Skip to main content

Ad-daliadau TAW

Printable version

1. Trosolwg

Os ydych wedi codi llai o TAW ar eich cwsmeriaid nag yr ydych wedi’i thalu ar eich pryniannau, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) fel arfer yn ad-dalu’r gwahaniaeth i chi.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Pan fyddwch yn llenwi’r bylchau ar eich Ffurflen TAW, bydd yr wybodaeth a nodwyd gennych yn dangos y canlynol:

  • cyfanswm y TAW a godwyd – Blwch 3
  • cyfanswm y TAW a dalwyd – Blwch 4

Os yw’r ffigur ym Mlwch 3 yn llai na’r ffigur ym Mlwch 4, mae ad-daliad yn ddyledus i chi. Mae hyn yn golygu eich bod wedi codi llai o TAW ar eich cwsmeriaid nag yr ydych wedi’i thalu.

Dangosir y swm a fydd yn cael ei ad-dalu i chi ym Mlwch 5 ar eich Ffurflen TAW.

Mae ad-daliadau TAW (VAT repayments) yn wahanol i gael TAW yn ôl (VAT refunds) yn sgil camgymeriad. Os ydych wedi talu TAW drwy gamgymeriad, darllenwch yr arweiniad am gywiro gwallau yn eich Ffurflen TAW i hawlio arian yn ôl (yn agor tudalen Saesneg).

Sut i gael ad-daliad TWE

Pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW, bydd CThEF yn prosesu’ch ad-daliad yn awtomatig.

Bydd eich ad-daliad yn mynd yn syth i’ch cyfrif banc os gwnaethoch roi eich manylion banc i CThEF ar gyfer yr ad-daliad. Fel arall, bydd CThEF yn anfon siec atoch (a elwir hefyd yn ‘archeb talu’).

Gallwch wneud y canlynol:

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, caiff ad-daliadau eu gwneud cyn pen 30 diwrnod ar ôl i CThEF gael eich Ffurflen TAW.

Os bydd CThEF yn hwyr yn gwneud eich ad-daliad, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i log ar ad-daliadau ar unrhyw TAW sy’n ddyledus i chi.

Olrhain ad-daliad TAW

Gallwch olrhain ad-daliad TAW ar-lein.

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad ydych wedi clywed oddi wrthym cyn pen 30 diwrnod ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW.

2. Ad-daliadau i gyfrif banc tramor

Gallwch ond cael ad-daliadau TAW i gyfrif banc tramor os nad oes gan eich cwmni y canlynol:

  • cyfrif banc yn y DU (ac ni allwch gael un)
  • cyfeiriad yn y DU

Er mwyn i CThEF wneud taliad i’ch cyfrif banc tramor, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:

  • mae’r cyfrif yn enw’r cwmni y mae’r ad-daliad yn ddyledus iddo
  • mae’ch cyfrif yn gysylltiedig â pherchennog busnes sydd wedi’i enwi neu berson awdurdodedig sydd â manylion ar gyfer gwasanaethau CThEF
  • mae’r cyfrif yn gallu derbyn ad-daliad mewn punnoedd sterling

Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen i roi manylion eich banc tramor cyn y gall CThEF drosglwyddo unrhyw ad-daliadau TAW. Yna, bydd pob ad-daliad TAW yn cael ei anfon i’r cyfrif banc hwn.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen hon i ddiweddaru’ch manylion banc ac i drosglwyddo unrhyw sieciau, sydd heb eu cyflwyno, fel taliadau electronig i’w talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc.

Bydd angen i chi mewngofnodi i gyflwyno’ch gwybodaeth. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

3. Os oes angen siec newydd arnoch, neu os hoffech gael eich talu drwy ddull arall

Gallwch ysgrifennu at Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a gofyn iddynt wneud y canlynol:

  • anfon siec newydd atoch os yw’ch un chi ar goll neu’n rhy hen i fod yn ddilys
  • anfon yr ad-daliad i’r cyfrif banc sydd wedi’i gadw ar eich cyfrif treth busnes
  • anfon yr ad-daliad i rywle arall gan nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW bellach
  • defnyddio’r ad-daliad i dalu treth arall

Mae’n rhaid i chi gynnwys eich:

  • enw
  • cyfeirnod TAW
  • cyfeiriad
  • rhif cyswllt

Mae’n rhaid i chi hefyd ddychwelyd unrhyw sieciau sydd heb eu defnyddio neu sydd yn rhy hen.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Cyllid a Thollau EF
BX9 1XD