Taliad Tanwydd Gaeaf
Printable version
1. Trosolwg
Os cawsoch eich geni cyn 28 Mehefin 1960 gallech gael naill ai £100 neu £300 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi ar gyfer gaeaf 2026 i 2027. Gelwir hyn yn ‘Daliad Tanwydd Gaeaf’.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd i’w ddarllen.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.
Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn dweud faint fyddwch yn ei gael.
Caiff y rhan fwyaf o bobl gymwys eu talu ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr 2026.
Ad-dalu’r Taliad Tanwydd Gaeaf os yw’ch incwm dros £35,000
Os yw cyfanswm eich incwm dros £35,000, bydd CThEF yn cymryd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl. Nid yw incwm eich partner yn cyfrif tuag at eich cyfanswm.
Gallwch wirio a yw eich incwm dros y trothwy a sut bydd CThEF yn ei gymryd yn ôl
Os ydych yn byw yn Yr Alban
Ni allwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf. Efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad Pension Age Winter Heating.
Sgamiau
Efallai y byddwch yn cael galwadau ffôn, e-byst neu negeseuon destun yn honni mai gwasanaeth y llywodraeth ydynt. Os ydych yn cael neges yn gofyn am eich manylion personol (er enghraifft, manylion banc neu gyfrineiriau) gallai hyn fod yn sgam. Rhowch wybod am unrhyw beth rydych yn amau
Help arall gyda biliau gwresogi
Gallech hefyd gael:
- Taliad Tywydd Oer - os ydych yn cael rhai budd-daliadau a bod y tymheredd yn gostwng i radd sero celsius neu’n is am 7 diwrnod yn olynol
- y Gostyngiad Cartrefi Cynnes - mae hwn yn ostyngiad o £150 ar eich biliau os ydych yn cael Credyd Pensiwn neu os ydych yn byw mewn cartref incwm isel
- cymorth gan eich cyngor lleol gyda chostau byw, os ydych yn gymwys o dan y rheolau yn eich ardal.
2. Cymhwysedd
Gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf os cawsoch eich geni ar neu cyn 27 Mehefin 1960 ac os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.
Pan na fyddwch yn gymwys
Ni fyddwch yn gymwys os:
- rydych fel arfer yn byw y tu allan i Gymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon
- rydych wedi bod yn yr ysbyty yn cael triniaeth am ddim am yr wythnos gyfan rhwng 21 a 27 Medi 2026 a’r flwyddyn gynt
- rydych angen caniatâd i ddod i mewn i’r DU ac mae eich caniatâd a roddwyd yn dweud na allwch hawlio arian cyhoeddus
- roeddech yn y carchar am yr wythnos gyfan rhwng 21 a 27 Medi 2026
Os ydych yn byw mewn cartref gofal
Gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn byw mewn cartref gofal. Ni fyddwch yn gymwys os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn cael Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- rydych wedi byw mewn cartref gofal am y cyfnod llawn ers 28 Mehefin 2026 neu’n gynharach
3. Faint fyddwch chi'n ei gael
Byddwch yn cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn rhoi gwybod i chi faint o Daliad Tanwydd Gaeaf byddwch yn ei gael, os ydych yn gymwys.
Os nad ydych yn cael llythyr ond rydych yn meddwl eich bod yn gymwys, gwiriwch a oes angen i chi wneud cais.
Mae faint rydych yn ei gael yn seiliedig ar pryd y cawsoch eich geni a’ch amgylchiadau rhwng 21 i 27 Medi 2026. Mae hwn yn cael ei alw yn ‘wythnos gymhwyso’.
Ni fydd unrhyw arian a gewch yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.
Os yw’ch incwm dros £35,000
Bydd CThEF yn adennill eich Taliad Tanwydd Gaeaf naill ai drwy:
- newid eich cod treth
- ychwanegu’r swm at eich ffurflen dreth Hunanasesiad
Gallwch wirio a yw cyfanswm eich incwm dros y trothwy a sut y bydd CThEF yn ei adennill.
Os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu does neb rydych chi’n byw gyda nhw yn gymwys ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf
Byddwch yn cael naill ai:
- £200 os cawsoch eich geni rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960
- £300 os cawsoch eich geni cyn 28 Medi 1946
Os ydych yn byw gyda rhywun arall sy’n gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf
Efallai y bydd eich taliad yn wahanol os ydych yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
Os nad ydych yn cael un o’r budd-dalidadau
Cewch daliad o:
- £100 os ydych chi a’r person rydych chi’n byw gyda wedi’ch geni rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960
- £100 os ydych chi wedi’ch geni rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960 ond bod y person rydych chi’n byw gyda wedi’u geni cyn 28 Medi 1946
- £200 os ydych chi wedi’ch geni cyn 28 Medi 1946 ond bod y person rydych chi’n byw gyda wedi’u geni rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960
- £150 os ydych chi a’r person rydych chi’n byw gyda wedi’ch geni cyn 28 Medi 1946
Os oes gennych chi a’ch partner cais ar y cyd am unrhyw un o’r budd-daliadau
Bydd un ohonoch yn cael taliad o naill ai:
- £200 os ganwyd y ddau ohonoch rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960
- £300 os ganwyd un neu’r ddau ohonoch cyn 28 Medi 1946
Byddwch yn cael eich talu i’r cyfrif banc y telir eich budd-daliadau iddo fel arfer.
Os cewch unrhyw un o’r budd-daliadau (nid fel rhan o gais ar y cyd)
Byddwch yn cael taliad o naill ai:
- £200 os cawsoch eich geni rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960
- £300 os cawsoch eich geni cyn 28 Medi 1946
Os ydych chi’n byw mewn cartref gofal
Os ydych chi’n gymwys byddwch chi’n cael naill ai:
- £100 os cawsoch eich geni rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960
- £150 os cawsoch eich geni cyn 28 Medi 1946
4. Gwirio a oes angen i chi wneud cais
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.
Nid oes angen i chi wneud cais os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Gweini
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- dyfarniadau gan y Cynllun Pensiwn Rhyfel
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
- Budd-dal Analluogrwydd
- Budd-dal Marwolaeth Diwydiannol
Os nad ydych yn cael unrhyw un o’r rhain, mae angen i chi wneud cais os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- nid ydych chi wedi cael y Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen
- rydych chi wedi gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth ers eich Taliad Tanwydd Gaeaf diwethaf
Sut i wneud cais
Roedd y terfyn er mwyn gwneud cais ar gyfer gaeaf 2025 i 2026 yn 31 Mawrth 2026. Bydd ceisiadau ar gyfer gaeaf 2026 i 2027 ar agor o 21 Medi 2026.
Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad ynghylch eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.
5. Pryd fyddwch chi'n cael eich talu
Mae’r rhan fwyaf o daliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr.
Dylech gael llythyr yn dweud wrthych:
- faint fyddwch yn ei gael
- pa gyfrif banc y bydd yn cael ei dalu iddo - fel arfer mae hwn yr un cyfrif â’ch Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau eraill
Os nad ydych yn cael llythyr ac nad yw’r arian wedi’i dalu i’ch cyfrif erbyn 27 Ionawr 2027, cysylltwch â’r Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf.
6. Rhoi gwybod am newid neu optio allan
Cysylltwch â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn gymwys am Daliad Tanwydd Gaeaf ac rydych:
- angen rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
- angen newid eich cyfeiriad neu fanylion personol
Rhowch wybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau cyn gynted ag y bo modd - er enghraifft, os byddwch yn symud tŷ neu fynd i mewn i gartref gofal. Gall y rhain effeithio faint o Daliad Tanwydd Gaeaf rydych yn ei gael.
Os ydych eisiau optio allan o gael y Taliad Tanwydd Gaeaf
I optio allan o gael Taliadau Tanwydd Gaeaf, mae angen i chi naill ai:
- gwblhau’r ffurflen optio allan cyn 11:59pm ar 20 Medi 2026
- ffonio’r llinell gymorth cyn 6pm ar 18 Medi 2026
Bydd angen i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol pan fyddwch chi’n defnyddio’r ffurflen ar-lein neu’n ffonio’r llinell gymorth.
Os yw cyfanswm eich incwm dros £35,000 ac nad ydych wedi optio allan, bydd CThEF yn cymryd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl. Gallwch wirio sut bydd CThEF yn cymryd y taliad yn ôl.
Nid oes angen i chi optio allan bob blwyddyn. Ni fyddwch yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf yn y blynyddoedd i ddod oni bai eich bod yn optio i mewn eto
Os ydych eisiau optio yn ôl i mewn
Gallwch optio yn ôl i fewn gan gysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf. I gael taliad ar gyfer gaeaf 2026 i 2027 bydd angen i chi gysylltu â nhw cyn 31 Mawrth 2027.
Cysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf
Pan fyddwch yn cysylltu â’r ganolfan daliadau, byddwch angen dweud wrthynt eich manylion personol fel:
- eich enw
- eich cyfeiriad
- eich dyddiad geni
- eich rhif Yswiriant Gwladol
Gallwch naill ai ffonio’r llinell gymorth neu anfon llythyr trwy’r post.
Ffurflen ymholiadau e-bost
Ffôn: 0800 731 0160
Relay UK
(os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 ac yna 0800 731 0160
Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych yn denfyddio cyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR
Os ydych wedi cael eich gordalu
Efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu’r arian os:
- na wnaethoch ddweud wrthym am newid ar unwaith
- rydych wedi rhoi gwybodaeth anghywir
- cawsoch eich gordalu mewn camgymeriad
Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.