Datganiad hygyrchedd
Wedi ei gyhoeddi: 26 Awst 2022
Last reviewed: 7 Ionawr 2026
Diweddarwyd diwethaf: 2 Chwefror 2026
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan www.equalityhumanrights.com.
Defnyddio'r wefan hon
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a meintiau ffont
- chwyddo i mewn hyd at 400% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd yn unig
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin, gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:
- ni allwch addasu uchder llinell na bylchau testun
- efallai na fydd rhai dogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
- nid oes digon o gyferbyniad lliw mewn rhai rhannau o'r wefan
- nid oes disgrifiadau delweddau gan rai delweddau ac eiconau gweledol
- ni ellir cyrchu rhywfaint o destun yn llawn gyda bysellfwrdd
- nid yw rhywfaint o gynnwys wedi'i ysgrifennu mewn Saesneg plaen
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').
Rydym ni (y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) yn gyfrifol am orfodi'r rheoliadau hygyrchedd.
Os ydych chi'n anfodlon â'r ffordd rydym wedi ymateb i chi, yna gallwch ofyn i'ch cwyn gael ei hadolygu gan yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (PHSO). Mae'r PHSO yn annibynnol arnom ni.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon fersiwn 2.2 AA o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.
Rhoddir mwy o fanylion yn yr adran 'cynnwys nad yw'n hygyrch' yn y datganiad hwn.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, gallwch ofyn am hyn.
Anfonwch e-bost at y tîm gohebiaeth
Ffoniwch 0161 829 8100
Ysgrifennu at:
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC)
Arndale House
Arndale Centre
Manceinion / Manchester
M4 3AQ
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn anelu at ateb o fewn 20 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn edrych i wella hygyrchedd y wefan hon.
Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, gallwch gysylltu â ni.
Anfonwch e-bost at y tîm gohebiaeth
Ffoniwch 0161 829 8100
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn gyntaf ar 26 Awst 2022 gan ddefnyddio cymysgedd o ddulliau â llaw ac awtomataidd.
Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 7 Ionawr 2026.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Hydref 2025, gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth. Profasant sampl o'r tudalennau a ymwelwyd â nhw fwyaf.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir yn hygyrch. Rhoddir rheswm ar gyfer pob eitem yn y rhestr.
Cynhyrchwyd rhai o'r PDFs ar ein gwefan cyn 23 Medi 2018. Nid yw'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio problemau yn y dogfennau hŷn hyn.
Diffyg cydymffurfiaeth â'r rheoliadau hygyrchedd
- Nid oes gan eiconau baneri unrhyw gyfwerth testun. Byddant yn cael eu cuddio rhag defnyddwyr darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 (cynnwys di-destun).
- Nid yw'r iaith a ddewiswyd yn cael ei chyfleu'n glir i ddarllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a pherthnasoedd).
- Dim ond dangosydd gweledol sy'n amlygu'r adran weithredol. Ni fydd defnyddwyr darllenydd sgrin yn cael yr wybodaeth hon yn cael ei chyfleu iddynt. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a pherthnasoedd).
- Nid yw hidlwyr dyddiad chwilio wedi'u labelu'n hygyrch. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a pherthnasoedd).
- Nid yw hierarchaeth y penawdau ar gyfer y tagiau chwilio yn glir. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a pherthnasoedd).
- Ni ellir diystyru baner cwcis yn y modd tirwedd nac ar lefel chwyddo uchel. Gall hyn olygu na all defnyddwyr gael mynediad i'r wefan yn dibynnu ar eu dyfais neu gyfluniad sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.4 WCAG 2.2 (cyfeiriad) ac maen prawf llwyddiant 1.4.4 WCAG 2.2 (newid maint testun).
- Mae rhai botymau'n defnyddio newid lliw heb ddigon o gyferbyniad i gyfleu ffocws y bysellfwrdd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.1 WCAG 2.2 (defnyddio lliw).
- Mae rhai dolenni cyfeiriadau e-bost yn ymestyn y tu hwnt i led llawn y dudalen. Mae hyn yn golygu na ellir eu darllen yn llawn heb sgrolio llorweddol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.10 WCAG 2.2 (ail-lifo).
- Nid yw botwm dewis llywodraeth Traciwr Hawliau Dynol yn newid ei ymddangosiad pan gaiff ei chwyddo i 400%. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.10 WCAG 2.2 (ail-lifo).
- Nid oes digon o gyferbyniad lliw mewn rhai dangosyddion ffocws ac adran weithredol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.11 WCAG 2.2 (cyferbyniad di-destun).
- Ni ellir defnyddio rhai dolenni, bwydlenni ac acordionau gyda bysellfwrdd, neu nid ydynt yn symud ffocws y bysellfwrdd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.1.1 WCAG 2.2 (bysellfwrdd).
- Nid oes gan ddolenni i gael gwared ar hidlwyr chwilio ddewisiadau amgen testun llawn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.2 (pwrpas y ddolen (yn ei chyd-destun)).
- Nid yw hidlwyr chwilio i gyd yn gwbl ddisgrifiadol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.6 WCAG 2.2 (penawdau a labeli).
- Nid oes gan rai bwydlenni a baneri ffocws bysellfwrdd gweladwy. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.7 WCAG 2.2 (ffocws gweladwy).
- Mae rhai elfennau, fel bwydlenni, yn cuddio eitemau eraill ar y dudalen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.11 WCAG 2.2 (ffocws heb ei guddio (isafswm)).
- Mae rhywfaint o gynnwys ar y tudalennau Cymraeg yn Saesneg, ond nid yw hyn yn cael ei gyfleu i ddefnyddwyr. Mae hyn yn methu â chyflawni maen prawf llwyddiant 3.1.2 WCAG 2.2 (iaith rhannau).
Footnotes
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
26 Awst 2022
Last reviewed:
7 Ionawr 2026
Diweddarwyd diwethaf
2 Chwefror 2026