Croeso i wefan y Cod Cefn Gwlad ar gyfer Cymru a Lloegr

Y Cod Cefn Gwlad yw eich canllaw i’r awyr agored. Pa un a ydych chi yng nghefn gwlad, yn mwynhau’r arfordir, ein dyfrffyrdd neu barc trefol, mae’r cod yno i’ch helpu i’ch tywys trwy natur.

Cyflwynwyd y Cod Cefn Gwlad ym 1951 fel diwygiad yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Yn 2004, cafodd ei ail-frandio’n God Cefn Gwlad. Fe’i rheolir gan Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut i Barchu, Diogelu a Mwynhau natur daliwch ati i sgrolio, a gallwch ddod o hyd i fanylion ar y ffordd orau o ddilyn y Cod Cefn Gwlad, a dolenni i rai o’n hasedau.

Cyngor ac arweiniad defnyddiol i gael amser da a diogel yn yr awyr agored

Sbwriel

Ewch â sbwriel adref – peidiwch â gadael unrhyw ôl o’ch ymweliad.

Cŵn

Cadwch gŵn dan reolaeth ac o fewn golwg bob amser. Bagiwch a biniwch faw cŵn.

Cynlluniwch eich Antur

Dylech wybod beth i’w ddisgwyl a beth y gallwch ei wneud.

Gofalwch am Fyd Natur

Peidiwch â difrodi na tharfu a pheidiwch â gadael unrhyw ôl o’ch ymweliad.

Da Byw a Bywyd Gwyllt

Peidiwch â bwydo da byw, ceffylau neu anifeiliaid gwyllt oherwydd gall hyn achosi niwed iddynt.

Tanau

Os nad ydych chi’n siŵr, peidiwch â chynnau tân. Dim ond mewn ardaloedd cyfyngedig y caniateir barbeciws a thanau gwersyll. Gwiriwch yn gyntaf.

Marchogion

Dilynwch arwyddbyst ac arwyddion lleol. Dylai defnyddwyr eraill ildio i farchogion.

Cwrteisi

Byddwch yn gyfeillgar, rhannwch y lle gyda phob defnyddiwr.

Beicwyr

Dilynwch arwyddbyst ac arwyddion lleol. Ildiwch i gerddwyr a marchogion.

Teithio a Pharcio

Ystyriwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Parciwch yn ystyriol drwy beidio â rhwystro mynedfeydd, dreifiau neu fannau parcio hygyrch.

Hygyrchedd

Ystyriwch anghenion a gallu pob defnyddiwr pan fyddwch yn yr awyr agored.

Dilynwch Arwyddion Lleol

Dysgwch am yr arwyddion a symbolau sy’n cael eu defnyddio yng nghefn gwlad.

Darllenwch y Cod Cefn Gwlad

Mae’r Cod Cefn Gwlad ar gael mewn dau fformat:

Fersiwn fanwl ar wefan CNC

Crynodeb taflen PDF

Y Cod Cefn Gwlad ar gyfer Cymru

Mae'r Cod Cefn Gwlad wedi cael ei gyfieithu i ieithoedd eraill

Ewch i’n tudalen Ieithoedd Eraill i’w lawrlwytho nhw.cynnig rhywbeth i bawb. Er mwyn i ni i gyd allu mwynhau treulio amser ym myd natur, mae’n bwysig ein bod ni’n parchu ac yn gwarchod ein mannau naturiol.

Countryside Code Language Translations Graphic

Cod Cefn Gwlad - atebion i'ch cwestiynau

Cliciwch ar un o'r dolenni isod lle cewch ragor o wybodaeth am sut i Barchu, Diogelu a Mwynhau.

Ym mhle mae'r Cod Cefn Gwlad yn berthnasol?

Cynhyrchir y Cod ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Natural England ac mae’n berthnasol yn y ddwy wlad.

Sut alla i gysylltu â chi?

Gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio ymholiadau@cyfoethnaturiol.cymru neu Countryside.Code@naturalengland.org.uk

Oes gennych chi unrhyw ddeunydd papur y gallaf gael mynediad iddo?

Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r ffeiliau hyn:

Ble alla i weld cyfryngau cymdeithasol y Cod Cefn Gwlad?

Er mwyn cael postiadau yn Gymraeg, dilynwch @natreswales ar Facebook ac Instagram. Gallwch hefyd chwilio am bostiadau gan ddefnyddio #CodCefnGwlad a #ParchuDiogeluMwynhau

Er mwyn caell postiadau yn Saesneg, dilynwch @natreswales a @thecountrysidecode ar Facebook ac Instagram.

Natural Resources Wales logo

Y Cod Cefn Gwlad ar gyfer Cymru

GOV.UK logo

Y Cod Cefn Gwlad ar gyfer Lloegr ar GOV.UK

Cysylltwch â thîm y Cod Cefn Gwlad yn CNC

#CodCefnGwlad       #ParchuDiogeluMwynhau

Cysylltwch
Trail Officer