Y gofrestr etholiadol a'r 'gofrestr agored'
Printable version
1. Ychwanegu eich enw at y gofrestr etholiadol
Mae’r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio.
Defnyddiwch y gwasanaeth cofrestru i bleidleisio i ychwanegu eich enw at y gofrestr etholiadol.
I ddiweddaru eich manylion (er enghraifft, newid eich enw neu eich cyfeiriad) dylech naill ai:
-
ddefnyddio’r gwasanaeth cofrestru i bleidleisio os ydych yn byw yn y DU
-
cysylltu â’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol a gadarnhaodd eich bod wedi’ch cofrestru fel pleidleisiwr tramor os ydych yn byw dramor
I gadarnhau a ydych eisoes ar y gofrestr:
-
cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
-
defnyddiwch y gwasanaeth Am I Registered os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Y canfasiad blynyddol
O fis Gorffennaf bob blwyddyn, bydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cysylltu ag aelwydydd i gadarnhau a yw’r manylion ar y gofrestr etholiadol yn gywir. Gallant hefyd ddweud wrthych gofrestru i bleidleisio os nad ydych eisoes wedi cofrestru. Y canfasiad blynyddol yw’r enw ar hyn.
Byddant yn cysylltu â chi drwy’r post, drwy e-bost, dros y ffôn neu bydd rhywun yn curo ar eich drws.
Nid oes canfasiad blynyddol yng Ngogledd Iwerddon.
Beth sy’n digwydd os nad ydych yn cofrestru
Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio os bydd Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gofyn i chi wneud hynny a’ch bod yn bodloni’r amodau ar gyfer cofrestru.
Os na fyddwch yn cofrestru ar ôl cael cais i wneud hynny, gallech gael dirwy o hyd at £1,000.
Ni fyddwch yn cael dirwy os bydd gennych reswm dilys dros beidio â chofrestru, er enghraifft arhosiad hir yn yr ysbyty, neu os oes gennych anawsterau dysgu difrifol.
Pryd y gallwch gofrestru mewn mwy nag un lle
Mae weithiau’n bosibl cofrestru mewn dau gyfeiriad (er mai dim ond unwaith y gallwch bleidleisio mewn unrhyw etholiad).
Er enghraifft, os ydych yn fyfyriwr a bod cyfeiriad eich cartref yn wahanol i’ch cyfeiriad yn ystod y tymor, mae’n bosibl y gallwch gofrestru yn y ddau.
Cofrestru i bleidleisio ddwywaith os ydych yn byw mewn dau gyfeiriad.
2. Optio allan o'r ‘gofrestr agored’
Mae dwy fersiwn o’r gofrestr etholiadol - y fersiwn lawn a’r ‘gofrestr agored’ (y ‘gofrestr olygedig’ yw’r enw arni yng Ngogledd Iwerddon).
Os gwnaethoch gofrestru i bleidleisio’n ddienw, ni fydd eich manylion yn ymddangos ar y naill fersiwn na’r llall o’r gofrestr etholiadol. Byddwch yn gallu pleidleisio o hyd.
Sut i optio allan o’r gofrestr agored
Gallwch optio allan o’r gofrestr agored. Y fersiwn hon o’r gofrestr sydd ar gael i bawb sydd am brynu copi.
I optio allan, gallwch naill ai:
- ddefnyddio’r gwasanaeth cofrestru i bleidleisio (hyd yn oed os ydych eisoes wedi cofrestru)
- cysylltu â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- cysylltu â Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon (EONI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Ni fydd optio allan yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.
Os byddwch yn optio allan o’r gofrestr agored, bydd eich manylion yn ymddangos yn y fersiwn lawn o’r gofrestr etholiadol o hyd, oni bai eich bod wedi’ch cofrestru i bleidleisio’n ddienw.
Y fersiwn lawn ac at ba ddibenion y gellir ei defnyddio
Mae enw a chyfeiriad pawb yn ymddangos ar y fersiwn lawn o’r gofrestr etholiadol (oni bai eich bod wedi cofrestru i bleidleisio’n ddienw), ac ni allwch optio allan. Y fersiwn hon o’r gofrestr gaiff ei defnyddio ar gyfer etholiadau a refferenda.
Dim ond at y dibenion canlynol y gellir defnyddio’r fersiwn lawn o’r gofrestr:
-
dibenion gweinyddu etholiadau (megis anfon cardiau pleidleisio cyn etholiadau)
-
gweithgareddau ymgyrchu (er enghraifft, ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol yn anfon gohebiaeth am etholiadau at bleidleiswyr, yn casglu barn drwy arolygon neu’n codi arian)
-
atal a chanfod troseddau
-
gwirio ceisiadau am fenthyciadau neu gredyd
-
gwysio rheithgor yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Gallwch ddysgu mwy am y gwahaniaeth rhwng y gofrestr agored a’r gofrestr etholiadol ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
3. Gweld y gofrestr etholiadol
Cysylltwch:
- â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- â Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon (EONI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
- â’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol a gadarnhaodd eich bod wedi’ch cofrestru fel pleidleisiwr tramor
Bydd y swyddogion yn dweud wrthych ble y gallwch weld y gofrestr etholiadol bresennol (mae ar gael mewn llyfrgelloedd yn aml). Bydd y gofrestr yn rhestru pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn yr ardal leol.
Chwilio drwy fersiynau hanesyddol o’r gofrestr etholiadol
Gallwch gael gwybodaeth am fersiynau hanesyddol o’r gofrestr etholiadol ar wefan yr Archifau Gwladol - er enghraifft, os ydych am ymchwilio i hanes lleol neu hanes eich teulu.