Codau Cysylltiedig
Darganfyddwch godau eraill i'ch helpu i fwynhau'r awyr agored
Darganfyddwch godau eraill i’ch helpu i fwynhau’r awyr agored
Mae teulu’r Cod Cefn Gwlad yn cynnwys cyngor ychwanegol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau yng Nghymru.
Darllenwch godau’r gweithgareddau ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC):
Archwiliwch y codau a grëwyd gan ein partneriaid a’n sefydliadau sy’n annog pawb i fwynhau’r awyr agored trwy negeseuon y Cod Cefn Gwlad sy’n cael eu rhannu. Mae’r Codau hyn wedi’u cynnal ar wefannau allanol a darperir dolenni er gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd na’r adnoddau hynny.
Mae Twyni ar Symud yn brosiect i adnewyddu rhai o dwyni tywod pwysicaf Cymru a Lloegr. Ewch i’r wefan i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer ysgolion ac adnoddau addysgu, darganfod sut i wirfoddoli ar y prosiect, lawrlwytho pecynnau gweithgareddau teuluol a dysgu mwy am y gwaith pwysig sy’n digwydd.
Mae Twyni ar Symud yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chronfa LIFE Ewrop. Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Natural England, Plantlife, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaethau Natur.
Ewch i wefan Twyni ar Symud.
Mae Cod y Padlwyr wedi’i greu gan British Canoeing a’i ddatblygu gyda’r Cod Cefn Gwlad. Mae’r canllaw ar gyfer canŵ-wyr, caiacwyr a phadl-fyrddwyr ac mae’n dilyn tair prif egwyddor y Codau Cefn Gwlad – parchu, diogelu, mwynhau. Mae Cod y Padlwyr yn rhoi negeseuon clir a chryno i badlwyr newydd a phrofiadol ac yn helpu i arwain padlwyr i arfer gorau trwy roi canllawiau hawdd i’w dilyn pan fyddant allan ar y dŵr.
I gael gwybod mwy ewch i wefan Cod y Padlwyr
Mae’r Cod Bywyd Gwyllt Morol ac Arfordirol yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ymweld â’r arfordir.
Wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad â sefydliadau gan gynnwys Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid, yr RSPB, Ymddiriedolaeth y Siarcod ac Ymddiriedolaeth Ymchwil Grŵp Morloi Cernyw, mae’r Cod Bywyd Gwyllt Morol ac Arfordirol yn cynnwys cyngor i’r rhai sy’n cerdded ar hyd yr arfordir neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr fel caiacio, padlfyrddio neu jet-sgïo.
Dysgwch fwy ar wefan GOV.UK.