Skip to main content

Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel

Printable version

1. Trosolwg

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi neu’ch partner dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn cael Budd-dal Plant a bod o leiaf un ohonoch yn ennill mwy na’r trothwy. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi dalu rhan o’ch Budd-dal Plant, neu’ch Budd-dal Plant yn gyfan gwbl, yn ôl.

Mae’n bosibl y bydd y tâl yn berthnasol os yw rhywun arall yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn sy’n byw gyda chi, a bod y person hwnnw’n cyfrannu swm sydd o leiaf yn gyfartal â’r swm rydych chi’n ei dalu tuag at gostau cynnal y plentyn.

Does dim ots os nad eich plentyn eich hun yw’r plentyn sy’n byw gyda chi.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Y trothwy

Mae incwm unigol dros y trothwy os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r incwm dros £60,000 ar gyfer blynyddoedd treth sy’n dechrau o 2024 i 2025 ymlaen

  • mae’r incwm dros £50,000 ar gyfer blynyddoedd treth hyd at a chan gynnwys 2023 i 2024

Yr hyn sy’n cyfrif fel incwm

Er mwyn cyfrifo a yw’ch incwm dros y trothwy, bydd yn rhaid i chi gyfrifo’ch ‘incwm net wedi’i addasu’.

Eich incwm net wedi’i addasu yw cyfanswm eich incwm trethadwy, sy’n cynnwys llog ar gynilion a difidendau. Mae’ch ‘incwm net wedi’i addasu’ yn cael ei gyfrifo drwy dynnu ryddhadau treth penodol, er enghraifft cyfraniadau pensiwn a Rhodd Cymorth, a chyn rhoi cyfrif am unrhyw Lwfansau Personol.

Cyfrifo’r tâl treth

Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif faint o’ch Budd-dal Plant y bydd angen i chi ei dalu yn ôl.

O flwyddyn dreth 2024 i 2025 ymlaen

Os ydych chi, neu’ch partner, yn ennill mwy na £60,000 y flwyddyn, bydd angen i chi dalu rhan o’ch Budd-dal Plant yn ôl. Os ydych chi, neu’ch partner, yn ennill mwy na £80,000 y flwyddyn, bydd angen i chi dalu eich Budd-dal Plant yn ôl yn gyfan gwbl.

Byddwch yn talu 1% o’ch Budd-dal Plant yn ôl am bob £200 y byddwch yn ei ennill dros y trothwy.

Enghraifft

Eich incwm net wedi’i addasu ar gyfer 2024 i 2025 yw £67,600. Mae’r swm hwn £7,600 dros y trothwy o £60,000. Wrth rannu 7,600 â 200, fe gewch 38. Golyga hyn y byddwch yn talu 38% o’ch Budd-dal Plant yn ôl.

Ar gyfer blynyddoedd treth hyd at a chan gynnwys 2023 i 2024

Os gwnaethoch chi, neu’ch partner, ennill mwy na £50,000 y flwyddyn, bydd angen i chi dalu rhan o’ch Budd-dal Plant yn ôl. Os gwnaethoch chi, neu’ch partner, ennill mwy na £60,000 y flwyddyn, bydd angen i chi dalu eich Budd-dal Plant yn ôl yn gyfan gwbl.

Byddwch yn talu 1% o’ch Budd-dal Plant yn ôl am bob £100 y byddwch yn ei ennill dros y trothwy.

Enghraifft

Eich incwm net wedi’i addasu ar gyfer 2023 i 2024 yw £56,700. Mae’r swm hwn £6,700 dros y trothwy o £50,000. Wrth rannu 6,700 â 100, fe gewch 67. Golyga hyn y byddwch yn talu 67% o’ch Budd-dal Plant yn ôl.

Pwy sy’n talu’r tâl treth

Os yw’ch incwm net wedi’i addasu, ac incwm net wedi’i addasu eich partner, dros y trothwy, yna’r person sydd â’r incwm uchaf sy’n gyfrifol am dalu’r tâl treth.

Mae ‘partner’ yn golygu rhywun nad ydych wedi gwahanu oddi wrtho’n barhaol – rhywun yr ydych yn briod ag ef, mewn partneriaeth sifil ag ef, neu’n byw gydag ef fel pe baech yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Os yw’ch incwm dros y trothwy

Gallwch ddewis i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Ffyrdd o dalu’r tâl treth

Mae dwy ffordd o dalu’r tâl treth. Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi dalu’r tâl drwy Hunanasesiad os yw’r canlynol yn wir:

  • mae angen i chi anfon Ffurflen Dreth am reswm arall, er enghraifft, gan eich bod yn hunangyflogedig neu yn ennill llog ar gynilion neu fuddsoddiadau
  • mae’n hwyrach na 31 Ionawr yn y flwyddyn ar ôl y flwyddyn dreth yr oedd angen i chi dalu ar ei chyfer

Enghraifft

Mae angen i chi dalu’r tâl treth ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dechrau 6 Ebrill 2025. Os yw’n hwyrach na 31 Ionawr 2027, bydd yn rhaid i chi dalu drwy Hunanasesiad.

Os ydych wedi llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn ddiweddar er mwyn talu’r tâl treth yn unig, ac am ddim rheswm arall, gallwch ddewis talu’r tâl drwy TWE yn lle. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi gysylltu â CThEF dros y ffôn er mwyn gwneud y canlynol:

  • ymadael â Hunanasesiad
  • cofrestru i dalu’r tâl drwy TWE

Optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant

Os byddwch yn optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant, byddwch yn parhau i fod wedi’ch cofrestru ar gyfer Budd-dal Plant ond na fyddwch yn cael y taliadau.

Ni fyddai’n rhaid i chi dalu’r tâl treth, ond byddwch yn parhau i gael y canlynol:

Dysgwch ragor am optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant.

2. Talu’r tâl treth drwy TWE

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i dalu’r tâl treth drwy’ch taliadau Treth Incwm arferol (TWE).

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd eich taliadau yn cael eu sefydlu ac ni fydd angen i chi wneud dim arall oni bai bod eich amgylchiadau yn newid. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon manylion eich cod treth newydd atoch chi a’ch cyflogwr. Os ydych yn cael incwm o bensiwn, bydd CThEF yn anfon eich cod treth at eich darparwr pensiwn.

Pryd y gallwch dalu drwy TWE

Gallwch ond talu’r tâl drwy TWE os yw’r canlynol yn wir:

  • nid oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth am reswm arall, er enghraifft, os ydych yn dod yn hunangyflogedig

  • mae hi’n 31 Ionawr, neu’n gynharach, yn ystod y flwyddyn ar ôl y flwyddyn dreth y mae angen i chi dalu ar ei chyfer

  • rydych yn talu’r tâl ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 ymlaen

Enghraifft

Mae angen i chi dalu’r tâl treth ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dechrau 6 Ebrill 2025. Os yw hi’n 31 Ionawr 2027, neu’n gynharach, gallwch dalu drwy TWE.

Os na allwch dalu drwy TWE, bydd yn rhaid i chi dalu drwy Hunanasesiad yn lle.

Newid o dalu drwy Hunanasesiad i dalu drwy TWE

Os ydych wedi llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn ddiweddar er mwyn talu’r tâl treth yn unig, ac am ddim rheswm arall, gallwch ddewis talu’r tâl drwy TWE yn lle. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi gysylltu â CThEF dros y ffôn er mwyn gwneud y canlynol:

  • ymadael â Hunanasesiad
  • cofrestru i dalu’r tâl drwy TWE

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich incwm net wedi’i addasu
  • rhif Yswiriant Gwladol unrhyw bartner sydd wedi cael Budd-dal Plant yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf
  • dyddiadau’r perthnasoedd gydag unrhyw bartneriaid sy’n cael Budd-dal Plant

Os oes angen i chi barhau gyda Hunanasesiad am resymau eraill, yna mae’n rhaid i chi dalu’r tâl drwy Hunanasesiad.

Cyn i chi ddechrau

Ni all y gwasanaeth hwn gadw’ch cynnydd. Dylech gasglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich incwm net wedi’i addasu
  • incwm net wedi’i addasu eich partner, os oes un gennych
  • rhif Yswiriant Gwladol unrhyw bartner sydd wedi cael Budd-dal Plant yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf
  • dyddiadau’r perthnasoedd gydag unrhyw bartneriaid sy’n cael Budd-dal Plant

Mewngofnodwch i dalu’r tâl treth drwy TWE

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Wrth i chi fewngofnodi, cewch wybod a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.

Dechrau nawr

Os na allwch gael gwybodaeth gan eich partner neu gyn-bartner

Gallwch ysgrifennu at CThEF i ofyn p’un a yw’ch partner neu gyn-bartner yn cael Budd-dal Plant, neu a yw ei incwm yn uwch na’ch incwm chi. Bydd CThEF yn rhoi ateb i chi – ni fydd yn rhoi unrhyw wybodaeth ariannol i chi, na rhif Yswiriant Gwladol eich partner.

Gallwch ond gofyn am yr wybodaeth hon os ydych chi a’ch partner naill ai’n byw gyda’ch gilydd neu wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych am gael gwybodaeth ar ei chyfer.

Ysgrifennu at CThEF

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF pa flwyddyn dreth yr ydych yn gofyn yn ei chylch, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ganlynol:

  • eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol

  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, os oes un gennych

  • eich incwm net wedi’i addasu

  • enw eich partner neu gyn-bartner

Yn ddelfrydol, dylech gynnwys yr wybodaeth ganlynol am eich partner neu gyn-bartner:

  • cyfeiriad

  • dyddiad geni

  • rhif Yswiriant Gwladol, os ydych yn gwybod beth ydyw

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, os oes un ganddo

Anfonwch eich llythyr i:

Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

3. Talu’r tâl treth drwy Hunanasesiad

Mae’n rhaid i chi dalu’r tâl treth drwy Hunanasesiad os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae angen i chi anfon Ffurflen Dreth am reswm arall, er enghraifft, os ydych yn dod yn hunangyflogedig
  • mae’n hwyrach na 31 Ionawr yn y flwyddyn ar ôl y flwyddyn dreth yr oedd angen i chi dalu ar ei chyfer

Enghraifft

Mae angen i chi dalu’r tâl treth ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dechrau 6 Ebrill 2025. Os yw’n hwyrach na 31 Ionawr 2027, bydd yn rhaid i chi dalu drwy Hunanasesiad.

Fel arall, gallwch dalu’r tâl treth drwy TWE.

Sut i dalu drwy Hunanasesiad

  1. Cofrestrwch ar gyfer Hunanasesiad.

  2. Llenwch Ffurflen Dreth Hunanasesiad bob blwyddyn dreth a thalu’r hyn sydd arnoch.

Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Os nad ydych fel arfer yn anfon Ffurflen Dreth, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y mae’n rhaid i chi dalu’r tâl treth ar ei chyfer. Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Efallai y codir cosb arnoch os oes angen i chi dalu drwy Hunanasesiad ond nad ydych yn cofrestru amdano, neu os na fyddwch yn datgan Budd-dal Plant ar eich Ffurflen Dreth.

Cewch lythyr yn rhoi gwybod am yr hyn i’w wneud nesaf ar ôl i chi gofrestru.

Cofrestru nawr

Newid o dalu drwy Hunanasesiad i dalu drwy TWE

Ffoniwch CThEF os yw’r naill a’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich incwm net wedi’i addasu
  • rhif Yswiriant Gwladol unrhyw bartner sydd wedi cael Budd-dal Plant yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf
  • dyddiadau’r perthnasoedd gydag unrhyw bartneriaid sy’n cael Budd-dal Plant

Os na allwch gael gwybodaeth gan eich partner neu gyn-bartner

Gallwch ysgrifennu at CThEF i ofyn p’un a yw’ch partner neu gyn-bartner yn cael Budd-dal Plant, neu a yw ei incwm yn uwch na’ch incwm chi. Bydd CThEF yn rhoi ateb i chi – ni fydd yn rhoi unrhyw wybodaeth ariannol i chi, na rhif Yswiriant Gwladol eich partner.

Gallwch ond gofyn am yr wybodaeth hon os ydych chi a’ch partner naill ai’n byw gyda’ch gilydd neu wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych am gael gwybodaeth ar ei chyfer.

Ysgrifennu at CThEF

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF pa flwyddyn dreth yr ydych yn gofyn yn ei chylch, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ganlynol:

  • eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol

  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, os oes un gennych

  • eich incwm net wedi’i addasu

  • enw eich partner neu gyn-bartner

Yn ddelfrydol, dylech gynnwys yr wybodaeth ganlynol am eich partner neu gyn-bartner:

  • cyfeiriad

  • dyddiad geni

  • rhif Yswiriant Gwladol, os ydych yn gwybod beth ydyw

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, os oes un ganddo

Anfonwch eich llythyr i:

Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

4. Optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant

Os byddwch yn optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant, byddwch yn parhau i fod wedi’ch cofrestru ar gyfer Budd-dal Plant ond na fyddwch yn cael y taliadau.

Ni fyddai’n rhaid i chi dalu’r tâl treth, ond byddwch yn parhau i gael y canlynol:

Sut i optio allan

I optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu lenwi’r ffurflen ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant dros y ffôn neu drwy’r post i optio allan.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein na’r ffurflen ar-lein os ydych yn benodai neu’n asiant awdurdodedig.

Ni allwch optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant os ydych yn eu defnyddio i ad-dalu gordaliad, neu i ad-dalu rhai budd-daliadau penodol o wlad arall.

Cyfrifoldebau ar ôl i chi optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw dâl treth sydd arnoch am bob blwyddyn dreth hyd at y dyddiad y daw eich taliadau Budd-dal Plant i ben.

Defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif faint y gallai fod arnoch ar gyfer pob blwyddyn dreth.

Hyd yn oed os byddwch yn optio allan o gael taliadau, mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich bywyd teuluol sy’n effeithio ar eich hawl i Fudd-dal Plant.

5. Ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant

Gallwch ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant os yw’r canlynol yn wir:

I ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu lenwi’r ffurflen ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant dros y ffôn neu drwy’r post i ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein na’r ffurflen ar-lein os ydych yn benodai neu’n asiant awdurdodedig.

Pryd y byddwch yn dechrau cael taliadau

Gall gymryd hyd at 28 diwrnod ar ôl i’ch cais gyrraedd y Swyddfa Budd-dal Plant cyn i chi gael eich taliad cyntaf.

Bydd y swyddfa’n ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi faint o arian y byddwch yn ei gael o daliadau wedi’u hôl-ddyddio (os o gwbl).

Cyfrifoldebau ar ôl i’ch Budd-dal Plant ailddechrau

Bydd yn rhaid i chi neu’ch partner dalu unrhyw dâl treth ar y budd-dal a gafwyd o’r dyddiad ailddechrau os yw’ch incwm net wedi’i addasu dros y trothwy.

Defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif eich incwm net wedi’i addasu ac i weld a allai’r tâl treth effeithio arnoch.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau i’ch bywyd teuluol sy’n effeithio ar eich Budd-dal Plant.

6. Os bydd eich amgylchiadau’n newid

Newid yn eich incwm

Ni fydd yn rhaid i chi neu’ch partner dalu’r tâl treth os yw’ch incwm net wedi’i addasu unigol chi, neu incwm net wedi’i addasu unigol eich partner, o dan y trothwy am y flwyddyn dreth gyfan.

Defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif y newidiadau i’ch incwm net wedi’i addasu ac i weld os byddan nhw’n effeithio ar y tâl treth.

Gallwch ddewis optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant, neu eu hailddechrau, ar unrhyw adeg.

Os yw’ch incwm net wedi’i addasu yn disgyn o dan y trothwy, a does dim angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF.

Rydych yn talu drwy Hunanasesiad ac nid oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach

Ffoniwch CThEF os yw’r naill a’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich incwm net wedi’i addasu
  • rhif Yswiriant Gwladol unrhyw bartner sydd wedi cael Budd-dal Plant yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf
  • dyddiadau’r perthnasoedd gydag unrhyw bartneriaid sy’n cael Budd-dal Plant

Mae gennych blentyn newydd

Mae hawlio Budd-dal Plant yn eich helpu i fod yn gymwys i gael y canlynol:

  • credydau Yswiriant Gwladol, sy’n diogelu’ch hawl i Bensiwn y Wladwriaeth
  • budd-daliadau eraill, megis Lwfans Gwarcheidwad

Mae Budd-dal Plant yn profi eich bod chi (neu’ch partner) yn rhoi cymorth i blentyn arall. Efallai y byddwch yn talu llai o gynhaliaeth plant ar gyfer plant nad ydynt yn byw gyda chi.

Gallwch wneud hawliad newydd neu ddiogelu’ch hawl i’r uchod drwy wneud y canlynol:

Mae partner yn symud i mewn neu allan

Efallai y bydd eich sefyllfa’n newid os yw’ch incwm net wedi’i addasu dros y trothwy ac rydych yn symud i mewn â rhywun sy’n cael Budd-dal Plant, neu’n gwahanu oddi wrth rywun sy’n cael Budd-dal Plant.

Os oes gennych chi a’ch partner incwm unigol sydd dros y trothwy, yna bydd y sawl sydd â’r incwm net wedi’i addasu uchaf yn gyfrifol am dalu’r tâl.

Mae’r tâl treth yn berthnasol o’r dyddiad yr ydych yn symud i mewn gyda’ch gilydd hyd nes y dyddiad yr ydych yn gwahanu’n barhaol, neu’r dyddiad y mae’r taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben – er enghraifft, gan fod y plentyn yn rhy hen i fod yn gymwys i gael Budd-dal Plant.

Nid yw cyfnodau byr ar wahân, megis aros yn yr ysbyty neu weithio oddi cartref, yn cyfrif fel gwahanu.

Os ydych yn talu’r tâl drwy TWE, a’ch bod chi’n gwahanu oddi wrth eich partner, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF drwy wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Bydd CThEF yn addasu eich cod treth fel nad ydych yn talu’r tâl mwyach.