Skip to main content

Talu TWE y cyflogwr

Printable version

1. Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil TWE (yn agor tudalen Saesneg) i Gyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn:

  • yr 22ain o’r mis treth nesaf os ydych yn talu bob mis 

  • yr 22ain ar ôl diwedd y chwarter os ydych yn talu bob chwarter – er enghraifft, 22 Gorffennaf ar gyfer chwarter 6 Ebrill i 5 Gorffennaf

Os byddwch yn talu â siec drwy’r post, bydd yn rhaid iddi gyrraedd CThEF erbyn yr 19eg o’r mis.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau os ywʼch taliad yn hwyr.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Sut i dalu

Gallwch wneud y canlynol:

Yr hyn rydych yn ei dalu

Gall eich bil TWE gynnwys y canlynol:

Llyfrynnau talu

Nid yw CThEF bellach yn anfon llyfrynnau talu wedi’u printio.

Gallwch barhau i dalu treth sy’n ddyledus o flwyddyn dreth 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024 yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu gan ddefnyddio llyfryn talu, os oes gennych un eisoes. I dalu treth ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, mae’n rhaid i chi ddewis dull arall o dalu.

2. Talu drwy Debyd Uniongyrchol

Gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i dalu’ch bil yn awtomatig.

Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig, yn seiliedig ar y swm yn eich Ffurflen Dreth (a elwir hefyd yn Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) (yn agor tudalen Saesneg)). Dim ond unwaith y bydd angen i chi sefydlu’r Debyd Uniongyrchol.

Ewch ati i’w drefnu o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dyledus ar gyfer eich taliad.

Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i sefydlu o hyd.

Sefydlwch Ddebyd Uniongyrchol

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, fel cyfeirnod talu. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:

  • yn eich cyfrif ar-lein CThEF os ydych wedi cofrestru ar gyfer TWE ar-lein

  • ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato) 

Bydd angen i chi ychwanegu rhifau at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, bob tro y byddwch yn gwneud y canlynol:

  • taliad cynnar (cyn y 6ed o’r mis treth neu’r chwarter mae’r taliad yn ddyledus) 
  • taliad hwyr (ar neu ar ôl y 5ed o’r mis treth ar ôl i’r taliad fod yn ddyledus)

Peidiwch â rhoi unrhyw fylchau rhwng digidau’r cyfeirnod wrth dalu’ch bil.

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Pryd y bydd y taliad yn cael ei gymryd

Fel arfer bydd CThEF yn casglu’r taliad ar y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • yn fuan ar ôl yr 22ain o’r mis 
  • 4 diwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno’r Ffurflen Dreth (os byddwch yn ei chyflwyno ar ôl y 19eg o’r mis)

Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi beth yw’r dyddiad a’r swm 3 diwrnod gwaith cyn i’r taliad gael ei gasglu, fan bellaf. Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC SDDS’.

Os ydych yn talu’n chwarterol, dylech barhau i gyflwyno datganiad misol. Bydd CThEF yn casglu cyfanswm y taliad bob 3 mis.

Pan na allwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Mae’n rhaid i chi dalu mewn dull gwahanol os yw un o’r canlynol yn wir:

  • rydych yn gwneud taliadau o £20 miliwn neu fwy
  • rydych yn defnyddio cyfrif banc tramor i dalu’ch bil TWE
  • rydych wedi’ch eithrio rhag talu’ch datganiadau TWE ar-lein
  • rydych yn ymarferwr ansolfedd
  • rydych yn gontractwr Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) nad yw wedi’i gofrestru ar gyfer TWE ar-lein

Ni allwch sefydlu Debyd Uniongyrchol i gymryd taliadau’n awtomatig am gosb TWE neu Gytundebau setliad TWE.

3. Talu gan ddefnyddio dull talu arall

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, fel cyfeirnod talu, heb fylchau. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeiriad hwn:

  • yn eich cyfrif ar-lein CThEF os ydych wedi cofrestru ar gyfer TWE ar-lein
  • ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato) 

Talu’ch bil TWE ar-lein

Gallwch dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc gan ddefnyddio’ch manylion bancio ar-lein
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein neu’ch cerdyn wrth law cyn i chi ddechrau.

Talu nawr

Os ydych yn cymeradwyo’r taliad drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.

Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr bod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, cysylltwch â’ch banc.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Os ydych yn talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau), nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

Os na allwch dalu eich bil TWE y cyflogwr yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull talu arall megis trosglwyddiad o’r banc.

Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:

  • drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
  • gan ffonio’ch banc

Bydd angen i chi ychwanegu 4 rhif ychwanegol at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, os ydych yn gwneud taliad cynnar neu hwyr.

Talu o gyfrif banc yn y DU

Mae’n rhaid i chi dalu i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001039
  • enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld

Talu o gyfrif banc tramor

Gallwch wneud trosglwyddiad o’ch cyfrif banc tramor trwy CHAPS.

Mae’n rhaid i chi dalu i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB62 BARC 2011 4770 2976 90
  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld

Dylai taliadau tramor fod mewn sterling, ac mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Faint o amser mae’n ei gymryd

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Fel arfer, mae Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu yn unol ag amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Sawl cynllun TWE

Anfonwch ffurflen ymholiadau CHAPS ar-lein (yn agor tudalen Saesneg) os hoffech wneud taliad unigol drwy CHAPS ar gyfer mwy nag un cynllun TWE.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec drwy’r post i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) os oes gennych lai na 250 o gyflogeion.

CThEF
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Bydd angen i chi ysgrifennu eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, ar gefn y siec.

Bydd angen i chi hefyd 4 rhif ychwanegol at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, os ydych yn gwneud taliad cynnar neu hwyr.

Slip talu

Gallwch argraffu slip talu (yn agor tudalen Saesneg) a chynnwys hyn gyda’ch siec.

Dim ond er mwyn talu drwy’r post y gallwch ddefnyddio slip talu. Ni allwch ddefnyddio hwn mewn banc.

Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gofyn i CThEF am dderbynneb.

4. Cyfeirnodau ar gyfer taliadau cynnar a hwyr

Bydd angen i chi ychwanegu 4 rhif at eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, os ydych yn gwneud taliad cynnar neu hwyr:

  • drwy Ddebyd Uniongyrchol

  • drwy drosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

  • â siec drwy’r post

Mae angen i chi ddiweddaru’r cyfeirnod bob tro y byddwch yn gwneud taliad cynnar neu hwyr.

Os ydych yn talu drwy’r gwasanaeth ar-lein, bydd yn cyfrifo’r rhifau i chi.

Sut i gyfrifo’r rhifau ychwanegol

Mae pob mis a chwarter o’r flwyddyn dreth yn cael rhif. Mae’r 4 rhif rydych yn eu hychwanegu at eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon sy’n 13 o gymeriadau yn dibynnu a ydych yn talu:

  • bob mis
  • bob chwarter
  • bob blwyddyn

Mae’r tabl hwn yn dangos y rhifau y mae angen i chi eu defnyddio ar gyfer pob mis o’r flwyddyn dreth.

Mis o’r flwyddyn dreth Cyfeirnod
6 Ebrill i 5 Mai 01
6 Mai i 5 Mehefin 02
6 Mehefin i 5 Gorffennaf 03
6 Gorffennaf i 5 Awst 04
6 Awst i 5 Medi 05
6 Medi i 5 Hydref 06
6 Hydref i 5 Tachwedd 07
6 Tachwedd i 5 Rhagfyr 08
6 Rhagfyr i 5 Ionawr 09
6 Ionawr i 5 Chwefror 10
6 Chwefror i 5 Mawrth 11
6 Mawrth i 5 Ebrill 12

Mae’r tabl hwn yn dangos y rhifau y mae angen i chi eu defnyddio ar gyfer pob chwarter o’r flwyddyn dreth.

Chwarter o’r flwyddyn dreth Cyfeirnod
6 Ebrill i 5 Gorffennaf 03
6 Gorffennaf i 5 Hydref 06
6 Hydref i 5 Ionawr 09
6 Ionawr i 5 Ebrill 12

Os ydych yn talu’n fisol

Y 4 rhif y bydd angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, yw:

  • 2 rif olaf y flwyddyn dreth y mae’ch taliad ar ei chyfer

  • rhif y mis yn ystod y flwyddyn dreth y mae’ch taliad ar ei gyfer

Enghraifft

Os ydych yn gwneud taliad ar gyfer y mis o 6 Mai i 05 Mehefin 2024, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon yw 2502. Caiff hyn ei bennu fel a ganlyn:

  • mae’r flwyddyn dreth rydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2025 = 25
  • y mis rydych yn gwneud taliad ar ei gyfer (6 Mai i 05 Mehefin 2024) yw’r ail fis ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025 = 02

Os ydych yn talu’n chwarterol

Y 4 rhif y bydd angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, yw:

  • 2 rif olaf y flwyddyn dreth y mae’ch taliad ar ei chyfer
  • rhif y mis yn ystod y flwyddyn dreth pan fo’r chwarter yn dod i ben

Enghraifft

Os bydd angen i chi wneud taliad ar gyfer y chwarter sy’n cwmpasu 6 Ebrill i 5 Gorffennaf 2024, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon yw 2503. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:

  • mae’r flwyddyn dreth rydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2025 = 25 
  • mae’r chwarter rydych yn talu ar ei gyfer (6 Ebrill i 5 Gorffennaf 2024) yn dod i ben yn ystod trydydd mis y flwyddyn dreth = 03

Os byddwch yn talu’n flynyddol

Y 4 rhif y bydd angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, yw:

  • 2 rif olaf y flwyddyn dreth y mae’ch taliad ar ei chyfer
  • mis y flwyddyn dreth pan daloch eich cyflogeion

Enghraifft

Os gwnaethoch dalu’ch cyflogeion ar 8 Hydref 2023, y 4 rhif y bydd angen i chi eu hychwanegu yw 2407. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:

  • mae’r flwyddyn dreth rydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2024 = 24
  • y mis y gwnaethoch dalu’ch cyflogeion (6 Hydref i 5 Tachwedd) yw seithfed mis y flwyddyn dreth = 07

5. Gwirio bod eich taliad wedi dod i law

Gwiriwch eich cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) – dylai ddiweddaru cyn pen 6 diwrnod gwaith ar ôl gwneud taliad.

Os ydych yn talu drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr gyda’ch taliad er mwyn gwneud cais am dderbynneb gan CThEF.

6. Rhoi gwybod i CThEF nad oes taliad yn ddyledus

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os nad ydych wedi talu unrhyw gyflogeion am o leiaf un mis treth.

Gallwch roi gwybod i CThEF drwy lenwi Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n rhaid i chi ei anfon erbyn 19eg o’r mis sy’n dilyn y mis treth pan nad oedd unrhyw gyflogeion wedi’u talu.

Os na fyddwch yn anfon EPS, bydd CThEF yn anfon hysbysiad atoch yn amcangyfrif faint sydd arnoch. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.

Rhoi gwybod i CThEF ymlaen llaw

Gallwch roi gwybod i CThEF na fyddwch yn talu unrhyw gyflogeion am rhwng mis a 12 mis trwy lenwi EPS.

Dysgwch sut i anfon EPS, os na wnaethoch dalu unrhyw gyflogeion mewn cyfnod yn yr arweiniad gwybodaeth cyflogres.

Mae angen i gontractwyr yng Nghynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS), nad oes ganddynt unrhyw daliadau i’w gwneud, roi gwybod i CThEF drwy ddatganiad CIS (yn agor tudalen Saesneg) a thrwy EPS. Dim ond datganiad CIS y mae angen i gontractwyr CIS gyda thaliadau i’w gwneud ei gyflwyno.