Apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal
Trosolwg
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ynglŷn â’ch hawl i gael budd-daliadau, er enghraifft Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Chredyd Cynhwysol.
Gallwch hefyd apelio yn erbyn penderfyniad am Gynhaliaeth Plant (a elwir hefyd yn ‘Cynnal Plant’).
Mae yna broses wahanol os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon neu os ydych eisiau apelio yn erbyn penderfyniad gan Social Security Scotland.
Y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant, sy’n rhan o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF), sy’n penderfynu ar apeliadau. Mae’r tribiwnlys yn ddiduedd ac yn annibynnol ar y llywodraeth.
Bydd y tribiwnlys yn gwrando ar y ddwy ochr cyn gwneud penderfyniad.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn i chi apelio
Fel arfer mae’n rhaid i chi ofyn i’r penderfyniad am eich budd-daliadau neu Gynhaliaeth Plant gael ei ystyried eto cyn y gallwch apelio. Gelwir hyn yn ‘gorfodi i ailystyried’.
Bydd eich llythyr penderfyniad yn dweud os gallwch apelio ar unwaith ac nad oes angen i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol.
Sut i apelio
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal am ddim.
Dylech apelio i’r tribiwnlys o fewn mis i chi gael eich penderfyniad gorfodi i ailystyried. Os byddwch yn dechrau eich apêl ar ôl mis bydd yn rhaid i chi esbonio pam na wnaethoch yr apêl yn gynharach. Efallai na fydd eich apêl yn cael ei derbyn.
Ar ôl i chi gyflwyno’ch apêl, gallwch reoli eich apêl ar-lein a darparu tystiolaeth i’r tribiwnlys. Penderfynir ar eich apêl mewn gwrandawiad tribiwnlys.
Penderfyniadau budd-dal y gallwch apelio yn eu herbyn
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ynglŷn â:
- 30 awr o gynllun gofal plant am ddim
- Lwfans Gweini
- Taliad Cymorth Profedigaeth
- Lwfans Gofalwr
- Budd-dal Plant
- Cynnal Plant neu Gynhaliaeth Plant
- Uned Adfer Iawndal
- Grŵp Cyflogaeth Wedi’i Eithrio
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Lwfans Gwaith i’r Anabl
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
- Taliad Costau Angladd
- Lwfans Gwarcheidwad
- Grant Iechyd mewn Beichiogrwydd
- Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref
- Budd-dal Analluogrwydd
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Marwolaeth Diwydiannol
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Mamolaeth
- Credydau Yswiriant Gwladol
- Credyd Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Pensiwn Ymddeoliad
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
- Credydau Treth
- Gofal Plant Di-dreth
- Credyd Cynhwysol
- Taliad Tanwydd Gaeaf
- Taliad Niwed trwy Frechiad
Gwiriwch unrhyw lythyrau rydych wedi’u cael am eich budd-dal os nad ydych yn gwybod yr union enw.
Cael help a chyngor
Gallwch gael cymorth a chyngor am ddim gan:
Gallwch hefyd ofyn am gyngor gan gynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr.