Cofrestru dyluniad
Printable version
1. Trosolwg
Mae cofrestriad dyluniad yn helpu i ddiogelu ymddangosiad cynnyrch, fel ei siâp neu batrwm.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae cofrestru’ch dyluniad yn ei gwneud hi’n haws profi:
- eich bod yn berchen ar y dyluniad yn gyfreithiol
- pryd y gwnaethoch ei greu
Bydd hyn yn helpu os bydd unrhyw un yn ceisio copïo neu ddefnyddio’ch dyluniad heb eich caniatâd.
Cyn cofrestru dyluniad, gwiriwch mai dyma’r modd diogelu cywir ar gyfer eich eiddo deallusol.
Mae cofrestriad dyluniad yn parhau am bum mlynedd. Rhaid i chi adnewyddu’ch cofrestriad dyluniad bob pum mlynedd i’w gadw’n ddiogel - hyd at uchafswm o 25 mlynedd.
Beth y gallwch ei gofrestru
Rhaid i’ch dyluniad fod yn newydd.
Gall dyluniad rhywbeth gynnwys un neu fwy o’r canlynol:
- siâp corfforol
- ffurfweddiad (neu sut mae gwahanol rannau o ddyluniad yn cael eu trefnu gyda’i gilydd)
- addurniad neu liw
- patrwm
Beth na allwch ei gofrestru
Ni allwch gofrestru:
- deunydd annymunol, er enghraifft geiriau rhegi neu ddelweddau pornograffig
- dyluniadau sy’n defnyddio baneri cenedlaethol nad oes gennych ganiatâd i’w defnyddio
- dyluniadau sy’n defnyddio arwyddluniau neu nodweddion swyddogol, er enghraifft y cylchoedd Olympaidd neu arfbeisiau
- ymarferoldeb dyluniad, er enghraifft cadair sy’n plygu i lawr yn gyflymach nag eraill o’r un math
Beth mae’n ei gostio
Mae cofrestru dyluniad yn costio o £60 am un dyluniad i £185 am hyd at 50.
Y broses ymgeisio
Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy’r post.
Rhaid i chi anfon darluniadau manwl o’ch dyluniadau i’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), gan gynnwys unrhyw nodiadau i ddisgrifio’n union beth rydych yn ei gofrestru.
Byddwch yn cael penderfyniad ar eich cais o fewn 2 wythnos.
2. Cyn i chi wneud cais
Chwiliwch y cofrestrau dylunio canlynol i wirio a oes unrhyw un arall wedi cofrestru eich dyluniad:
- Swyddfa Eiddo Deallusol yr UE (EUIPO)
- Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd (WIPO)
Gallwch ofyn i’r Swyddfa Eiddo Deallusol chwilio dyluniadau cofrestredig y DU ar eich rhan. Mae hyn yn costio £30.
Cael help a chyngor proffesiynol
Gallwch gael cyngor am ddim ar gofrestru dyluniad gan:
- yr IPO
- clinig eiddo deallusol (IP)
- Canolfan Busnes ac Eiddo Deallusol y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain
Gallwch gael cymorth proffesiynol gan atwrneiod patent a atwrneiod nod masnach. Bydd yn rhaid i chi dalu am eu gwasanaethau.
3. Paratowch eich cais
Rhaid i chi baratoi darluniau manwl o’ch dyluniad.
Gallwch uwchlwytho hyd at 12 darlun o’r un dyluniad os ydych chi’n gwneud cais ar-lein. Os oes angen i chi gynnwys mwy na 12 darlun, rhaid i chi wneud cais drwy’r post.
Os ydych chi’n gwneud cais drwy’r post, rhaid i’ch darluniau fod ar bapur A4 plaen.
Os ydych am gofrestru mwy nag un dyluniad
Gallwch gofrestru hyd at 50 o ddyluniadau ar y tro ar-lein.
Rhaid i chi gofrestru pob dyluniad ar wahân.
Os yw’ch dyluniadau’n wahanol, er enghraifft siâp, patrwm neu addurn gwahanol, rhaid i chi gofrestru pob fersiwn fel dyluniad ar wahân
Rheolau ar gyfer darluniau
Dangoswch un dyluniad yn unig
Rhaid i’ch darluniau:
- ddangos un fersiwn yn unig o’ch dyluniad
- ddangos pob golwg (er enghraifft blaen, ochr a chefn) fel darlun ar wahân
- ddangos lliw neu gyferbyniadau tonyddol sy’n elfennau o’ch dyluniad yn unig - oni bai eich bod chi’n dweud fel arall
Dangoswch y dyluniad ar ei ben ei hun
Rhaid i’ch darluniau:
- ddangos y dyluniad ar gefndir plaen
- beidio â chynnwys eich llaw, neu wrthrych nad yw’n gysylltiedig â’ch dyluniad
- beidio â chynnwys testun, mesuriadau na gwybodaeth dechnegol
Os oes rhannau o’r dyluniad sy’n dangos nad ydych am gofrestru, gallwch ‘lwydo’, amlygu neu gylchu rhannau o’r darlun.
Enghraifft
Rydych chi eisiau cofrestru dyluniad ar gyfer rhai coesau bwrdd. Mae eich darluniau yn dangos y bwrdd cyfan. Tynnwch sylw at y coesau (er enghraifft, trwy eu hamlinellu) i’w gwneud yn glir mai nhw yw’r unig ran o’r bwrdd rydych chi am ei gofrestru
Os ydych chi’n cofrestru patrwm arwyneb
Rhaid i’ch darluniau ddangos y patrwm cyflawn a dangos yn glir sut mae’r patrwm yn ailadrodd.
Defnyddiwch ddelweddau clir
Rhaid i’ch darluniau:
- ddangos y dyluniad fel y mae’n ymddangos i’r llygad, gan ddefnyddio ffotograffau, lluniadau llinell, dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) neu CAD wedi’i rendro
- i gyd fod yr un math o ddelwedd, er enghraifft pob ffotograff neu bob llun llinell
- fod yn glir, er enghraifft os ydych chi’n defnyddio ffotograffau mae’n rhaid iddynt fod mewn ffocws
- fod heb unrhyw fanylion wedi’u cuddio gan gysgodion neu adlewyrchiadau

Os yw’ch darluniau yn cynnwys pethau nad ydych am eu cofrestru
Rhaid i chi esbonio’n ysgrifenedig y rhannau o ddarlun nad ydych am eu cofrestru fel dyluniad - gelwir hyn yn ‘ymwadiad.’’
Enghraifft 1
Rydych chi eisiau cofrestru dyluniad ar gyfer beic. Mae’r beic yn eich darluniau yn binc. Ychwanegwch nodyn (‘ymwadiad’) eich bod chi’n cofrestru siâp y beic, nid y lliw, er mwyn diogelu eich hawl i ddefnyddio unrhyw liw.
Enghraifft 2
Rydych chi eisiau cofrestru dyluniad ar gyfer tebot. Mae’r darluniau’n dangos patrwm ond mae eich dyluniad yn ymwneud â siâp y tebot. Ychwanegwch nodyn (‘ymwadiad’) sy’n esbonio nad yw’r patrwm yn rhan o’r dyluniad.
4. Gwnewch gais i gofrestru eich dyluniad
Rhaid bod gennych ddarluniau o’ch dyluniad cyn y gallwch wneud cais i gofrestru dyluniad.
Os nad ydych am i’ch dyluniad gael ei gofrestru cyn gynted â phosibl, gallwch ddewis ‘gohirio’ eich cais am hyd at 12 mis. Ni fydd eich dyluniad yn cael ei ddiogelu fel dyluniad cofrestredig tra bydd eich cais yn cael ei ohirio.
Ffioedd
Mae faint rydych chi’n ei dalu yn dibynnu ar nifer y dyluniadau rydych chi’n eu cofrestru, nid nifer y darluniau rydych chi’n eu cynnwys.
| Nifer y dyluniadau | Ffi ffeilio ar-lein |
|---|---|
| Un | £60 |
| Hyd at 10 | £85 |
| Hyd at 20 | £110 |
| Hyd at 30 | £135 |
| Hyd at 40 | £160 |
| Hyd at 50 | £185 |
Gwneud cais i gofrestru dyluniad ar-lein
Os ydych chi am gofrestru mwy nag un dyluniad, uwchlwythwch bob un ar wahân. Ar ôl i chi uwchlwytho dyluniad, gofynnir i chi a ydych am ychwanegu un arall.
Os na allwch wneud cais ar-lein
Llenwch ffurflen gais a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Cynhwyswch eich darluniau a’r ffi. Mae’n costio mwy na gwneud cais ar-lein.
| Nifer y dyluniadau | Ffi ffeilio papur |
|---|---|
| Un | £75 |
| Pob dyluniad ychwanegol | £50 |
5. Ar ôl i chi wneud cais
Bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn archwilio eich cais.
Os nad oes unrhyw broblemau, bydd eich dyluniad yn cael ei gofrestru - fel arfer o fewn 2 wythnos.
Bydd yr IPO yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw broblemau. Bydd gennych o leiaf ddau fis i’w datrys. Efallai y byddwch yn cael mwy o amser yn dibynnu ar y math o broblem.
Os gwnaethoch ohirio eich cofrestriad
Os gwnaethoch ohirio eich cofrestriad pan wnaethoch gais, mae gennych hyd at 12 mis i’w gofrestru cyn y bydd yr IPO yn canslo’ch cais.
Er mwyn ei gofrestru, anfonwch ffurflen gofrestru dyluniad gohiriedig a’r ffi o £50 ar gyfer pob dyluniad.
6. Pan fydd eich dyluniad wedi'i gofrestru
Unwaith y bydd eich dyluniad wedi’i gofrestru caiff ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn o ddyluniadau cofrestredig. Bydd unrhyw un yn gallu gweld eich dyluniad.
Gallwch arddangos eich rhif cofrestru ar eich dyluniad.
Mae’n rhaid i chi adnewyddu eich cofrestriad dyluniad bob 5 mlynedd i’w ddiogelu, am hyd at 25 mlynedd i gyd.
Gallwch drwyddedu, gwerthu neu forgeisio eich cynllun.
Os caiff eich cais ei wrthod
Bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol yn rhoi gwybod i chi os caiff eich cais ei wrthod ac yn rhoi gwybod i chi pam.
Gallwch gofyn am wrandawiad os ydych yn:
- credu bod eich cais wedi cael ei drin yn annheg
- anghytuno â’r penderfyniad am eich dyluniad