Telerau defnyddio'r wefan

Wedi ei gyhoeddi: 9 Mehefin 2021

Diweddarwyd diwethaf: 9 Mehefin 2021

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • England Lloegr
  • Scotland Alban
  • Wales Cymru

Pwy ydym ni a sut i gysylltu â ni

Mae www.equalityhumanrights.com yn wefan a weithredir gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Dysgwch sut i gysylltu â ni

Telerau defnyddio gwefan

Mae'r telerau hyn yn egluro'r rheolau ar gyfer defnyddio ein gwefan. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau hyn ac yn cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad ydych yn cytuno â'r telerau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.

Ni yw corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain Fawr, felly mae ein gwefan ar gyfer pobl sy'n byw ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban).

Efallai na fydd cynnwys sydd ar gael ar, neu drwy, ein gwefan ar gael neu'n briodol i'w ddefnyddio mewn lleoliadau eraill. Dylech wirio cyfreithiau lleol a sicrhau eich bod yn defnyddio ein gwefan yn briodol mewn lleoliadau eraill.

Mae ein gwefan ar gael yn rhad ac am ddim ond:

  • nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan, na'n cynnwys, bob amser ar gael neu heb ymyrraeth
  • gallwn ddiweddaru, newid neu ddileu cynnwys ar unrhyw adeg heb roi gwybod i chi yn gyntaf
  • efallai y bydd yn rhaid i ni atal, tynnu'n ôl neu gyfyngu ar argaeledd – byddwn bob amser yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol lle gallwn
  • gallwn newid y telerau hyn

Rydych chi'n cytuno i:

  • defnyddio ein gwefan at ddibenion cyfreithlon
  • defnyddio ein gwefan mewn ffordd nad yw'n torri hawliau, nac yn cyfyngu ar nac yn atal defnydd a mwynhad y wefan hon gan unrhyw un arall
  • defnyddio ein gwefan mewn ffordd nad yw'n ymyrryd â gweithrediad na diogelwch y wefan
  • sicrhau bod unrhyw un sy'n cyrchu'r wefan gan ddefnyddio'ch cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o'r rheolau hyn ac yn cydymffurfio â nhw hefyd

Darllenwch ein polisi preifatrwydd a’n polisi cwcis am ragor o wybodaeth. 

Ailddefnyddio ein gwybodaeth

Ni sy'n berchen ar y rhan fwyaf o'r cynnwys ar ein gwefan. Mae cynnwys ein gwefan ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL) v3.0, oni nodir yn wahanol. Os yw unrhyw gynnwys yn eiddo i eraill, byddwn fel arfer yn rhoi cydnabyddiaeth i'r awdur neu ddeiliad yr hawlfraint.

Rydym yn annog ailddefnyddio ein gwybodaeth ond ni ddylech newid y cynnwys a rhaid i chi gynnwys y priodoliad 'Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), [enw a dyddiad cyhoeddi], wedi'i drwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored’.

Os hoffech ailddefnyddio ein deunyddiau ond byddai'r ailddefnyddio arfaethedig yn groes i unrhyw un o amodau'r OGL, dylech gysylltu â ni, oni bai bod eithriad yn berthnasol.

Os ydych chi eisiau defnyddio ein cynnwys at eich defnydd personol eich hun, nid oes angen i chi roi gwybod i ni sut rydych chi'n ei ailddefnyddio.

Mae defnydd personol yn golygu y gallwch gael mynediad at gynnwys o'n gwefan, ei lawrlwytho a'i argraffu ar gyfer eich defnydd personol, anfasnachol eich hun. Ni allwch addasu'r cynnwys.

Gallwch hefyd ailddefnyddio ein cynnwys yn ei ffurf wreiddiol a heb ei haddasu fel rhan o gwrs hyfforddi neu mewn cynlluniau gwersi. Mae unrhyw ddefnydd o'n gwefan neu ein cynnwys ac eithrio at ddefnydd personol yn ddarostyngedig i delerau unrhyw drwydded berthnasol, gan gynnwys yr OGL.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw:

  • cyhoeddiadau
  • atgynhyrchiadau
  • dosbarthu
  • defnydd masnachol

Os nad oes trwydded yn berthnasol, yna mae angen ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

Nid yw delweddau ar gael i'w hailddefnyddio o dan yr OGL oherwydd yn y rhan fwyaf o achosion, trydydd parti sy'n dal hawlfraint. Ni chaniateir defnyddio unrhyw logos neu frandio EHRC heb ein caniatâd chwaith. Nid ydym yn rhoi unrhyw hawliau i unrhyw un ailddefnyddio delweddau na logos. Nid yw cynnwys trydydd parti ar gael o dan yr OGL chwaith.

Nid yw gwefannau a chymwysiadau sy'n defnyddio ein cynnwys yn eu porthwyr yn eiddo i ni ac efallai y byddant yn defnyddio fersiynau o'n cynnwys sydd wedi'u golygu a'u storio i'w defnyddio'n ddiweddarach ('wedi'u storio yn y storfa'). Ewch i'n gwefan yn uniongyrchol am y cynnwys diweddaraf.

Nid yw hawliau eiddo deallusol yr EHRC, gan gynnwys hawlfraint yn ei ddeunyddiau, yn cael eu heffeithio gan ein cymhwysiad gwirfoddol o'r OGL. Mae'r hawliau hyn yn dal i fod yn eiddo i'r EHRC.

Os ydych chi eisiau defnyddio ein gwybodaeth mewn unrhyw ffordd arall, cysylltwch â ni drwy lenwi'r ffurflen gais, sydd ar gael i'w lawrlwytho ar y dudalen hon, a'i dychwelyd atom drwy e-bostio ein tîm gohebiaeth.

Gellir gwneud ceisiadau hefyd yn ysgrifenedig i:

Uned Gohebiaeth/Correspondence Unit
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol/EHRC
Arndale House
The Arndale Centre
Manceinion/Manchester
M4 3AQ

Byddwn yn ceisio ymateb i'ch cais o fewn 20 diwrnod gwaith. Os oes gennych gŵyn am sut y cafodd eich cais ei drin neu os ydych chi eisiau adolygiad o'n penderfyniad, ysgrifennwch at gyfeiriad yr Uned Gohebiaeth neu e-bostiwch ein tîm gohebiaeth.  

Dolenni i wefannau eraill

Lle mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau ac adnoddau eraill, darperir y dolenni hyn er eich gwybodaeth yn unig.

Ni ddylid dehongli dolenni o'r fath fel cymeradwyaeth gennym ni o'r gwefannau cysylltiedig hynny na gwybodaeth amdanynt.

Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau neu'r adnoddau hynny ac nid ydym yn gyfrifol am:

  • diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i'r gwefannau hyn
  • unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o'ch defnydd o'r gwefannau hyn, neu unrhyw wefannau eraill y maent yn cysylltu â nhw

Dolenni i'n gwefan

Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill sy'n cysylltu â'n gwefan.

Fodd bynnag, gofynnwn i chi beidio â:

  • dweud na awgrymu ein bod wedi'ch cymeradwyo neu ein bod yn gysylltiedig â chi (oni bai ein bod wedi dweud wrthych y gallwch)
  • codi tâl ar ddefnyddwyr i gael mynediad at y cynnwys neu glicio ar y ddolen
  • fframio ein gwefan ar eich gwefan
  • cysylltu ein gwefan â gwefan sy'n groes i'n gwerthoedd a'n hamcanion

Efallai y byddwn yn tynnu cynnwys a dolenni felly mae'n bwysig eich bod bob amser yn gwirio i sicrhau eu bod yn dal yn gyfredol ac yn gweithio.

Os ydych chi am wneud unrhyw ddefnydd o gynnwys ar ein gwefan heblaw'r hyn a nodir uchod, anfonwch e-bost at ein tîm gohebiaeth.

Firysau, hacio a throseddau eraill

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ym mhob cam o'r broses gynhyrchu, fodd bynnag, nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan, nac unrhyw gynnwys arni, ar gael bob amser.

Wrth ddefnyddio ein gwefan, rydych chi:

  • yn gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a llwyfan i'w gyrchu
  • dylech ddefnyddio eich meddalwedd amddiffyn rhag firysau eich hun
  • rhaid i chi beidio â chyflwyno firysau, Trojans, mwydod, bomiau rhesymeg na deunydd arall sy'n faleisus neu'n niweidiol yn dechnolegol
  • rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i'n gwefan, y gweinydd y mae ein gwefan wedi'i storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â'n gwefan
  • rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein gwefan (gan gynnwys trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth dosbarthedig)

Os byddwch yn ymosod ar ein gwefan neu'n ceisio cael mynediad heb awdurdod, byddwn yn eich adrodd i'r awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol ac yn rhannu eich hunaniaeth gyda nhw.

Ymwadiad

Bwriad ein gwefan yw rhoi gwybodaeth gyffredinol i chi am ein gwaith a chanllawiau ynghylch materion cydraddoldeb a hawliau dynol.

Cyn gweithredu ar yr wybodaeth, dylech gael cyngor cyfreithiol neu arbenigol proffesiynol, wedi'i deilwra i'ch amgylchiadau unigol.

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i gadw ein gwefan yn gyfredol, nid ydym yn sicrhau, yn gwarantu nac yn amodi y bydd y wefan na'r wybodaeth arni bob amser:

  • yn gyfredol neu heb ymyrraeth
  • yn ddiogel neu'n rhydd o fygiau neu firysau
  • yn rhydd o wallau neu hepgoriadau

Cyfyngu ar atebolrwydd

Ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o ddefnyddio, neu beidio â gallu defnyddio, ein gwefan neu ddibyniaeth ar y cynnwys. Mae hyn yn cynnwys:

  • unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol
  • unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan gamweddau sifil, torri contract neu fel arall
  • defnyddio ein gwefan ac unrhyw wefannau sydd wedi'u cysylltu â hi neu ohoni
  • yr anallu i ddefnyddio ein gwefan ac unrhyw wefannau sydd wedi'u cysylltu â hi neu ohoni

Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, golli eich:

  • incwm neu refeniw
  • cyflog, buddion neu daliadau eraill
  • busnes
  • elw neu gontractau
  • cyfle
  • arbedion disgwyliedig
  • data
  • ewyllys da neu enw da
  • eiddo diriaethol
  • eiddo anniriaethol, gan gynnwys colled, llygredd neu ddifrod i ddata neu unrhyw system gyfrifiadurol
  • amser rheoli neu swyddfa gwastraffus
  • unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol

Rydym yn eithrio pob amod, gwarant, cynrychiolaeth neu delerau eraill ymhlyg a allai fod yn berthnasol i'n gwefan neu unrhyw gynnwys arni.

Gallwn fod yn atebol o hyd am:

  • marwolaeth neu anaf personol sy'n deillio o'n hesgeulustod
  • camliwio twyllodrus
  • unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na'i gyfyngu o dan y gyfraith berthnasol

Cyfraith berthnasol

Mae'r telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru, Lloegr a'r Alban.

Bydd unrhyw anghydfod sydd gennych sy'n ymwneud â'r telerau ac amodau hyn, neu'ch defnydd o'n gwefan (boed yn gytundebol neu'n anghytundebol), yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru, Lloegr a’r Alban.

Lawrlwythiadau dogfen

Footnotes

    Diweddariadau tudalennau

    Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon