Beth i'w wneud ar ôl i rywun farw
Printable version
1. Cofrestru'r farwolaeth
Ar ôl i rywun farw, rhaid i’w meddyg gadarnhau’r farwolaeth cyn cysylltu â’r archwiliwr meddygol. Gall hyn gymryd ychydig ddyddiau.
Yna bydd archwiliwr meddygol yn gwirio achos y farwolaeth i wneud yn siŵr ei fod yn gywir. Byddant yn uwch feddyg ac ni fyddant wedi bod yn rhan o ofal y person sydd wedi marw.
Yna bydd swyddfa’r archwilydd meddygol y cysylltu â chi i:
- egluro achos y farwolaeth
- ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hyn neu’r gofal iechyd a ddarparwyd i’r person cyn iddo farw
Mae hyn yn wirfoddol ac nid oes rhaid i chi siarad â nhw.
Cofrestru’r farwolaeth
Rhaid i chi aros i swyddfa’r archwiliwr meddygol gadarnhau y gallwch gofrestru’r farwolaeth.
Cofrestrwch y farwolaeth o fewn 5 diwrnod (8 diwrnod yn yr Alban) i gael y cadarnhad. Mae hyn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Os oes angen mwy na 5 diwrnod arnoch, rhaid i chi ddweud wrth y swyddfa gofrestru ar unwaith.
Ar ôl i chi gofrestru’r farwolaeth
Byddwch yn cael tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi (a elwir yn aml yn ‘y ffurflen werdd’).
Rhowch y dystysgrif i’ch trefnydd angladdau, amlosgfa neu awdurdod claddu. Rhaid i chi wneud hyn cyn y gall yr angladd ddigwydd.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
2. Pan fydd marwolaeth yn cael ei adrodd i grwner
Os bydd marwolaeth yn cael ei adrodd i grwner, gall y dogfennau sydd eu hangen arnoch i gofrestru’r farwolaeth fod yn wahanol.
Bydd y crwner yn ceisio darganfod sut y bu i’r unigolyn farw. Byddant yn rhyddhau’r corff i’w amlosgi neu ei gladdu unwaiith y byddant wedi cynnal eu harchwiliadau.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os na fydd y crwner yn ymchwilio i farwolaeth
Efallai y bydd y crwner yn penderfynu nad oes angen iddynt gynnal ymchwiliad ar ôl i farwolaeth gael ei adrodd iddynt. Bydd yr archwilydd meddygol yn cysylltu â chi i gadarnhau y gallwch gofrestru’r farwolaeth.
Os bydd y crwner yn canfod achos y farwolaeth
Os bydd y crwner yn penderfynu bod achos y farwolaeth yn glir:
-
Byddant yn rhoi tystysgrif i’r cofrestrydd yn dweud nad oes angen cwest.
-
Bydd y cofrestrydd yn cysylltu â chi i drefnu i’r farwolaeth gael ei chofrestru.
Os bydd y crwner yn cynnal cwest
Mae’n rhaid i grwner gynnal cwest:
- os yw achos y farwolaeth dal yn anhysbys
- os yw’r unigolyn efallai wedi marw dan amgylchiadau treisgar neu annaturiol
- os yw’r unigolyn efallai wedi marw yn y carchar neu yn nalfa’r heddlu
Tystysgrifau marwolaeth
Os oes angen prawf o’r farwolaeth arnoch tra byddwch yn aros i’r cwest ddod i ben, gofynnwch i’r crwner am dystysgrif marwolaeth interim.
Unwaith y bydd y cwest drosodd, gallwch gael y dystysgrif marwolaeth derfynol gan y cofrestrydd.
Gallwch ddefnyddio’r naill dystysgrif neu’r llall i:
- wneud cais am brofiant
- rhoi gwybod am y farwolaeth i fwy nag un asiantaeth o’r llywodraeth gan ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith - gall y cofrestrydd eich helpu i wneud hyn.
Os oes angen post-mortem
Efallai y bydd y crwner yn penderfynu bod angen cynnal post-mortem i ddarganfod sut y bu farw’r unigolyn. Gellir gwneud hyn naill ai mewn ysbyty neu fortiwari.
Efallai y cynhelir post mortem hyd yn oed os yw’r crwner yn penderfynu peidio ag ymchwilio ‘r farwolaeth.
Ni allwch wrthwynebu post-mortem crwner - ond os ydych wedi gofyn mae’n rhaid i’r crwner ddweud wrthych (a meddyg teulu’r unigolyn) pryd a ble y bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal.
Ar ôl y post-mortem
Bydd y crwner yn rhyddhau’r corff ar gyfer angladd ar ôl iddynt gwblhau’r archwiliadau post-mortem ac nid oes angen archwiliadau pellach.
Os caiff y corff ei ryddhau heb unrhyw gwest, bydd y crwner yn anfon ffurflen (‘Form CN2’) at y cofrestrydd yn nodi achos y farwolaeth.
Bydd y crwner hefyd yn anfon ‘Certificate of Coroner - form Cremation 6’ os yw’r corff i gael ei amlosgi.
Cael cymorth
Gallwch gael cymorth annibynnol rhad am ddim gan The Coroners’ Courts Support Service.
The Coroners’ Courts Support Service (Cymru a Lloegr)
Ffôn: 0300 111 2141
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 7pm
Dydd Sadwrn, 9am i 2pm
Gwybodaeth am gost galwadau
3. Beth i'w wneud os bydd rhywun yn marw dramor
Rhaid i chi gofrestru marwolaeth gyda’r awdurdodau lleol yn y wlad lle bu farw’r unigolyn.
Gallwch hefyd gofrestru’r farwolaeth gydag awdurdodau’r DU (yn agor tudalen Saesneg) os ydych chi eisiau cofnod o’r farwolaeth a gedwir yn y DU hefyd. Nid oes angen i chi wneud hyn os byddwch chi’n dod â’r corff adref i’w gladdu neu ei amlosgi - bydd y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO) yn cofnodi’r gladdedigaeth neu’r amlosgiad.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’r rheolau hyn yn berthnasol os ydych chi’n byw yng Nghymru a Lloegr. Mae yna broses wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Rhoi gwybod am y farwolaeth
Mae’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn eich galluogi i roi gwybod am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth ar yr un pryd.
Gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd yr unigolyn a fu farw:
- fel arfer yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- tramor dros dro (er enghraifft, ar wyliau neu daith busnes)
Cysylltwch â swyddfa gofrestru (yn agor tudalen Saesneg) i ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith. Byddant naill ai’n:
- cwblhau’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith gyda chi
- rhoi rhif cyfeirnod unigryw i chi fel y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth eich hun ar-lein neu dros y ffôn
Efallai y bydd y swyddfa gofrestru yn gofyn i chi gael y dystysgrif marwolaeth dramor wedi’i gwirio cyn y gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith. Cysylltwch â’r llysgenhadaeth dramor berthnasol neu’r uchel gomisiwn yn y DU i gael y dystysgrif marwolaeth wedi’i gwirio.
Os na allwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith, rhowch wybod i sefydliadau am y farwolaeth eich hun
Darllenwch fwy am ddelio â marwolaeth tramor (yn agor tudalen Saesneg).
Dod â’r corff adref
I ddod â’r corff adref mae’n rhaid i chi:
- gael cyfieithiad Saesneg ardystiedig o’r dystysgrif marwolaeth
- cael caniatâd i symud y corff, a gyhoeddwyd gan grwner (neu swyddog cyfatebol) yn y wlad lle bu farw’r unigolyn
- rhoi gwybod i grwner yng Nghymru neu Loegr os oedd achos y farwolaeth yn anhysbys, yn dreisgar neu’n annaturiol
Darllenwch wybodaeth am y wlad lle bu farw’r unigolyn (yn agor tudalen Saesneg) i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud.
Cysylltu â swyddfa gofrestru
Unwaith y bydd y corff gartref, ewch â’r dystysgrif marwolaeth i’r swyddfa gofrestru (yn agor tudalen Saesneg) yn yr ardal lle mae’r angladd yn cael ei gynnal.
Gan fod y farwolaeth eisoes wedi’i chofrestru dramor, bydd y cofrestrydd yn rhoi ‘tystysgrif dim atebolrwydd i gofrestru’ i chi. Rhowch hon i’r trefnydd angladdau fel y gall yr angladd fynd yn ei flaen.
Os ydych chi’n trefnu’r angladd eich hun, rhowch y dystysgrif yn ôl i’r cofrestrydd ar ôl i’r angladd gael ei gynnal. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 96 awr i’r angladd.
Pryd y bydd crwner yn gysylltiedig
Bydd crwner fel arfer yn cynnal cwest yng Nghymru neu Loegr os nad yw achos y farwolaeth yn hysbys neu os oedd yn sydyn, yn dreisgar neu’n annaturiol.
Mae angen tystysgrif gan y crwner arnoch (ffurflen ‘Cremation 6’) os yw’r unigolyn i gael ei amlosgi.
Dod â llwch adref
Wrth adael gwlad gyda llwch dynol fel arfer bydd angen i chi ddangos:
- y dystysgrif marwolaeth
- y dystysgrif amlosgi
Mae gan bob gwlad ei rheolau ei hun ynghylch gadael gyda llwch dynol ac efallai y bydd gofynion ychwanegol. Darllenwch wybodaeth am y wlad lle bu farw’r unigolyn (yn agor tudalen Saesneg) i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud. Bydd angen i chi lenwi ffurflen tollau safonol pan fyddwch yn cyrraedd adref.
Cysylltwch â’ch cwmni hedfan i ddarganfod a allwch chi gario’r llwch fel bag llaw neu fel bag wedi’i gofrestru. Efallai y bydd yn gofyn i chi roi’r llwch mewn cynhwysydd anfetelaidd fel y gallant gael archwiliad pelydr-x.
Ni ddylech gael yr unigolyn wedi’i amlosgi dramor os ydych am i grwner gartref gynnal cwest i’w farwolaeth.
4. Beth i'w wneud os bydd plentyn neu fabi yn marw
Rhaid i chi gofrestru’r farwolaeth yn y ffordd arferol. Efallai y bydd rhaid i chi hefyd roi gwybod am farwolaeth plentyn i sefydliadau eraill yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Mae gwahanol reolau ar gyfer cofrestru farw-enedigaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Budd-dal Plant
Mae angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant yn CThEF cyn gynted â phosibl os bydd plentyn sy’n gymwys i gael Budd-dal Plant yn marw. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os gwnaethoch optio allan am unrhyw reswm, fel y Tâl Budd-dal Plant Incwm Uchel.
Gallwch naill ai:
Darganfyddwch beth sy’n digwydd i daliadau Budd-dal Plant os bydd plentyn neu riant yn marw a sut i wneud cais os nad ydych wedi gwneud hynny eto.
Os yw plentyn yn farw-anedig
Ni allwch wneud cais am Fudd-dal Plant os yw’r plentyn yn farw-anedig.
Os ydych chi’n cael budd-daliadau eraill fel rhiant neu ofalwr
Os yw plentyn neu fabi wedi marw ac rydych chi’n cael budd-daliadau gan eich bod yn rhiant neu ofalwr iddynt, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) cyn gynted â phosibl.
Gallai budd-daliadau eraill gynnwys:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Byw i’r Anabl i blant
- Lwfans Gwarcheidwad
Gwasanaeth Profedigaeth DWP
Ffôn: 0800 151 2012
Iaith Gymraeg: 0800 731 0453
Relay UK (os na allwch chi glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 151 2012
Gwasnaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych chi ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os ydych chi’n cael cefnogaeth am blentyn anabl gan eich cyngor lleol
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyngor lleol os bydd plentyn anabl maent yn rhoi cefnogaeth iddynt yn marw. Gallai cefnogaeth gynnwys:
- help i dalu am ofal plant
- help am anghenion addysgol arbennig
- lesio car gan y cynllun Motability
- darparu gofal seibiant fyr neu ofal yn y cartref
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith i roi gwybod i’ch cyngor lleol.
Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
Gallwch gael y grant o hyd os ydych yn gymwys. Mae’n rhaid i chi wneud cais o fewn 3 mis i’r enedigaeth.
Absenoldeb a thâl mamolaeth a thadolaeth
Byddwch yn dal yn gymwys i gael absenoldeb a thâl os yw eich baban:
- yn farw-anedig ar ôl dechrau 24ain wythnos y beichiogrwydd
- yn marw ar ôl cael ei eni
Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
Efallai y byddwch chi a’ch partner yn gymwys ar gyfer absenoldeb a thâl statudol mewn profedigaeth os ydych yn gyflogedig a naill ai bod:
- bod eich plentyn yn marw cyn iddynt gyrraedd 18 oed
- rydych yn cael baban farw-anedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd
Rhaid bod y farwolaeth neu’r enedigaeth farw-anedig wedi digwydd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2020.
Taliadau Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
Pan fydd plentyn yn marw, mae unrhyw arian yn eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant - gan gynnwys unrhyw daliadau gan y llywodraeth - fel arfer yn cael ei drosglwyddo i bwy bynnag sy’n etifeddu ystad y plentyn.
5. Dywedwch Wrthym Unwaith
Mae’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn caniatáu i chi roi gwybod am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth ar yr un pryd.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat Hawdd ei Ddeall
Pryd i ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith
Gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd yr unigolyn a fu farw yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Mae hyn yn cynnwys os bu farw’r unigolyn tra roeddent dramor dros dro, er enghraifft ar wyliau neu daith fusnes.
Mae’n rhaid bod y farwolaeth naill ai wedi:
- cael ei chofrestru
- cael ei hadrodd i grwner a bod gennych dystysgrif marwolaeth terfynol neu dystysgrif marwolaeth interim
Ni allwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd yr unigolyn yn:
Gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os yw plentyn neu fabi wedi marw, ond mae hefyd angen i chi roi gwybod i’r DWP ar wahan os ydych chi’n cael budd-daliadau oherwydd eich bod yn rhiant neu’n ofalwr iddynt.
Sut i ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith
Bydd cofrestrydd yn egluro’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith pan fyddwch yn cofrestru’r farwolaeth. Byddant naill ai’n:
- cwblhau’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith gyda chi
- rhoi cyfeirnod unigryw i chi fel y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth eich hun ar-lein neu dros y ffôn
Bydd y cofrestrydd yn rhoi rhif i chi ei ffonio. Mae hyn yn cynnwys Relay UK os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn. Os ydych chi’n ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), mae yna wasanaeth cyfnewid fideo os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur - darganfyddwch mwy am sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled.
Rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth o fewn 28 diwrnod i chi gael eich cyfeirnod unigryw.
Os na allwch gofrestru’r farwolaeth oherwydd bod cwest ar y gweill, gallwch dal ofyn i gofrestrydd (yn agor tudalen Saesneg) am gyfeirnod unigryw. Bydd angen i chi gael tystysgrif marwolaeth interim gan y crwner sy’n cynnal y cwest yn gyntaf.
Cyn i chi ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith
Byddwch angen y rhif cyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith a gawsoch gan y Cofrestrydd.
Byddwch hefyd angen y manylion canlynol am yr unigolyn a fu farw:
- cyfenw
- dyddiad y farwolaeth
- enw, cyfeiriad a manylion cyswllt yr unigolyn neu’r cwmni sy’n delio â’u hystad (eiddo ac arian), a elwir yn ‘ysgutor’ neu’n ‘weinyddwr’
- os oes priod neu bartner sifil sy’n goroesi, enw, cyfeiriad, rhif ffôn a rhif Yswiriant Gwladol neu ddyddiad geni’r priod neu bartner sifil
- os nad oes priod neu bartner sifil sy’n goroesi, neu os nad yw eu priod neu bartner sifil yn gallu delio â’u materion, enw a chyfeiriad eu perthynas agosaf
- os bu iddynt farw mewn ysbyty, cartref nyrsio, cartref gofal neu hosbis, enw a chyfeiriad y sefydliad hwnnw
Efallai byddwch hefyd angen:
- os oedd ganddynt basbort Prydeinig dilys, eu rhif pasbort a’u tref enedigol
- os oedd ganddynt drwydded yrru, rhif eu trwydded yrru
- os oeddynt yn berchen ar unrhyw gerbydau, y rhifau cofrestru cerbydau
- os oeddynt yn talu Treth y Cyngor neu’n cael gwasanaethau gan eu cyngor lleol, fel taliadau Budd-dal Tai, enw eu cyngor lleol a pha wasanaethau yr oeddynt yn eu cael
- os oedd ganddynt fathodyn glas, rhif y bathodyn glas os ydych yn ei wybod
- os oeddynt yn cael unrhyw fudd-daliadau neu bensiwn y wladwriaeth, gwybodaeth am ba rai yr oeddynt yn eu cael
- os oeddynt yn cael arian o gynllun pensiwn neu iawndal lluoedd arfog, manylion y cynllun hwnnw
- os oeddynt yn cael arian neu’n talu i mewn i gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus, manylion y cynlluniau hynny
Byddwch angen eu rhif Yswiriant Gwladol hefyd os oeddynt yn cael arian neu’n talu i mewn i unrhyw un o’r cynlluniau pensiwn canlynol:
- Pensiynau GIG ar gyfer staff y GIG yng Nghymru a Lloegr
- Cynlluniau Asiantaeth Pensiwn Cyhoeddus yr Alban ar gyfer staff y GIG, athrawon, yr heddlu a diffoddwyr tân yn yr Alban
- Cronfa Diogelu Pensiynau a Chynllun Cymorth Ariannol
- Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)
Fel arall, nid oes angen eu rhif Yswiriant Gwladol arnoch. Fodd bynnag, os gallwch chi ei ddarparu o hyd, bydd yn helpu rhai sefydliadau i ddod o hyd i’w cofnodion yn gyflymach.
Mae angen caniatâd arnoch gan unrhyw briod neu bartner sifil sydd wedi goroesi, y perthynas agosaf, ysgutor, gweinyddwr neu unrhyw un a oedd yn hawlio budd-daliadau neu hawliau ar y cyd gyda’r unigolyn a fu farw, cyn i chi roi eu manylion.
Gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith ar-lein
Sefydliadau y bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn cysylltu â nhw
Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn hysbysu:
- Cyllid a Thollau EF (HMRC) - i ddelio â threth bersonol ac i ganslo budd-daliadau a chredydau, er enghraifft Budd-dal Plant
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) - i ganslo budd-daliadau a hawliau, er enghraifft Credyd Cynhwysol neu Bensiwn y Wladwriaeth
- Swyddfa Basbort - i ganslo pasbort Prydeinig
- Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) - i ganslo trwydded, dileu yr unigolyn fel ceidwad hyd at 5 cerbyd a chanslo treth cerbyd
- y cyngor lleol - i ganslo Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor (a elwir weithiau’n Cymorth Treth Cyngor), Bathodyn Glas, hysbysu gwasanaethau tai y cyngor a thynnu manylion yr unigolyn oddi ar y gofrestr etholiadol
- Veterans UK - i ganslo neu ddiweddaru taliadau Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
- Nawdd Cymdeithasol yr Alban - i ganslo budd-daliadau a hawliadau gan Lywodraeth yr Alban, er enghraifft Taliad Plant yr Alban
Bydd CThEF a’r DWP yn cysylltu â chi ynglŷn â threth, budd-daliadau a hawliadau’r unigolyn a fu farw.
Gallai’r DWP ond stopio budd-daliadau’r person sydd wedi marw. Os bydd plentyn neu fabi’n marw mae angen i chi roi gwybod i’r DWP ar wahan os ydych chi’n cael budd-daliadau oherwydd eich bod yn rhiant neu’n ofalwr iddynt.
Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith hefyd yn cysylltu â rhai cynlluniau pensiwn sector cyhoeddus fel eu bod yn canslo taliadau pensiwn yn y dyfodol. Byddant yn rhoi gwybod i:
- Cynllun Pensiwn y Lluoedd Arfog
- Pensiynau’r GIG ar gyfer staff GIG yng Nghymru a Lloegr
- Cynlluniau pensiwn ar gyfer staff y GIG, athrawon, yr heddlu a diffoddwyr tân yn yr Alban
- Cronfa Amddiffyn Pensiwn a Chynllun Cymorth Ariannol
- Cynlluniau Pensiwn Awdurdodau Lleol (LGPS)
Ar ôl i chi ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith
I gau neu newid manylion cyfrifon ariannol yr unigolyn, bydd angen i chi gysylltu â sefydliadau fel:
- banciau
- darparwyr morgeisi
- darparwyr yswiriant
- cwmnïau yr oedd gan yr unigolyn gontractau â nhw, fel cwmnïau cyfleustodau, landlordiaid neu gymdeithasau tai
- cynlluniau pensiwn personol neu weithle, oni bai eu bod yn un o gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus y mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn cysylltu â nhw
Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer cynlluniau pensiwn yr unigolyn, gallwch chwilio am fanylion cyswllt pensiwn.
Efallai y bydd angen i chi hefyd:
- ddiweddaru’r cofnodion eiddo, os oedd yr unigolyn yn berchen ar dir neu eiddo
- cysylltu â DVLA, os oedd yr unigolyn yn berchen ar gerbyd a’ch bod yn ei werthu neu’n ei gadw ac yn ei drethu yn eich enw eich hun
- cysylltu â CThEF (yn agor tudalen Saesneg), os oedd gan yr unigolyn drethi busnes fel TAW
- cysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, os oedd gan yr unigolyn fenthyciad myfyriwr ganddynt
- cysylltu â’r DWP os bydd plentyn neu fabi’n marw ac rydych chi’n cael budd-daliadau oherwydd eich bod yn rhiant neu’n ofalwr iddynt.
Os nad ydych yn defnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith
Rhaid i chi roi gwybod i’r sefydliadau perthnasol am y farwolaeth eich hun.
6. Rhoi gwybod am farwolaeth heb gyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith
Cysylltwch â’r sefydliadau canlynol os nad ydych yn gallu defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Cyllid a Thollau EF (CThEF)
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Byddant yn dweud wrthych pa wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gyfrifo a wnaeth yr unigolyn a fu farw dalu’r swm cywir o dreth.
Os na allwch ffonio’r llinell gymorth, mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen P1000 i roi gwybod i CThEF pwy sy’n delio ag arian ac eiddo’r unigolyn a fu farw, megis cynrychiolydd personol, ysgutor neu weinyddwr yr ystad.
Cyfrifon ariannol
I gau neu newid manylion cyfrifon ariannol yr unigolyn, bydd angen i chi gysylltu â sefydliadau fel:
- banciau
- darparwyr morgeisi
- darparwyr yswiriant
- cwmnïau yr oedd gan yr unigolyn gontractau â nhw, megis cwmnïau cyfleustodau, landlordiaid neu gymdeithasau tai
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG)
Cysylltwch â’r Swyddfa Cyfraniadau YG (yn agor tudalen Saesneg) i ganslo taliadau YG yr unigolyn os oeddynt yn hunangyflogedig neu yn talu YG gwirfoddol.
Swyddfa Budd-dal Plant
Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant os yw plentyn neu’r rhiant yn marw. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 8 wythnos o’r farwolaeth.
Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Profedigaeth i ganslo budd-daliadau a hawliau’r unigolyn, gan gynnwys eu Pensiwn y Wladwriaeth. Byddant hefyd yn gwirio os ydych chi’n gymwys i gael cymorth gyda chostau’r angladd, neu unrhyw fudd-daliadau eraill.
Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau
Ffôn: 0800 151 2012
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 151 2012
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych chi ar gyfrifiadur – darllenwch fwy am sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu ar dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am hyd at 6pm
Gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg: 0800 731 0453
Os oedd yr unigolyn a fu farw yn byw dramor ar y pryd, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg) yn lle.
Pensiynau personol, pensiynau gweithle a phensiynau’r lluoedd arfog
Bydd angen i chi gysylltu â darparwr pensiwn yr unigolyn.
Os oeddynt yn cael taliadau pensiwn, cysylltwch â’r darparwr cyn gynted â phosib i osgoi gorfod gwneud ad-daliadau. Bydd yr hyn y mae angen i chi ei wneud i roi stop ar daliadau pensiwn yn dibynnu ar y math o bensiwn.
Defnyddiwch y gwasanaeth Olrhain Pensiwn i ddod o hyd i fanylion ynghylch pensiwn gweithle neu bensiwn personol yr unigolyn.
Cysylltwch â Chyn-filwyr y DU (yn agor tudalen Saesneg) os oedd gan yr unigolyn bensiwn gyda’r lluoedd arfog.
Cerbydau a thrwyddedau gyrru
Cysylltwch ag Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os oedd gan yr unigolyn drwydded yrru, neu os oedd yn berchen ar gerbyd.
Swyddfa Basbort EF (HMPO)
Llenwch y ffurflen ‘What to do when a passport holder dies’ (yn agor tudalen Saesneg), a’i hanfon i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
Nawdd Cymdeithasol yr Alban
Cysylltwch â Nawdd Cymdeithasol yr Alban i ganslo budd-daliadau a hawliadau’r unigolyn gan Lywodraeth yr Alban, er enghraifft Taliadau Plant yr Alban. Byddant hefyd yn gallu gwirio a ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chostau angladd.
Rhadffôn: 0800 182 2222
Rhif ffôn (os ydych y tu allan i’r DU): +44 (0)1382 931 000 – bydd costau yn berthnasol, ond gallwch ofyn iddynt roi galwad yn ôl i chi
Cysylltwch ag ap cyfnewid fideo yr Alban ar gyfer y rhai sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am hyd at 6pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC)
Cysylltwch â’r SLC os oedd yr unigolyn yn gwneud ad-daliadau benthyciad Myfyriwr iddynt.
7. Trefnu yr angladd
Fel arfer, bydd angladd dim ond yn gallu digwydd ar ôl i’r farwolaeth gael ei chofrestru, oni bai bod y farwolaeth wedi cael ei hadrodd i grwner.
Gallwch dalu trefnydd angladdau i drefnu’r angladd, neu gallwch ei drefnu eich hun.
Dylech wirio a wnaeth yr unigolyn a fu farw drefniadau ar gyfer eu hangladd – gall hyn gynnwys angladd rhagdaledig neu yswiriant bywyd. Gallwch wirio hyn gyda threfnwyr angladdau lleol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Trefnwyr angladdau
Bydd trefnydd angladdau yn darparu cyngor a chymorth wrth i chi drefnu angladd.
Os byddwch yn hurio trefnydd angladdau, gallwch ddewis un sy’n aelod o’r sefydliadau canlynol:
- Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau (NAFD)
- Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau Cynghreiriol ac Annibynnol (SAIF)
- Funeral Experts
Mae gan y sefydliadau hyn godau ymarfer – pan fyddwch yn dewis defnyddio’u gwasanaethau, dylai’r cwmni roi rhestr brisiau i chi.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i wirio a ydynt yn cynnig gwasanaethau angladd eu hunain. Mae rhai cynghorau lleol yn gwneud hyn ochr yn ochr â threfnwyr angladdau lleol, er enghraifft ar gyfer angladdau nad ydynt yn grefyddol.
Gall Cymdeithas Dyneiddwyr Prydeinig neu’r Sefydliad ar gyfer Angladdau Sifil hefyd helpu gydag angladdau nad ydynt yn grefyddol.
Trefnu’r angladd eich hun
Gallwch ddewis trefnu angladd eich hun pe dymunwch.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybodaeth am y canlynol:
- prynu lleiniau claddu
- cysylltu â gwasanaethau amlosgi
- costau angladd
Amlosgiadau
Mae yna ffurflenni gwahanol i’w llenwi yn dibynnu ar ble y bu i’r unigolyn farw.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol neu’ch amlosgfa leol os ydych am gael cefnogaeth gyda’ch cais.
Costau angladd
Gall y costau hyn gynnwys y canlynol:
- costau trefnydd angladdau
- y pethau y bydd trefnydd angladdau yn talu amdanynt ar eich rhan (gelwir y costau hyn yn ‘alldaliadau’ neu’n ‘daliadau trydydd parti’). Enghreifftiau o’r costau hyn yw’r gost o gael rhywun i arwain y gwasanaeth, costau’r amlosgfa neu’r fynwent, neu hysbysiad papur newydd yn rhoi gwybod am y farwolaeth
- costau claddu neu amlosgi gan yr awdurdod lleol
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i drefnwyr angladdau gyhoeddi rhestr brisiau ar gyfer y set safonol o gynhyrchion a gwasanaethau y maent yn eu cynnig.
Mae gan HelpwrArian wybodaeth ynghylch costau angladd, a sut i’w lleihau.
Talu am angladd
Gall angladd gael ei dalu amdano drwy’r dulliau hyn:
- cynllun ariannol a oedd gan yr unigolyn, er enghraifft cynllun angladd rhagdaledig neu bolisi yswiriant
- gennych chi, gan aelodau eraill o’r teulu, neu gan ffrindiau
- gydag arian o ystad yr unigolyn (er enghraifft gyda chynilion) – gelwir y broses hon o gael mynediad at yr arian hwn yn gwneud cais am ‘grant cynrychiolaeth’ (gelwir weithiau yn ‘gwneud cais am brofiant’)
Gallwch wneud cais am Daliad Costau Angladd os ydych yn cael trafferth i dalu am yr angladd.
Gall Cronfa Angladdau Plant ar gyfer Lloegr (yn agor tudalen Saesneg) helpu i dalu am rai o gostau angladd plentyn o dan 18 oed, neu faban sy’n farw-anedig ar ôl y 24ain wythnos o feichiogrwydd.
Symud corff ar gyfer angladd dramor
Mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan grwner i symud corff ar gyfer angladd dramor. Mae’n rhaid gwneud hyn hyd yn oed os yw’r farwolaeth yn cael ei hymchwilio gan y crwner.
Gwnewch eich cais am ganiatâd o leiaf 4 diwrnod cyn yr ydych am i’r corff gael ei symud.
Dewch o hyd i grwner lleol gan ddefnyddio gwefan y Gymdeithas Crwneriaid i Gymru a Lloegr.
Mae prosesau gwahanol ar gyfer y canlynol:
8. Cymorth a chefnogaeth mewn profedigaeth
Mae profedigaeth yn brofiad personol, a gall effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i ddeall a rheoli galar gan y sefydliadau canlynol:
- GIG Cymru a’r NHS - cyngor ar sut i ymdopi â phrofedigaeth, galar a cholled
- Cruse Bereavement Support - dysgu mwy am y broses alaru
- Y Gwasanaeth Profedigaeth Cenedlaethol - ffyrdd o reoli galar
- The Good Grief Trust - cefnogaeth os ydych yn mynd drwy brofedigaeth ddiweddar
Gallwch ddod o hyd i rywun i siarad â nhw ynghylch profedigaeth yn y sefydliadau canlynol:
- Cruse Bereavement Support ar gyfer cymorth personol lleol, a sesiynau grŵp
- Llinell gymorth sefydliad Marie Curie ar gyfer cymorth parhaus dros y ffôn
- Cefnogaeth Profedigaeth Ar-lein gan sefydliad Sue Ryder sy’n cynnig cymuned ar-lein i siarad ag eraill sy’n galaru, gwasanaeth cwnsela dros fideo, a chefnogaeth galar personol drwy negeseuon testun
- AtaLoss am fanylion gwasanaethau cymorth profedigaeth, gan gynnwys llinellau cymorth
Mae gan wefan Cyngor ar Bopeth arweiniad ar beth sy’n digwydd yn dilyn marwolaeth, a rhai pethau y bydd angen i chi efallai eu gwneud, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Plant a pobl ifanc
Os ydych chi’n blentyn neu’n unigolyn ifanc sy’n galaru, neu os ydych chi’n adnabod plentyn sy’n galaru, gallwch gael cymorth gan y sefydliadau canlynol: