim modd defnyddio’r nodwedd ‘dangos pob cam’ sydd ar gael ar rywfaint o gynnwys mae modd ei ehangu drwy ddefnyddio bysellfwrdd. Gellir ehangu pob cynnwys yn unigol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 WCAG 2.2 (bysellfwrdd).
- Nid yw delweddau mewn rhestrau chwarae fideo yn cynnwys testun amgen priodol ac nid ydynt yn disgrifio eu pwrpas i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 (cynnwys heb destun).
- Pan fydd cynnwys yn cael ei gyflwyno mewn grid, nid yw penawdau a chynnwys yn cael eu marcio’n briodol a gall technolegau cynorthwyol eu darllen fel brawddegau unigol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a pherthnasoedd).
- Nid yw botymau llithro wedi'u labelu'n gywir ac nid ydynt yn disgrifio eu pwrpas yn ddigonol y tu allan i'r cyd-destun ar gyfer ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.6 WCAG 2.2 (penawdau a labeli).
- Mae cynnwys Saesneg ar rai tudalennau Cymraeg, ond nid yw’r iaith wedi’i phennu’n rhaglennol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.1.2 WCAG 2.2 (iaith rhannau).
- Mae canlyniadau tabl chwilio yn ymddangos yn weledol fel penawdau ond nid ydynt wedi'u marcio felly'n rhaglennol. Felly, efallai na fydd defnyddwyr darllenydd sgrin yn deall strwythur y dudalen yn yr un ffordd â defnyddwyr eraill. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.5 WCAG 2.2 (penawdau a labeli).
- Mae tudalennau ymgynghori wedi’u marcio â rhai lefelau pennawd anghywir, ac felly mae’n bosibl y bydd strwythur y dudalen yn cael ei gyflwyno’n anghywir i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.6 WCAG 2.2 (penawdau a labeli).
- Mae botymau llywio tudalen ar dudalennau canlyniadau wedi'u disgrifio'n anghywir fel dolenni y gellir eu cwympo/ehangu. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.2 (enw, rôl, gwerth).
- Nid yw rhai meysydd ar ffurflen adborth y gwiriwr symudol yn rhoi cyfarwyddiadau clir, sy’n ei gwneud yn anodd i rai defnyddwyr nodi’r hyn a ddisgwylir ym mhob maes. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau.
- Nid yw rhai tirnodau ar y gwiriwr symudol wedi’u labelu’n briodol, sy’n ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol lywio i wahanol rannau o’r dudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd.
- Nid yw darllenwyr sgrin yn adnabod rhai blychau gwybodaeth ar y gwiriwr symudol wrth ddefnyddio porwr Edge. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau.
- Nid yw rhai tablau ar y gwiriwr symudol wedi’u rhaglennu fel y cyfryw, sy’n ei gwneud yn anodd i dechnolegau cynorthwyol ddeall a llywio cynnwys y tabl. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd.
Rydym yn bwriadu datrys yr uchod erbyn mis Mehefin 2026.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDFs a dogfennau eraill
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu cywiro PDF's ymgynghori, ymchwil a’r rhai sydd y tu allan i’r cwmpas.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Diweddarwyd y datganiad hwn ar 19 Mehefin 2025.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ym mis Ebrill 2024. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ac Ofcom.
Defnyddiwyd sampl o 14 o dudalennau a oedd yn cynnwys elfennau a thempledi’r prif dudalennau a ddefnyddir ar y wefan. Dyma’r dull mwyaf effeithiol o ganolbwyntio ar fanylion tudalennau cynrychioladol.
Profwyd y tudalennau hyn a’u rhannau yn erbyn WCAG 2.2 ar bob lefel.
Porwyr/systemau gweithredu a ddefnyddiwyd
- Windows (Chrome)
- Windows (Edge)
- iOS (Safari)
- Android (Chrome)
Yr adnoddau a ddefnyddiwyd
- Darllenydd sgrin JAWS
- Darllenydd sgrin NVDA
- Ymatebydd Llais Dragon
- VoiceOver
- TalkBack / Cynorthwyydd Llais
- Ail-lifo chwyddo sgrin, bwlch rhwng testun
- Chwyddwr Windows
- ZoomText
- Lliwiau gwrthdro’r system
- Chwyddo
- Pinsio i chwyddo