Skip to main content

Ateb cais am ysgariad

Printable version

1. Trosolwg

Os yw eich gŵr neu eich gwraig wedi gwneud cais am ysgariad, bydd y llys yn anfon copi o’u cais atoch.

Fe gewch hefyd y dogfennau canlynol ar-lein neu drwy’r post:

  • ‘rhybudd o achos’ - mae hwn yn dweud wrthych beth yw eich rhif achos a beth i’w wneud nesaf
  • ffurflen ‘cydnabod cyflwyno’ - gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i ateb

Mae’r broses yn wahanol os ydych eisiau gwneud cais am ysgariad eich hun neu os ydych yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cadwch y rhybudd o achos yn ddiogel.

Mae’n rhaid i chi ateb erbyn y dyddiad sydd ar y rhybudd o achos. Gallwch ateb ar-lein neu drwy’r post.

Pan fyddwch yn ateb, byddwch yn dweud p’un ai a ydych yn:

  • cytuno â’r ysgariad
  • anghytuno â’r ysgariad

Os ydych yn ateb gan ddweud eich bod yn cytuno â’r ysgariad, bydd yr ysgariad yn parhau. Byddwch chi a’ch gŵr neu eich gwraig yn gwneud trefniadau ar gyfer unrhyw blant sydd gennych ac ar gyfer rhannu arian ac eiddo.

Os ydych yn anghytuno â’r ysgariad, bydd angen i chi lenwi ffurflen ychwanegol ar ôl i chi ateb. Gallwch ond anghytuno am resymau cyfreithiol.

Os na fyddwch yn ateb yna gall yr ysgariad barhau beth bynnag.

Cael cymorth

Gallwch wneud y canlynol:

2. Sut i ateb

Mae’n rhaid i chi ateb erbyn y dyddiad sydd ar eich ‘rhybudd o achos’.

Mae sut y dylech ateb yn dibynnu ar p’un a oes gennych gyfreithiwr ai peidio.

Ateb ar-lein

Gallwch ateb ar-lein os nad oes gennych gyfreithiwr.

Byddwch angen:

  • y cod mynediad sydd ar eich rhybudd o achos
  • agor cyfrif ar-lein

Ateb ar-lein

Cymorth i ateb ar-lein

Os ydych yn cael problemau technegol, cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd.

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Sgwrsio dros y we
Ffurflen ar-lein
Rhif ffôn: 0300 303 5171
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am - 5pm, dydd Gwener, 9am - 4.30pm
(wedi cau ar wyliau banc)
Gwybodaeth am gost galwadau

Os na allwch ddefnyddio’r rhyngrwyd neu os nad ydych yn hyderus ar-lein, cysylltwch â We are Group.

We Are Group
support@wearegroup.com
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 6pm (wedi cau ar wyliau banc)
Gwybodaeth am gost galwadau

Ateb drwy’r post

Mae’n rhaid i chi ateb drwy’r post os oes gennych gyfreithiwr.

Postiwch y rhybudd o achos i’r cyfeiriad sydd ar y ffurflen.

Os na fyddwch yn ateb

Gall y llys ganiatáu i’r ysgariad barhau heb eich ateb. Efallai y bydd rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol os bydd hyn yn digwydd.

Ar ôl i chi ateb

Bydd y llys yn cadarnhau ei fod wedi cael eich ateb a bydd yn anfon copi atoch.

Mae beth fydd yn digwydd nesaf yn dibynnu ar p’un a wnaethoch gytuno neu anghytuno â’r ysgariad yn eich ateb.

Gallwch wirio cynnydd eich ysgariad drwy:

Cael cyngor

Gallwch gael cyngor cyfreithiol i’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud.

3. Os ydych yn cytuno â’r ysgariad

Os gwnaethoch ateb a dweud eich bod yn cytuno â’r ysgariad, bydd yr ysgariad yn parhau.

Byddwch yn cytuno gyda’ch gŵr neu eich gwraig sut i rannu arian ac eiddo a’r trefniadau ar gyfer unrhyw blant sydd gennych. Os y gallwch gytuno, ni fydd angen i chi fynychu gwrandawiad llys.

Bydd eich gŵr neu eich gwraig yn gwneud cais am:

  • orchymyn amodol - ar ôl i 20 wythnos fynd heibio ers gwneud y cais am ysgariad
  • gorchymyn terfynol - 43 wythnos ar ôl y gorchymyn amodol

Pan wneir y gorchymyn terfynol, bydd eich priodas ar ben. Rydych nawr wedi ysgaru a gallwch ailbriodi os dymunwch.

Cael cyngor

Gallwch gael cyngor cyfreithiol i’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud.

4. Os ydych yn anghytuno â’r ysgariad

Dim ond os oes gennych reswm cyfreithiol y gallwch anghytuno â’r ysgariad. Er enghraifft, os ydych yn byw dramor ac nid oes gan y llys yng Nghymru neu Loegr bŵer dros eich achos.

Ni allwch anghytuno oherwydd nad ydych eisiau ysgariad.

Ar ôl i chi ateb yn dweud eich bod yn anghytuno, mae’n rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen ‘ymateb i gais am ysgariad’ i egluro pam eich bod chi’n anghytuno.

Anfonwch y ffurflen yn ôl i’r cyfeiriad ar y ffurflen o fewn 21 diwrnod i chi gael eich rhybudd o achos.

Bydd rhaid i chi dalu £234 ac efallai y bydd rhaid i chi fynd i’r llys.

Gallwch wneud cais am help i dalu ffioedd llys.

Cael cyngor

Gallwch gael cyngor cyfreithiol i’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud.

5. Os nad yw eich gŵr neu eich gwraig yn parhau â’r ysgariad

Mae beth fydd angen i chi wneud nesaf yn dibynnu ar lle daeth pethau i stop.

Os nad ydynt wedi gwneud cais am orchymyn amodol

Gallwch ofyn am ganiatâd y llys i wneud cais am y gorchymyn amodol.

Os nad ydynt wedi gwneud cais am y gorchymyn terfynol

Gallwch lenwi ffurflen ‘cyflwyno cais’.

Bydd angen i chi aros o leiaf 3 mis, 6 wythnos ac 1 diwrnod ar ôl cael y gorchymyn amodol.

Bydd rhaid i chi dalu £190 ac efallai y bydd rhaid i chi fynd i’r llys.

Gallwch wneud cais am help i dalu ffioedd llys.

Cael cyngor

Gallwch gael cyngor cyfreithiol i’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud.

6. Dechrau eich ysgariad eich hun

Efallai y byddwch eisiau dechrau eich ysgariad eich hun. Er enghraifft, os bydd eich gŵr neu eich gwraig yn newid eu meddwl.

Bydd angen i chi gysylltu â’r llys am ganiatâd a thalu ffi o £612. Efallai y bydd rhaid i chi fynd i’r llys.

Gallwch wneud cais i gael help i dalu ffioedd llys.

Cael cyngor

Gallwch gael cyngor cyfreithiol i’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud.