Mae'r DU wedi cytuno i ddilyn saith o naw cytundeb hawliau dynol craidd y Cenhedloedd Unedig. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn gwneud argymhellion ar sut y gall llywodraethau'r DU a Chymru wella'r modd y maent yn gweithredu'r cytundebau hyn.
Mae'r dudalen hon yn rhoi trosolwg o'r camau y mae llywodraethau'r DU a Chymru wedi'u cymryd i gyflawni argymhellion y Cenhedloedd Unedig. Rydym wedi asesu camau gweithredu’r llywodraeth ar draws y meysydd canlynol: Systemau ar gyfer hyrwyddo hawliau dynol, addysg, iechyd, cyfiawnder, rhyddid a diogelwch personol, safonau byw, cyfranogiad a gwaith.
Rhennir pob maes yn bynciau hawliau dynol, sy'n cynnwys asesiadau o gamau gweithredu'r llywodraeth yn erbyn argymhellion penodol y Cenhedloedd Unedig. Mae'r rhain wedi disodli'r asesiadau Gwirio ar gynnydd llywodraeth y DU o fewn y Traciwr Hawliau Dynol presennol. Gallwch ddarllen holl argymhellion corff cytuniad y Cenhedloedd Unedig a wnaed i’r DU ar y traciwr, a darganfod sut i fonitro hawliau dynol.
Rydym wedi rhoi 'statws cyffredinol' i bob pwnc yn seiliedig ar y statws mwyaf cyffredin ar gyfer yr asesiadau yn y testun hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymryd camau mewn meysydd sydd wedi’u neilltuo i lywodraeth y DU. Mae hyn yn golygu mai Senedd y DU sy’n gwneud y penderfyniadau yn y meysydd hyn. Rydym wedi darparu gwybodaeth am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn, ond nid ydym wedi eu hasesu.
I ddysgu sut rydym yn gwneud ein hasesiadau a beth mae pob statws gweithredu yn ei olygu, darllenwch ein methodoleg. I gael darlun llawnach o gydymffurfiaeth y DU â rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol, darllenwch ein hadroddiadau ar fonitro a hyrwyddo cytuniadau'r Cenhedloedd Unedig.
Gobeithiwn y bydd yr asesiadau hyn yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i ysgogi gweithredu pellach a gwella hawliau dynol i bawb. I’n helpu i ddeall sut y gallwn wella’r offeryn hwn, cwblhewch ein harolwg.