Skip to main content

Yr hyn sy’n cael ei drethu

Rydych yn talu treth os yw cyfanswm eich incwm blynyddol dros eich Lwfans Personol. Dysgwch ragor am eich Cyfraddau Treth Incwm a Lwfansau Personol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gallai cyfanswm eich incwm gynnwys y canlynol:

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ar y gyfradd uwch os cymerwch swm mawr o’ch pensiwn preifat. Mae hefyd yn bosibl y bydd arnoch dreth ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Os ydych yn cymryd eich holl bensiwn, neu rywfaint ohono, fel cyfandaliad

Byddwch yn talu Treth Incwm ar unrhyw ran o’r cyfandaliad sy’n mynd dros y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y lwfans cyfandaliad sydd ar gael i chi 
  • y lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth sydd ar gael i chi

Dysgwch ragor am y lwfans cyfandaliad sydd ar gael i chi (yn agor tudalen Saesneg).

Y sefyllfa dreth os bydd rhywun yn etifeddu’ch pensiwn

Mae rheolau eraill ar waith os bydd rhywun yn etifeddu eich Pensiwn y Wladwriaeth neu’ch pensiwn preifat (yn agor tudalen Saesneg).