Skip to main content

Budd-daliadau a charchar

Printable version

1. Trosolwg

Gall taliadau budd-daliadau a hawliadau newid neu ddod i ben os ydych chi, eich partner neu eich plentyn:

  • yn cael eich anfon i garchar neu sefydliad troseddwyr ifanc
  • yn y ddalfa yn disgwyl treial (ar remand)

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am ddedfrydau carchar.

Does dim modd i chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch chi yn y carchar.

Os ydych chi yn y carchar neu ar remand

Gallwch gael help gan gynghorydd budd-daliadau i oedi neu gau budd-daliadau nad ydych chi’n gallu eu hawlio mwyach os byddwch chi’n mynd i’r carchar neu ar remand.

Os yw eich partner neu blentyn yn y carchar neu ar remand

Os yw eich partner neu blentyn wedi mynd i’r carchar neu ar remand, rhaid i chi ddweud wrth bwy bynnag sy’n talu eich budd-daliadau a chael gwybod:

  • a fydd hyn yn effeithio ar eich hawliadau am fudd-daliadau
  • a ydych yn gallu hawlio budd-daliadau eraill

Efallai y bydd gennych hawl o hyd i fudd-daliadau os yw eich partner wedi mynd i’r carchar, cyn belled â’ch bod yn bodloni’r amodau hawl i fudd-daliadau yn eich rhinwedd eich hun.

2. Budd-daliadau sy'n dod i ben neu sy'n cael eu hoedi

Ni allwch gael budd-daliadau os byddwch yn mynd i’r carchar, ar wahân i:

Mae rhai budd-daliadau’n cael eu rhewi neu eu ‘hoedi’ tra byddwch chi yn y carchar. Pan gewch eich rhyddhau, byddwch yn dechrau cael taliadau eto. Y budd-daliadau hyn yw:

  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), er mai dim ond os ydych chi yn y ddalfa am fwy na 28 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis y bydd y taliadau’n dod i ben
  • Lwfans Mamolaeth, cyn belled â’ch bod yn bodloni amodau hawlio’r budd-dal

Byddwch yn stopio cael Lwfans Gofalwr os bydd y sawl yr ydych yn gofalu amdano yn mynd i’r carchar neu ar remand.

Budd-daliadau tra ar remand

Os ydych chi ar remand, allwch chi ddim hawlio:

  • Credyd Cynhwysol, ar wahân i ran taliad tai Credyd Cynhwysol mewn rhai achosion
  • Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) neu Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Gweini
  • Credyd Pensiwn - ar wahân i help gyda chostau tai
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), os ydych chi yn y ddalfa am fwy na 28 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis Ni fydd gennych hawl i Dâl Salwch Statudol (SSP) na Thâl Mamolaeth Statudol (SMP) gan eich cyflogwr.

Ôl-ddyledion budd-daliadau

Os oes unrhyw ôl-ddyledion budd-daliadau yn ddyledus i chi pan gewch eich anfon i garchar neu ar remand, gallwch wneud cais ysgrifenedig i’r rhain gael eu talu i rywun arall.

Ôl-ddyledion budd-daliadau os na chewch eich dyfarnu’n euog

Os na chewch eich dyfarnu’n euog, gallwch gael ôl-ddyledion budd-daliadau ar gyfer:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) cyfrannol neu arddull newydd
  • Budd-dal Analluogrwydd

Ôl-ddyledion budd-daliadau os ydych yn cael eich dyfarnu’n euog

Os cewch eich anfon i garchar ac rydych yn hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB), efallai y bydd gennych hawl i hyd at flwyddyn o ôl-ddyledion pryd bynnag y cewch eich rhyddhau.

Hawlio budd-daliadau ar ôl cael eich rhyddhau

Os oes gennych hawl i fudd-daliadau, gallwch gyflwyno hawliadau newydd cyn gynted ag y byddwch yn gadael y carchar. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth ariannol ac ymarferol arall.

Ni allwch hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) os cewch eich rhyddhau ar drwydded dros dro (ROTL).

3. Credyd Cynhwysol

Ni fyddwch yn cael lwfans safonol Credyd Cynhwysol os ydych chi yn y carchar neu ar remand.

Ni chewch ychwaith y taliadau ychwanegol i helpu gydag anabledd, cyflwr iechyd na gofal plant. Efallai y byddwch chi’n gallu cael rhan taliad tai Credyd Cynhwysol os ydych chi’n berson sengl.

Gallwch wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol pan fyddwch yn gadael y carchar. Byddwch yn cael cynnig apwyntiad gyda hyfforddwr gwaith y carchar 12 wythnos cyn i chi gael eich rhyddhau. Gall yr hyfforddwr gwaith eich helpu i baratoi eich cais am Gredyd Cynhwysol.

Os ydych chi’n berson sengl

Gallwch barhau i gael taliad tai Credyd Cynhwysol am hyd at 6 mis os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • disgwylir i chi dreulio 6 mis neu lai yn y carchar

  • roeddech chi’n cael rhan taliad tai Credyd Cynhwysol yn syth cyn mynd i’r carchar neu gael eich rhoi ar remand

Os ydych chi mewn cwpwl

Os oeddech chi’n cael Credyd Cynhwysol fel cwpwl, ni fydd yr unigolyn yn y carchar neu ar remand yn gymwys i gael unrhyw daliadau Credyd Cynhwysol mwyach.

Dylai’r person nad yw yn y carchar roi gwybod am newid mewn amgylchiadau i gael y lwfans safonol Credyd Cynhwysol ac unrhyw daliadau Credyd Cynhwysol ychwanegol, er enghraifft ar gyfer tai neu ofal plant, fel person sengl.

4. Budd-dal Tai

Efallai y gallwch barhau i gael Budd-dal Tai neu wneud hawliad am y tro cyntaf os byddwch yn mynd i’r carchar neu ar remand.

Gwneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai

Dim ond os yw un o’r canlynol yn berthnasol y gallwch chi wneud cais newydd am Fudd-dal Tai:

  • rydych wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth
  • rydych chi’n byw mewn llety dros dro
  • rydych chi’n byw mewn tai gwarchod neu dai â chefnogaeth gyda chyfleusterau arbennig megis larymau neu wardeniaid

Pan na fyddwch yn gallu hawlio

Ni fydd gennych hawl i hawlio Budd-dal Tai:

  • os ydych chi’n debygol o fod ar remand am fwy na 52 wythnos
  • os ydych yn debygol o fod yn y carchar am fwy nag 13 wythnos (gan gynnwys unrhyw amser ar remand)
  • os nad ydych yn bwriadu dychwelyd adref ar ôl cael eich rhyddhau
  • os ydych chi’n ei hawlio fel cwpl ac rydych chi wedi gwahanu
  • os bydd yr eiddo’n cael ei osod ar rent

Ar remand

Os ydych chi’n berson sengl

Gallwch hawlio taliadau Budd-dal Tai am hyd at 52 wythnos tra byddwch ar remand, os ydych yn debygol o ddychwelyd adref mewn blwyddyn neu lai.

Os ydych chi mewn cwpwl

Gallwch hawlio Budd-dal Tai ar y cyd am hyd at 52 wythnos tra bo un ohonoch ar remand, os yw’n debygol o fod am flwyddyn neu lai.

Os yw’ch plentyn ar remand

Gall eich taliadau Budd-dal Tai barhau am hyd at 52 wythnos os yw eich plentyn ar remand, os yw’n debygol o fod i ffwrdd am flwyddyn neu lai.

Yn y carchar

Os ydych chi’n berson sengl

Gallwch hawlio Budd-dal Tai am hyd at 13 wythnos os ydych chi’n sengl ac yn mynd i’r carchar ac yn debygol o ddychwelyd adref mewn 13 wythnos neu lai - gan gynnwys unrhyw amser ar remand.

Os ydych chi mewn cwpwl

Gallwch hawlio Budd-dal Tai ar y cyd am hyd at 13 wythnos os yw un ohonoch wedi mynd i’r carchar ac yn debygol o ddychwelyd adref mewn 13 wythnos neu lai - gan gynnwys unrhyw amser ar remand.

Os mai eich partner yw’r un sydd wedi bod yn hawlio Budd-dal Tai, ac mae ef / hi yn mynd i’r carchar, efallai y gallwch ei hawlio yn ei le / ei lle. Efallai y bydd angen ychwanegu eich enw at y cytundeb tenantiaeth, os nad yw arno yn barod.

Os yw’ch plentyn yn y carchar

Os bydd eich plentyn yn mynd i’r carchar, bydd angen i chi gysylltu â’ch cyngor lleol i weld a fydd eich hawl i gael Budd-dal Tai yn newid. Er enghraifft, os ydych yn rhentu gan landlord preifat, mae swm y budd-dal a delir yn gyfyngedig, yn dibynnu ar bwy sy’n byw gyda chi.

5. Eithriadau a gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Ni fyddwch yn cyfrif fel oedolyn sy’n byw mewn eiddo at ddibenion y Dreth Gyngor os ydych chi yn y carchar neu ar remand.

Os ydych chi’n berson sengl

Gallwch wneud cais i’ch cartref gael ei eithrio rhag talu’r Dreth Gyngor os ydych chi’n sengl, yn y carchar neu ar remand, ac nad oes neb yn byw yno.

Ni fydd eich cartref wedi’i eithrio os ydych chi yn y carchar am beidio â thalu’r Dreth Gyngor neu ddirwy am beidio â’i thalu.

Os ydych chi mewn cwpwl

Ar remand

Gallwch wneud cais neu barhau i gael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor ar y cyd os yw eich partner ar remand a bod disgwyl iddo/iddi ddychwelyd mewn blwyddyn neu lai.

Yn y carchar

Gallwch hawlio neu barhau i hawlio Gostyngiad yn y Dreth Gyngor ar y cyd os disgwylir i’ch partner fod yn y carchar am 13 wythnos neu lai - gan gynnwys unrhyw amser ar remand.

Gwneud cais newydd

Cewch ostyngiad o 25% oddi ar eich bil Treth Gyngor os yw eich partner yn mynd i fod yn absennol am fwy nag 13 wythnos ac mai chi yw’r unig oedolyn yn yr eiddo. Efallai y gallwch wneud cais am Ostyngiad Treth Gyngor os nad ydych eisoes yn ei gael.

6. Budd-dal Plant

Gallwch barhau i hawlio Budd-dal Plant pan fyddwch yn y carchar:

  • os mae eich plentyn gyda chi yn y carchar

  • os yw’r plentyn yr ydych yn hawlio ar ei gyfer yn byw gyda rhywun arall a’ch bod yn talu swm cyfatebol iddynt

Gallwch hefyd ofyn am gael trosglwyddo’r taliad Budd-dal Plant i rywun arall.

Os yw eich plentyn yng ngofal y cyngor lleol, bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben ar ôl 8 wythnos.

Os bydd eich plentyn yn mynd i’r carchar neu ar remand

Bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben ar ôl 8 wythnos os bydd eich plentyn yn mynd i’r carchar neu ar remand. Byddwch yn cael ôl-ddyledion os cânt eu clirio o’r drosedd.

Gofalu am blentyn rhywun arall 

Efallai y byddwch chi’n gallu hawlio Budd-dal Plant a Lwfans Gwarcheidwad os ydych chi’n gofalu am blentyn eich partner neu blentyn rhywun arall pan fyddan nhw yn y carchar.

7. Cymorth ar gyfer Llog Morgais

Nid yw Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI) yn fudd-dal mwyach. Dim ond fel benthyciad y mae ar gael erbyn hyn.

Ni allwch gael benthyciad SMI os ydych chi’n bwrw dedfryd o garchar, ond efallai y bydd eich partner yn gallu hawlio yn eich lle.

Efallai na fydd yn rhaid i enw eich partner fod ar y morgais er mwyn gallu hawlio.    

Cael benthyciad SMI tra byddwch ar remand

Os ydych chi’n berson sengl ac ar remand, efallai y gallwch barhau i gael taliadau benthyciad SMI os ydych chi’n bodloni’r amodau cymhwysedd. 

Ni llwch gael benthyciad SMI os ydych chi’n rhan o gwpwl ac ar remand, ond gall eich partner hawlio budd-daliadau a chostau tai.

Cymhwysedd

Os ydych chi ar remand, rhaid i chi fod yn cael Credyd Pensiwn i gael benthyciad SMI.

Bydd angen i chi wneud cais am un o’r budd-daliadau hyn os ydych chi wedi cymhwyso ar gyfer SMI yn y gorffennol drwy gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Dim ond taliadau benthyciad SMI y byddwch yn gallu eu cael - ni fyddwch yn cael Credyd Pensiwn.