Treth ar ddifidendau
Printable version
1. Gwirio a oes angen i chi dalu treth ar ddifidendau
Efallai y cewch daliad difidend os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cwmni.
Gallwch ennill rhywfaint o incwm o ddifidendau bob blwyddyn heb orfod talu treth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Sut rydym yn codi treth ar ddifidendau
Nid ydych yn talu treth ar unrhyw incwm o ddifidendau sydd o fewn eich Lwfans Personol (swm yr incwm y gallwch ei ennill bob blwyddyn heb orfod talu treth arno).
Cewch lwfans difidendau o £500 bob blwyddyn hefyd. Dim ond unrhyw incwm o ddifidendau sydd dros y lwfans o ran difidendau y mae angen i chi dalu treth arno.
Nid ydych yn talu treth ar ddifidendau o gyfranddaliadau mewn ISA.
Faint o dreth rydych yn ei thalu
Mae faint o dreth y byddwch yn ei thalu ar ddifidendau sydd dros y lwfans o ran difidendau’n dibynnu ar eich band Treth Incwm.
Mae’r tabl hwn yn dangos y cyfraddau rhwng 6 Ebrill 2026 a 5 Ebrill 2027. Gallwch hefyd weld cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).
| Band treth | Cyfradd dreth ar ddifidendau sydd dros y lwfans |
|---|---|
| Cyfradd sylfaenol | 10.75% |
| Cyfradd uwch | 35.75% |
| Cyfradd ychwanegol | 39.35% |
I gyfrifo’ch band treth, adiwch gyfanswm eich holl incwm o ddifidendau at eich incwm arall. Efallai y byddwch yn talu treth ar fwy nag un gyfradd.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael amcangyfrif o faint o dreth y mae angen i chi ei thalu ar y difidendau y byddwch yn eu cael.
Enghraifft
Yn ystod blwyddyn dreth 2026 i 2027, rydych yn cael £3,000 o ddifidendau ac rydych yn ennill cyflog o £29,570.
Mae hyn yn rhoi cyfanswm o £32,570 o incwm i chi.
Mae gennych Lwfans Personol o £12,570. Tynnwch y ffigur hwn oddi wrth gyfanswm eich incwm i adael yr incwm trethadwy, sef £20,000.
Dyma’r band treth ar y gyfradd sylfaenol, felly byddech yn talu:
- treth o 20% ar gyflog o £17,000
- dim treth ar £500 o ddifidendau, oherwydd y lwfans o ran difidendau
- treth o 10.75% ar £2,500 o ddifidendau
Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF
Os oes gennych daliadau difidend sydd dros eich Lwfans Personol a’ch lwfans o ran difidendau sydd heb ei ddefnyddio, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am y rhain.
2. Sut i roi gwybod am dreth ar ddifidendau
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) bob blwyddyn yr ydych yn cael difidendau y mae angen i chi dalu treth arnynt.
Mae’r ffordd y byddwch yn rhoi gwybod i CThEF am ddifidendau’n dibynnu ar faint y byddwch yn ei gael.
Rhoi gwybod am dreth ar incwm o ddifidendau hyd at £10,000
Os byddwch yn anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, bydd yn rhaid i chi adrodd unrhyw incwm o ddifidendau ar eich Ffurflen Dreth. Mae’n rhaid i chi wneud hyn erbyn y dyddiad cau.
Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) a chyn 5 Hydref. Gallwch wneud hyn drwy naill ai:
-
gofyn i CThEF am ddiweddaru’ch cod treth - byddwn yn cymryd y dreth o’ch cyflog neu’ch pensiwn
Nid oes angen i chi roi gwybod i CThEF os yw’ch difidendau o fewn y lwfans o ran difidendau ar gyfer y flwyddyn dreth.
Rhoi gwybod am dreth ar incwm o ddifidendau sydd dros £10,000
Bydd yn rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Os nad ydych fel arfer yn cyflwyno Ffurflen Dreth, mae’n rhaid i chi hysbysu CThEF am yr angen i chi lenwi un erbyn 5 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) pan gawsoch yr incwm.
Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad. Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.