Cofrestru'r farwolaeth

Ar ôl i rywun farw, rhaid i’w meddyg gadarnhau’r farwolaeth cyn cysylltu â’r archwiliwr meddygol. Gall hyn gymryd ychydig ddyddiau.

Yna bydd archwiliwr meddygol yn gwirio achos y farwolaeth i wneud yn siŵr ei fod yn gywir. Byddant yn uwch feddyg ac ni fyddant wedi bod yn rhan o ofal y person sydd wedi marw.

Yna bydd swyddfa’r archwilydd meddygol y cysylltu â chi i:

  • egluro achos y farwolaeth
  • ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hyn neu’r gofal iechyd a ddarparwyd i’r person cyn iddo farw

Mae hyn yn wirfoddol ac nid oes rhaid i chi siarad â nhw.

Cofrestru’r farwolaeth

Rhaid i chi aros i swyddfa’r archwiliwr meddygol gadarnhau y gallwch gofrestru’r farwolaeth.

Cofrestrwch y farwolaeth o fewn 5 diwrnod (8 diwrnod yn yr Alban) i gael y cadarnhad. Mae hyn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Os oes angen mwy na 5 diwrnod arnoch, rhaid i chi ddweud wrth y swyddfa gofrestru ar unwaith.

Ar ôl i chi gofrestru’r farwolaeth

Byddwch yn cael tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi (a elwir yn aml yn ‘y ffurflen werdd’).

Rhowch y dystysgrif i’ch trefnydd angladdau, amlosgfa neu awdurdod claddu. Rhaid i chi wneud hyn cyn y gall yr angladd ddigwydd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).