Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth Apelio i'r Tribiwnlys Treth

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r gwasanaeth ar-lein ‘apelio yn erbyn penderfyniad treth' a ‘gwneud cais i gau ymholiad treth'.

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEM) sy'n gyfrifol am y wefan hon. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, golyga hyn y dylech allu:

Sylwch mai cydnawsedd â VoiceOver yn unig a gynhwyswyd yn y profion hygyrchedd a gynhaliwyd hyd yma.

Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod wedi defnyddio iaith syml.

Mae gan Ability Net gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn y broses o baratoi archwiliad llawn o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.1 ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn unwaith y byddwn wedi cael adroddiad craffu WCAG 2.1. Yn y cyfamser, rydym wedi cynnal rhai profion sylfaenol ac wedi rhoi sylw i'r materion a amlygwyd.

Mi ddefnyddiom gydrannau o System Ddylunio GOV.UK i adeiladu'r gwasanaeth hwn. Mae canllawiau hygyrchedd y System Ddylunio yn egluro statws hygyrchedd cyfredol y cydrannau hyn.

Mae'r cydrannau a restrir yng nghanllawiau hygyrchedd y System Ddylunio yn cydymffurfio'n llwyr â safon AA WCAG 2.1.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych angen gwybodaeth sydd yn y gwasanaeth hwn mewn fformat arall megis ar ffurf PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Os byddwch yn anfon e-bost atom, byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod.

Os hoffech siarad â rhywun yn uniongyrchol:

Riportio problemau hygyrchedd

Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u cynnwys ar y dudalen hon, neu'n credu nad ydym yn bodloni'r rheoliadau hygyrchedd, anfonwch e-bost i: hmctsforms@justice.gov.uk yn nodi manylion y broblem ac unrhyw dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio.

Y Weithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n fodlon gyda'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae GLlTEM wedi ymrwymo i sicrhau bod ei ffurflenni ar-lein a'i wasanaethau yn hygyrch, a hynny yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, a hynny oherwydd y materion o beidio â chydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Mae'r cynnwys isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

Anghydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Diffyg profi hygyrchedd y wefan â llaw

Mae rhai profion sylfaenol wedi'u cynnal ar wasanaeth ar-lein y Tribiwnlys Treth. Yn benodol, sicrhawyd bod y gwasanaeth yn pasio profion safon AA WCAG 2.1 o ran adnoddau profi hygyrchedd gwefan HTML, Pa11y a WAVE. Hefyd, profwyd y gwasanaeth o'r dechrau i'r diwedd gan ddefnyddio VoiceOver, y bysellfwrdd yn unig, a gwnaethpwyd y testun 300% yn fwy.

Fodd bynnag, oherwydd y diffyg i brofi hygyrchedd y wefan â llaw, nid yw'n bosib datgan bod y gwasanaeth yn cydymffurfio'n llwyr â'r rheoliadau. Bydd yr archwiliad llawn a gynhelir o WCAG 2.1 yn manylu ar hygyrchedd cyffredinol y gwasanaeth. Bydd hyn yn ein galluogi i gymryd camau i sicrhau bod y gwasanaeth yn cydymffurfio'n llwyr â'r rheoliadau.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Rydym yn y broses o drefnu archwiliad llawn o WCAG 2.1. Byddwn wedyn yn diweddaru'r datganiad hwn.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar y 23ain o Dachwedd 2020. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar y 23ain o Dachwedd 2020.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar y 23ain o Dachwedd 2020. Cynhaliwyd y profion gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEM).