Cysylltwch â ni

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • England Lloegr
  • Scotland Alban
  • Wales Cymru

Am ymholiadau cyffredinol a gwybodaeth amdanom ni

Cysylltwch trwy un o'r dulliau isod:

E-bost: [email protected]

Ffôn: 0161 829 8100

Llenwch ein ffurflen ar-lein

Ysgrifennwch atom yn:

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol/Equality and Human Rights Commission
Uned Gohebiaeth/Correspondence Unit
Arndale House
The Arndale Centre
50 Victoria Street
Manceinion/Manchester

M4 3AQ

Gwasanaeth trosglwyddo BSL:

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio dehonglydd fideo Iaith Arwyddion Prydain, drwy'r gwasanaeth InterpretersLive!

Mae'r gwasanaeth ar gael ar alw. Gallwch ei ddefnyddio i gysylltu â ni yn ystod ein horiau agor.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb tan 5yh.

Os oes angen ymateb i'ch ymholiad, fel arfer rydym yn anelu at ateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, gan ein bod yn profi lefelau uchel iawn o ymholiadau, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ni ateb nag arfer. Ymddiheurwn o flaen llaw am unrhyw anghyfleuster a diolch  am fod yn amyneddgar gyda ni.

Ffyrdd eraill o ddarganfod mwy amdanom ni:

Darllenwch amdanom ni ac am ein gwaith.

Darganfyddwch am ein swyddfeydd.

Am wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar faterion gwahaniaethu a hawliau dynol

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cymorth Cynghori ar Gydraddoldeb (EASS):

Ffôn: 0808 800 0082

Gallwch anfon e-bost gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.

Mae gwefan EASS hefyd yn cynnig gwasanaeth dehongli BSL, gwasanaethau gwe-sgwrs a ffurflen cysylltu â ni.

Postio:
RHADBOST
LLINELL GYMORTH EASS
FPN6521

Oriau agor:

9yb i 7yh o ddydd Llun i ddydd Gwener
10yb i 2yh dydd Sadwrn
ar gau ar y Sul a Gwyliau Banc

Beth yw'r EASS?

Comisiynir EASS gan y llywodraeth ac mae'n gweithio gyda sefydliadau cynghori eraill a chyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ni all y Comisiwn ymateb i ymholiadau unigol am gyngor a chymorth gan mai dyma rôl EASS. Os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth y mae EASS wedi'i ddarparu, dilynwch broses gwyno EASS.

Gall yr EASS:

  • rhoi cyngor pwrpasol i unigolion ar draws Prydain Fawr gyfan ar faterion gwahaniaethu
  • esbonio hawliau cyfreithiol a rhwymedïau o fewn deddfwriaeth gwahaniaethu, ar draws y tair gwlad
  • esbonio opsiynau ar gyfer datrysiad anffurfiol a helpu pobl i fynd ar eu trywydd
  • cyfeirio pobl na allant neu nad ydynt yn dymuno gwneud hynny i wasanaethau cymodi neu gyfryngu
  • helpu pobl sydd angen neu sydd eisiau dod o hyd i ateb cyfreithiol trwy helpu i sefydlu cymhwyster ar gyfer cymorth cyfreithiol ac, os nad ydynt yn gymwys, i ddod o hyd i wasanaeth cyfreithiol hygyrch neu i baratoi a chyflwyno hawliad eu hunain

Ond ni all:

  • darparu cyngor cyfreithiol
  • darparu cynrychiolaeth mewn unrhyw achos cyfreithiol
  • darparu cyngor ar weithdrefnau llys neu dribiwnlys ar ôl i hawliad gael ei gyhoeddi
  • cynghori ar gryfder achos neu'r dystiolaeth sydd ei hangen i brofi achos
  • darparu cyngor i gyflogwyr
  • darparu cyngor i gyfreithwyr a chynghorwyr proffesiynol eraill

Mae’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) yn wasanaeth cynghori annibynnol, nad yw’n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ar gyfer cwynion am y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cwyn

E-bostiwch eich cwyn i [email protected]

Anfonwch eich cwyn atom drwy'r post:

Uned Gohebiaeth/Correspondence Unit
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol/Equality and Human Rights Commission
Arndale House
Arndale Centre
Manceinion/Manchester
M4 3AQ

Os na allwch anfon eich cwyn atom yn ysgrifenedig oherwydd anabledd a bod angen addasiad rhesymol arnoch, ffoniwch ni ar 0161 829 8237.

I roi gwybod i ni am eich hawliad gwahaniaethu

Hawliadau yng Nghymru a Lloegr

Nid oes unrhyw fformat penodol y mae angen i'r wybodaeth hon ei chymryd. Rydym yn awgrymu anfon copi o’r ffurflen hawlio a llythyr atom yn nodi:

  • eich bod yn rhoi hysbysiad i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch cychwyn achosion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • enw'r parti arall
  • enw'r llys
  • rhif yr achos

Anfonwch hwn atom trwy e-bost:

[email protected]

Peidiwch ag anfon dogfennau cyfrinachol.

Hawliadau yn yr Alban

Yn yr Alban dylech anfon copi o'r gwrit neu ddatganiad o hawliad atom.

Anfonwch hwn atom trwy e-bost:

[email protected]

Os nad ydych yn gallu darparu gwybodaeth hawlio i ni yn electronig oherwydd anabledd neu unrhyw reswm arall, ffoniwch ni ar 0161 829 8327. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau bod eich hawliad wedi'i gofrestru gyda'r Comisiwn.

Pam fod angen i mi anfon yr wybodaeth hon?

Mae rheolau’r llys yn dweud bod yn rhaid i chi roi gwybod i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol pan fyddwch yn cyflwyno cwyn sy’n ymwneud â chydraddoldeb.

Ar gyfer hawliadau yn y llys sirol (Cymru a Lloegr), nodir hyn ym mharagraff 2 o’r rheolau (a elwir yn Gyfarwyddyd Ymarfer), o dan adran 114 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Ar gyfer hawliadau yn llys y siryf (yr Alban), nodir hyn yn Rheol 44.2 y Rheolau Achosion Cyffredin a Rheol 17.14 y Rheolau Gweithdrefn Syml.

Y diben yw inni weld natur a nifer yr achosion cyfraith gwahaniaethu a ddygir i'r llysoedd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ni ymyrryd mewn achos o dan Adran 30 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006.

Gwnawn hyn os yw’r achos yn unol â’n polisi ymgyfreitha a gorfodi a’n bod yn meddwl y gallwn gynorthwyo’r llys drwy ddarparu tystiolaeth arbenigol. Felly, mae gwybodaeth sy’n rhoi digon o fanylion inni ystyried hyn yn ddefnyddiol.

Mae'r wybodaeth a gawn at ddibenion cudd-wybodaeth yn unig ac nid yw'n cael ei chyhoeddi fel mater o drefn. Mae'n cael ei gofnodi a'i storio yn unol â'n polisïau diogelwch a chadw data. I weld sut rydym yn defnyddio eich data personol pan fyddwch yn ei roi i ni, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.

Ar gyfer ceisiadau diogelu data

Mae Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 yn rheoleiddio sut mae gwybodaeth am unigolion yn cael ei thrin, ei storio, ei defnyddio a'i rhannu.

Mae’r polisi diogelu data hwn yn nodi sut rydym yn cydymffurfio â’r gyfraith i wneud yn siŵr ein bod yn trin ac yn diogelu data personol yn briodol.

Os hoffech i ni roi copi i chi o unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch, anfonwch e-bost at y tîm Llywodraethu Gwybodaeth, neu bostio eich cais i:

Tîm Llywodraethu Gwybodaeth/Information Governance Team
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol/Equality and Human Rights Commission
Arndale House
Arndale Centre
Manceinion/Manchester
M4 3AQ

Darllenwch ein polisi diogelu data yma.

Ar gyfer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI).

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais, neu e-bostiwch [email protected]

Gallwch hefyd anfon eich cais drwy'r post i'r cyfeiriad isod:
Sylw: Tîm Llywodraethu Gwybodaeth/Information Governance Team
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol/Equality and Human Rights Commission
Arndale House
Arndale Centre
Manceinion/Manchester M4 3AQ

Darllenwch fwy am ein polisi Rhyddid Gwybodaeth yma.

Ar gyfer chwythu'r chwiban neu ein hysbysu am bryderon am eich cyflogwr

Cwblhewch y ffurflen ar-lein

Fel arall, gallwch e-bostio eich pryderon i [email protected]

Gallwch hefyd ein ffonio ar 0161 829 8100 i drefnu galwad.

Os oes angen canllaw Hawdd ei Ddeall arnoch am yr wybodaeth sydd ei hangen arnom gennych chi, e-bostiwch [email protected]

Darllenwch fwy am ein gwaith ar chwythu'r chwiban yma.

Ar gyfer ymholiadau gan weithwyr cyfreithiol proffesiynol

Dylai cynrychiolwyr cyfreithiol ffonio'r Llinell Gymorth Gyfreithiol (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).

Lloegr: 0161 829 8190

Cymru: 029 2044 7790

Gellir cysylltu â'r Llinell Gymorth Gyfreithiol hefyd yn [email protected]

Cofiwch y bydd sicrhau cymorth fel arfer yn cymryd mwy na phedair wythnos, felly gofynnwn i chi gysylltu â ni cyn gynted ag y gallwch.

Byddai o gymorth i ni pe gallech edrych drwy ein cynllun busnes a’n polisi ymgyfreitha a gorfodi cyn cysylltu â ni ynglŷn ag achos.

Gweithwyr cyfreithiol proffesiynol: gofynnwch am help ar-lein

Mae'r ffurflenni hyn ar gyfer gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn unig. Os ydych yn aelod o’r cyhoedd, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwahoddwch un o'n cyfreithwyr i fynychu neu siarad yn eich digwyddiad

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wahodd un o’n cyfreithwyr i fynychu neu siarad yn eich digwyddiad.

Ar gyfer ymholiadau ynghylch dod yn gyflenwr neu gontractwr gyda ni

Ewch i'n Porth Caffael i ddysgu am gyfleoedd contract ar gyfer nwyddau a gwasanaethau na ellir eu caffael drwy gontractau cyfredol neu gytundebau fframwaith.

Mae cyfleoedd contract gwerth uwch hefyd yn cael eu hysbysebu ar y canfyddwr contractau ac ar y gwasanaeth Find a Tendr yn ôl yr angen. Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi hysbysiadau dyfarnu contract ar gyfer y cyfleoedd contract gwerth uwch a hysbysebir.

Pan fyddwch chi'n ymweld â'r Porth am y tro cyntaf, cofrestrwch trwy ddilyn y ddolen Cofrestru Rhad ac Am Ddim ar ochr dde uchaf y dudalen lanio.

Cofiwch ddewis codau diddordeb Geirfa Caffael Cyffredin (CPV) a fydd yn cynhyrchu hysbysiad e-bost awtomatig pan gyhoeddir hysbyseb yn cynnwys y codau hynny.

Rydym yn defnyddio'r codau CPV canlynol yn rheolaidd.

  • 79315000 - Gwasanaethau ymchwil cymdeithasol
  • 98200000 - Gwasanaethau ymgynghorol cyfle cyfartal

Darllenwch fwy am ein prosesau caffael yma.

Footnotes