Talu’ch bil treth Asesiad Syml
Printable version
1. Trosolwg
Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil treth Asesiad Syml os ydych wedi cael llythyr oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’n bosibl y cewch lythyr Asesiad Syml os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae arnoch Dreth Incwm nad oes modd ei didynnu oddi wrth eich incwm yn awtomatig
- mae arnoch £3,000 neu fwy i CThEF
- mae’n rhaid i chi dalu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych o’r farn bod unrhyw wybodaeth yn y llythyr yn anghywir, neu os na allwch dalu’ch bil mewn pryd, mae’n rhaid i chi gysylltu â CThEF cyn pen 60 diwrnod.
Gallwch ddysgu rhagor am eich bil treth Asesiad Syml, a’r hyn i’w wneud os ydych o’r farn bod eich cyfrifiad treth yn anghywir.
Sut i dalu
Gallwch wneud y canlynol:
Pryd i dalu
Os byddwch yn cael llythyr Asesiad Syml:
- cyn 31 Hydref 2026 (ar gyfer blwyddyn dreth 6 Ebrill 2025 i 5 Ebrill 2026) – bydd angen i chi dalu’r swm sydd arnoch erbyn 31 Ionawr 2027
- ar neu ar ôl 31 Hydref 2026 (ar gyfer blwyddyn dreth 6 Ebrill 2025 i 5 Ebrill 2026, neu unrhyw flwyddyn dreth gynharach) – bydd angen i chi dalu’r swm sydd arnoch cyn pen 3 mis i ddyddiad y llythyr
Gallwch gael help os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd.
2. Talu ar-lein
Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:
- cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein – bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Bydd ffi yn cael ei chodi os byddwch yn talu â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.
Os byddwch yn talu drwy eich cyfrif bancio ar-lein
Dim ond taliad ar unwaith y gallwch ei wneud drwy’ch cyfrif bancio ar-lein. Gall y taliad gymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Talu’ch bil treth Asesiad Syml ar-lein
Byddwn yn gofyn i chi a ydych am fewngofnodi i’ch Cyfrif Treth Personol pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Bydd mewngofnodi yn golygu y gallwch weld a thalu unrhyw dreth sydd arnoch, ond byddwch yn dal i fod yn gallu talu heb fewngofnodi.
Os oes arnoch dreth o’r cyfnod cyn 6 Ebrill 2024, ni allwch weld na thalu treth gan ddefnyddio’ch Cyfrif Treth Personol.
Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Gallwch weld hwn ar eich llythyr Asesiad Syml.
Gallwch dalu’r balans sy’n weddill yn llawn neu ei rannu’n daliadau llai. Mae’n rhaid i chi dalu’r hyn sydd arnoch erbyn y dyddiad cau sydd i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.
Talu drwy ap CThEF
Gallwch hefyd ddefnyddio ap CThEF i dalu’ch bil gan ddefnyddio ap eich banc.
3. Talu drwy drosglwyddiad banc
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:
- drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
- gan ffonio’ch banc
Bydd angen y cyfeirnod talu sydd ar eich llythyr Asesiad Syml arnoch. Mae hwn yn 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Fel arfer, bydd taliadau yn cyrraedd Cyllid a Thollau EF (CThEF) fel a ganlyn:
- Taliadau Cyflymach – ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
- CHAPS – yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc
- taliadau Bacs – cyn pen 3 diwrnod gwaith
Gwiriwch amserau prosesu’ch banc, a’i derfynau o ran trafodion mwyaf, cyn i chi wneud taliad.
Gallwch dalu’r balans sy’n weddill yn llawn, neu, gallwch ei rannu’n daliadau llai. Mae’n rhaid i chi dalu’r hyn sydd arnoch erbyn y dyddiad cau sydd ar eich llythyr Asesiad Syml.
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU
Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:
- cod didoli - 08 32 10
- rhif y cyfrif - 12001020
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Os ydych yn talu o gyfrif tramor
Defnyddiwch y manylion banc canlynol i dalu CThEF o gyfrif banc tramor:
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
4. Talu â siec
Gallwch dalu â siec drwy’r post. Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’ a’i hanfon i:
CThEF
Direct
BX5 5BD
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu ar gefn y siec – mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hwn i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.
Fel arfer, mae’n cymryd hyd at 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.