Ceisiadau Grant Ieuenctid ar agor nawr! Bydd ceisiadau’n cau: 3pm, 18 Mawrth 2026.
Rhwng 16–25 oed ac yn byw yn y DU? Ymgeisia am grant o £500 oddi wrth Tyfu’n Wyllt a rhedeg dy brosiect cyffrous dy hun yr haf hwn!
Rydym yn galw ar bobl ifanc i feddwl am syniad am brosiect i ddathlu pam fod planhigion a / neu ffyngau brodorol y DU mor arbennig.
Waeth os wyt ti’n hoffi hau neu wau, ffotograffiaeth neu greu fideos, gwyddoniaeth neu goginio… os oes gen ti syniad, rydym am glywed gennyt.
Ymuna gyda ni yn ar ein cennad.
Ar y dudalen hon:
- Beth gewch chi
Arweiniad i Ymgeiswyr
Arweiniad i Sefydliadau Cefnogol
Barod i ymgeisio?
Cwestiynau Cyffredin
Yr hyn fyddi’n ei dderbyn:
- Grant o £500 ar gyfer dy brosiect. Gellir defnyddio hwn ar gyfer unrhyw beth y byddi ei angen o ddeunyddiau, offer, adnoddau i hyfforddiant.
- Cefnogaeth, sesiynau ar-lein ac adnoddau oddi wrth Tyfu’n Wyllt
- Cyfleoedd i gysylltu gyda chyfranogwyr eraill ledled y DU a gweld dy brosiect wedi ei gynnwys mewn portffolio prosiectau.
- Y cyfle i gwblhau Gwobr Arweinydd Amgylcheddol Ifanc KEW a ddyluniwyd i weithio ochr-yn-ochr gyda dy brosiect Tyfu’n Wyllt ac i gydnabod eich cyflawniadau.
Ymunwch â’n Gweminar!
24 Chwefror 2026, 12.30pm
Dyma eich cyfle i ddysgu mwy am ein Grantiau Ieuenctid a sut i ymgeisio.
Sylwer: cynhelir y weminar yn Saesneg.
Arweiniad i Ymgeiswyr
Os wyt ti dan 18 oed, yn gyntaf bydd angen iti dderbyn caniatâd gan riant neu warcheidwad cyn cychwyn ar dy gais.
Chwilia am Sefydliad Cefnogol i dy helpu i drosglwyddo dy brosiect. Gellir cychwyn ar brosiectau llwyddiannus ym mis Mai a bydd rhaid eu cwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2026.
Dyddiad Cau i Ymgeisio: 3pm ar 18 Mawrth 2026.
Sut i ymgeisio
Mae Tyfu’n Wyllt yn chwilio am…
Brosiectau sy’n canolbwyntio ar blanhigion a / neu ffyngau brodorol y DU.
Brosiectau fydd yn cynnwys neu’n denu pobl eraill. Dylet anelu i rannu dy brosiect gydag o leiaf 100 o bobl. Gall hyn gynnwys pobl sy’n cymryd rhan yn uniongyrchol a phobl sy’n ymgysylltu gyda chynnwys ar-lein neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol am dy brosiect
Prosiectau sydd o fudd i bobl eraill. Meddwl am yr effaith positif gaiff dy brosiect ar bobl eraill a dywed wrthym am hyn!
Prosiectau fydd yn gwneud defnydd da o’r grant o £500 – dyweda sut y byddi’n defnyddio’r arian i greu’r effaith mwyaf. Meddylia beth fydd angen iti ei brynu neu dalu amdano os bydd dy gais yn llwyddiannus. Gall hyn gynnwys unrhyw offer neu ddeunyddiau, hyfforddiant, adnoddau, neu gymorth arbenigol y byddi ei angen. Sylwer: ni alli ddefnyddio’r grant i dalu cyflog i dy hun.
Syniadau am brosiectau sy’n uchelgeisiol a diddorol, ond sydd hefyd yn swnio fel eu bod wedi eu cynllunio’n dda ac yn realistig i’w cwblhau. Darllen ein awgrymiadau ychwanegol am fwy o ysbrydoliaeth.
Darllenwch ein cynghorion ychwanegol
Pwysig: Os oes gennyt ofod neu leoliad penodol mewn golwg ar gyfer gweithgareddau dy brosiect, bydd angen iti dderbyn caniatâd ysgrifenedig oddi wrth y perchennog neu’r rheolwr cyn ymgeisio. Mae’n bosibl y bydd Tyfu’n Wyllt yn gofyn i weld tystiolaeth o hyn cyn dyfarnu grant i ti.
Sylwer – ni all Tyfu’n Wyllt gefnogi prosiectau tyfu a drosglwyddir mewn ardaloedd agored o gefn gwlad, neu ardaloedd cadwraeth neu a warchodir, fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Yn ogystal, ni all Tyfu’n Wyllt ariannu prosiectau sy’n galw am ganiatâd cynllunio, oherwydd amserlen y rhaglen.
Nid yw prosiectau sy’n cynnwys chwilota am blanhigion yn y gwyllt yn gymwys i’w hariannu.
Os ydych yn ansicr os byddai eich lleoliad yn gymwys, hoffem eich annog i gysylltu gyda ni i drafod eich amgylchiadau. E-bostio: hellogrowwild@kew.org. Ffonia: 020 8332 3842
Bydd rhaid iti enwebu sefydliad ieuenctid, cymunedol neu addysgol i dy gefnogi gyda dy brosiect. Meddylia am gysylltiadau sydd gennyt eisoes neu hola sefydliadau lleol fel dy ysgol neu brifysgol, grŵp ieuenctid, elusen neu awdurdod lleol. Sylwch na all y person cyswllt o’ch Sefydliad Cefnogol fod yn aelod o’ch teulu.
Bydd dy Sefydliad Cefnogol yn:
-
dy helpu i redeg dy brosiect
-
cadw’r grant o £500 ar dy ran
-
sicrhau y galli gwblhau dy brosiect yn ddiogel
Wrth chwilio am gymorth gan sefydliad, cofia ddangos yr Arweiniad i Sefydliadau Cefnogol iddynt, fel eu bod yn gwybod beth fyddi’n ei ddisgwyl ganddynt.
Os wyt ti dan 18 oed, cofia wneud yn siŵr bod y sefydliad cefnogol yn gwybod hyn. Yn ogystal, bydd rhaid i bawb dan 18 oed dderbyn caniatâd gan riant / gwarcheidwad cyn ymgeisio.
Ddylai dy fideo fod dim hirach na dau funud. A dyna ni!
Fyddi di ddim angen offer cymhleth ar gyfer hyn - mae ffôn symudol yn iawn.
Mae nifer o wahanol ffyrdd i greu dy fideo, (mae gennym fwy o ddiddordeb yn dy syniadau na dy sgiliau ffilmio)
’Does dim rhaid iti ymddangos o flaen y camera.
Fe allet ti gyflwyno disgrifiad sain neu is-deitlau.
Fe allet ti gyfweld aelodau eraill o dy grŵp neu gymuned ehangach, yn egluro pam fod y syniad prosiect yn wych.
Os bydd creu fideo yn anodd i ti, rho wybod i ni yma yn Tyfu’n Wyllt. Byddwn yn barod iawn i gynnig dull amgen i bobl sydd ag anghenion mynediad penodol.
Yn y fideo, cofia gynnwys:
Dy syniad am brosiect a sut yr wyt yn bwriadu ei wireddu.
Sut bydd dy brosiect yn cefnogi planhigion a / neu ffyngau brodorol y DU.
Y ffyrdd y bydd dy brosiect yn cynnwys ac o fudd i bobl eraill.
Ble y cynhelir dy brosiect.
Crynodeb o sut byddi’n gwario’r £500.
Pwysig: Efallai y bydd yn haws lanlwytho eich fideo i safwe rhannu fel YouTube neu Vimeo. Gwiriwch y gosodiadau preifatrwydd i wneud yn siŵr nad yw eich fideo ar gael i’w gwylio gan y cyhoedd, os nad ydych am iddynt ei gweld, ond gwnewch yn siŵr bod eich dolen ar agor i Tyfu’n Wyllt ei gwylio.
Cofia sicrhau dy fod wedi derbyn caniatâd gan bawb sydd yn y fideo ac wedi dweud wrthyn nhw y bydd yn cael ei rannu gyda. Tyfu’n Wyllt. Os wyt ti neu unrhyw berson ifanc yn y fideo cais o dan 18 oed, bydd rhaid i riant / gwarcheidwad roi caniatâd iti / iddynt gymryd rhan.
Byddwn yn gofyn iti gynnwys manylion cyswllt ar gyfer dy hun a’r person fydd yn dy gynorthwyo o dy Sefydliad Cefnogol.
Mae’n bwysig bod Tyfu’n Wyllt yn gallu cysylltu gyda’r ddau ohonoch trwy gydol yr haf.
Fe dderbyniwch hysbysiad trwy e-bost i roi gwybod os bu eich cais yn llwyddiannus erbyn diwedd mis Ebrill 2026.
Pob lwc!
Arweiniad i Sefydliadau Cefnogol
Cefnogwch berson ifanc i ymgeisio am grant o £500 a rhedeg eu prosiect cyffrous eu hunain.
Ar y dudalen hon cewch hyd i arweiniad am rôl Sefydliad Cefnogol a pha sefydliadau sy’n gymwys. Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd wedi darllen yr arweiniad i ymgeiswyr.
Bydd rhaid i brosiectau gael Sefydliad Cefnogol gyda pherson cyswllt enwebedig i weithio gyda nhw.
Nid yw Tyfu’n Wyllt yn gallu gwneud taliadau i unigolion - felly, bydd Sefydliadau Cefnogol cymwys yn derbyn y grant ar ran yr ymgeisydd y maent yn ei gynorthwyo.
Tra y bydd tîm Tyfu’n Wyllt yn cynnig cefnogaeth gyffredinol i’r bobl ifanc, bydd arweiniad ar reoli’r prosiect o ddydd-i-ddydd yn rhan o gyfrifoldeb y Sefydliad Cefnogol.
Ar wahân i bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, neu sydd angen mwy o gefnogaeth, byddwn yn annog y person ifanc sy’n ymgeisio i fod yn gyfrifol am eu prosiect.
Gall Sefydliadau Cefnogol gynorthwyo nifer o brosiectau, cyn belled â’u bod yn gwbl unigol.
Fel Sefydliad Cefnogol bydd rhaid ichi:
1. Fod yn sefydliad hirsefydlog a pherthnasol sydd â diben elusennol neu nid-er-elw. Yn benodol:
- Grŵp gwirfoddol, ieuenctid neu gymunedol
- Corff addysgol
- elusen gelfyddydol neu amgylcheddol
- Awdurdod Lleol neu gorff cyngor arall
- Awdurdod Iechyd
2. Gallu darparu aelod o staff neu wirfoddolwr/wraig:
- i gyfathrebu gyda Tyfu’n Wyllt
- i gefnogi’r person ifanc / grŵp fel bo angen, e.e. defnyddio cyfleusterau ac offer, rhoi cyhoeddusrwydd i weithgareddau, darparu cyngor ac arweiniad, diogelu unigolion dan 18 oed neu oedolion bregus
- fydd ar gael trwy oes llawn y prosiect
Ni all yr aelod hwn o staff fod ag unrhyw gysylltiad teuluol gyda’r person ifanc sy’n cwblhau’r prosiect.
3. Bod yn ariannol gyfrifol am y prosiect gyda:
- chyfrif banc yn enw eu sefydliad, neu yn enw awdurdod lleol / corff sector cyhoeddus arall, ble fo’n briodol
NID yw’r sefydliadau canlynol yn gymwys:
- Busnesau preifat sy’n gweithredu er elw ac sydd â dim diben cymdeithasol
- Sefydliadau sydd â phwrpas masnachol yn unig
- Cynorthwyo gyda’r cais a rheoli’r grant:
- Cefnogi’r person ifanc gyda chynllunio eu prosiect a pharatoi eu cais.
- Mae rhaid ichi ddarparu copi o bolisi a gweithdrefnau diogelu plant ac oedolion agored i niwed eich sefydliad i’r ymgeisydd. Yna, bydd angen i’r ymgeisydd uwchlwytho hwn i’w ffurflen gais.
- Sicrhau bod caniatâd ysgrifenedig yn ei le gan berchennog neu reolwr unrhyw ofodau neu leoliadau ble trosglwyddir gweithgareddau’r prosiect.
- Derbyn y grant ar ran y person ifanc.
- Sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario fel yr amlinellir yn y cais ac yn unol â chanllawiau Tyfu’n Wyllt.
Sylwer – ni all Tyfu’n Wyllt gefnogi prosiectau tyfu a drosglwyddir mewn ardaloedd agored o gefn gwlad, neu ardaloedd cadwraeth neu a warchodir, fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Yn ogystal, ni all Tyfu’n Wyllt ariannu prosiectau sy’n galw am ganiatâd cynllunio, oherwydd amserlen y rhaglen.
2. Cyfathrebu a goruchwylio:
- Cefnogi’r person ifanc gyda throsglwyddiad y prosiect o ddydd-i-ddydd, gan gynnwys cwrdd gyda’r person ifanc yn rheolaidd i drafod y prosiect a darparu cyngor ac arweiniad fel bo angen.
- Cysylltwch gyda Tyfu’n Wyllt os dewch i wybod nad yw’r prosiect yn cael ei drosglwyddo fel y trefnwyd.
3. Iechyd, diogelwch a hygyrchedd:
- Trafod a chynllunio gyda’r person ifanc sut gaiff y prosiect ei drosglwyddo’n ddiogel.
- Sicrhau iechyd, diogelwch, a lles pawb sy’n cyfranogi trwy gydol oes y prosiect, yn cynnwys diogelu pobl ifanc dan 18 oed ac oedolion bregus.
- Sicrhewch bod y prosiect yn hygyrch i bawb sy’n cyfranogi, yn cynnwys rhai sydd ag anghenion cefnogaeth ychwanegol.
- Cyflwyno dogfennau
Bydd angen i Tyfu’n Wyllt weld copi o’r dogfennau canlynol cyn y gellir rhyddhau’r cyllid:
- Cyfansoddiad (neu ddogfen debyg a gytunwyd gan y Sefydliad Cefnogol) yn amlinellu pwrpas ac amcanion y sefydliad, neu dystiolaeth bod y sefydliad yn rhan o awdurdod lleol neu gorff sector cyhoeddus arall.
- Polisi a gweithdrefnau diogelu.
Mae’n bosibl y gofynnir hefyd am ddogfennau ychwanegol a thystiolaeth o wiriadau datgelu perthnasol (sy’n benodol i’r wlad unigol) os bydd cais yn llwyddiannus:
- Polisi cyfle cyfartal.
- Polisi a gweithdrefnau iechyd a diogelwch.
- Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy’n addas ar gyfer y prosiect arfaethedig.
- Canllawiau gwirfoddoli.
- Caniatâd ysgrifenedig gan berchennog neu reolwr unrhyw ofodau neu leoliadau ble trosglwyddir gweithgareddau’r prosiect.
Mewn achosion ble mae’r prosiect yn cynnwys pobl ifanc dan 18 oed a / neu oedolion bregus, bydd gan y Sefydliad Cefnogol y cyfrifoldebau ychwanegol canlynol:
- Sicrhau bod caniatâd rhiant / gwarcheidwad yn ei le er mwyn i:
- Bobl ifanc ymgeisio, arwain a chymryd rhan mewn gweithgareddau a drosglwyddir fel rhan o’r prosiect (*gweler y nodyn isod).
- Pobl ifanc i ymddangos yn y fideo cais.
2. Gwiriadau datgelu a diogelu:
- sicrhau bod pob aelod o staff a’r holl wirfoddolwyr sy’n gweithio gyda’r prosiect, wedi derbyn gwiriad datgelu (sy’n berthnasol i’w lleoliad yn y DU a’r gweithgareddau dan sylw) a’u bod wedi derbyn hyfforddiant priodol i gefnogi’r grŵp a’i weithgareddau.
- diogelu plant dan 18 oed a / neu oedolion bregus tra eu bod yn cymryd rhan yn y prosiect (yn cynnwys unrhyw weithgarwch perthnasol ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol).
* Oherwydd polisïau diogelu plant a diogelu data Kew, ble fo arweinydd y prosiect dan 18 oed, bydd Tyfu’n Wyllt wastad yn cysylltu gyda chi fel y Sefydliad Cefnogol ym mhob gohebiaeth am gais arweinydd y prosiect ac, os yn llwyddiannus, y prosiect ei hun.
** Os ydych yn cefnogi cais oddi wrth berson ifanc sydd ag anghenion cefnogaeth ychwanegol, cofiwch gysylltu gyda Tyfu’n Wyllt. Mae hyn fel y gallwn drafod y ffordd orau i Tyfu’n Wyllt gefnogi a chyfathrebu gyda nhw am eu prosiect.
Gwahoddir pob ymgeisydd llwyddiannus i gwblhau y dyfarniad newydd Gwobr Arweinydd Amgylcheddol Ifanc Kew (YELA) ochr-yn-ochr â’u prosiect. Mae’r wobr hon yn anelu i atgyfnerthu arweinyddion ifanc, gan gynyddu eu sgiliau a’u hyder i yrru newid amgylcheddol yn eu cymunedau. Mae’r wobr, sydd wedi ei dylunio i alinio’n berffaith gyda’u Prosiect Ieuenctid Tyfu’n Wyllt, yn sicrhau y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gwneud y mwyaf o’r cyfle grant ac yn derbyn cydnabyddiaeth oddi wrth Erddi Botaneg Brenhinol, Kew i’w ychwanegu i’w CV neu bortffolio.
Mae cofrestru ar gyfer y wobr yn ddewisol, ond rydym yn eich annog i gefnogi eich ymgeiswyr i gymryd rhan. Bydd Tyfu’n Wyllt yn darparu hyfforddiant ar-lein, adnoddau ac adborth. Mae eich rôl chi’n cynnwys cefnogaeth o ddydd-i-ddydd, ateb unrhyw gwestiynau a threfnu cyfarfodydd cynnydd, er mwyn sicrhau cwblhau’r wobr ar amser.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfle hwn yn agored i bawb. Os ydych chi’n cefnogi person ifanc sydd ag anghenion ychwanegol neu oedolyn bregus, mae Tyfu’n Wyllt yn hapus i gynnig cymorth ychwanegol a threfniadau amgen ble fo angen.
‘Cyfle gwych - dwi mor falch imi achub ar y cyfle i ymgeisio. ’Doedd gen i ddim llawer o hyder yn fy ngallu i gyflawni prosiect fel hwn o’r blaen, roeddwn i wastad yn meddwl nad oeddwn i’n ddigon da i’w wneud fy hun. Diolch i chi am adael imi ddysgu bod rhoi tro arni, a chodi eich llaw er mwyn derbyn y cyfle’n hanner y frwydr!’
Barod i wneud cais?
Llanw’r ffurflen gais ar-lein i ymgeisio am grant Prosiect Ieuenctid 2026. Dyddiad Cau i Ymgeisio: 3pm ar 18 Mawrth 2026.
Cyn ymgeisio, cofia ddarllen yr arweiniad i ymgeiswyr yn ofalus gyda’r person cyswllt o dy Sefydliad Cefnogol.
SYLWER – os byddi’n ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, byddi’n derbyn unrhyw ohebiaeth gan dîm Tyfu’n Wyllt am dy brosiect yn Saesneg.
Cwestiynau Cyffredin
Dyma gyfle unigryw i ddod â dy syniad prosiect yn fyw!
Byddi’n cymryd camau cadarnhaol ar gyfer bioamrywiaeth, pobl a’r blaned.
Cei gysylltu, ysbrydoli a chael hwyl gyda phobl eraill.
Mae’n ffordd wych o ychwanegu profiadau newydd i dy CV neu dy bortffolio.
Dim o gwbl!
I ddweud y gwir, fe fyddwn yn falch iawn i dderbyn ceisiadau oddi wrth bobl sy’n gwybod fawr ddim am rywogaethau brodorol y DU.
Mae rhedeg dy brosiect dy hun yn ffordd wych i ddysgu. Rydym yn chwilio am frwdfrydedd a syniadau prosiect diddorol.
Yn y DU rydym yn ffodus bod gennym amrywiaeth wych o rywogaethau o blanhigion brodorol. Yn ogystal â dod a lliw a diddordeb i’n bywydau, maent yn darparu ffynonellau bwyd a lloches hanfodol ar gyfer pryfed, adar a bywyd gwyllt arall.
Mae nifer o rywogaethau brodorol y DU yn dirywio, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.
Diolch am ofyn …
Mae Gwobr Arweinydd Amgylcheddol Ifanc Kew (YELA) yn cydnabod y sgiliau arweinyddol y byddi’n eu datblygu a’u harddangos trwy drosglwyddo dy brosiect Tyfu’n Wyllt.
Trwy gwblhau’r wobr ochr-yn-ochr gyda dy brosiect Tyfu’n Wyllt, cei fynediad i hyfforddiant ac adnoddau ar-lein unigryw. Mae’r wobr wedi ei dylunio i gyd-fynd â dy brosiect Tyfu’n Wyllt, gan gynnig cydnabyddiaeth oddi wrth Erddi Botaneg Brenhinol, Kew, i’w hychwanegu i dy CV neu bortffolio.
Darllen fwy am Wobr Arweinydd Amgylcheddol Ifanc Kew
Rydym yn annog pawb sy’n derbyn Grant Prosiect Ieuenctid Tyfu’n Wyllt i gwblhau’r wobr ond bydd cofrestru’n ddewisol. Darperir y manylion llawn a’r wybodaeth ar sut i gofrestru i ymgeiswyr llwyddiannus wedi iddynt dderbyn eu grantiau prosiect.
Seeking inspiration?
We’ve funded and supported 362 young people to run their own project since 2014. You could be next...