Gwneud cais am ostyngiad yn y ffi ar gyfer eich atwrneiaeth
Gwneud cais i dalu llai i gofrestru atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Gallwch wneud cais i dalu llai i gofrestru atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus.
Defnyddiwch y ffurflen hon os byddwch chi angen help gyda’r canlynol:
- £92 - ffi gwneud cais i gofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA) neu atwrneiaeth barhaus (EPA).
- £46 - ffi i wneud cais arall i gofrestru atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus
Os yw’r sawl a wnaeth yr atwrneiaeth arhosol neu’r atwrneiaeth barhaus (y ‘rhoddwr’) yn cael rhai budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd pan fyddwch yn gwneud cais i’w chofrestru, ni fydd yn rhaid i chi dalu dim - ‘esemptiad’ yw’r enw ar hyn.
Mae’r budd-daliadau’n cael eu rhestru ar y ffurflen uchod.
Os yw incwm y rhoddwr cyn treth yn llai na £12,000 y flwyddyn, dim ond hanner y bydd yn rhaid i chi ei dalu – gelwir hyn yn ‘ostyngiad o 50%’.
A fyddech cystal â nodi y bydd y rhoddwr yn cael ei asesu am ostyngiad yn ei ffïoedd os yw’n derbyn Credyd Cynhwysol. Nid oes modd iddo gael ei asesu am gael ei eithrio rhag eu talu.
Rhaid talu pan fyddir yn gwneud cais am eich atwrneiaeth arhosol. Nid yw’n bosibl gwneud ad-daliadau ôl-weithredol.
Ni fyddir yn ad-dalu ffïoedd.
Fformatau amgen
I gael dogfen mewn print bras, anfonwch e-bost i: customerservices@publicguardian.gov.uk. Cofiwch roi eich cyfeiriad.
Gwybodaeth bersonol
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn ymroddedig i drin eich data personol mewn ffordd gyfrifol a’i gadw’n ddiogel.
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac mae’n cael ei ddiogelu yn y gyfraith gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).
Gwybodaeth am sut mae OPG yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol
Updates to this page
-
Information on payment of fees has been updated.
-
The form has updated Hardship guidance.
-
The LPA120 form has been updated, with new guidance on remissions and exemptions.
-
The fee to apply for a power of attorney has increased from £82 to £92.
-
Notice of changes to fees.
-
Changed the titles of the page and documents within to make it clearer on what they relate to. English and Welsh updated.
-
Removed reference to braille and audio versions of this form - we don't have them. Added 'personal information' text to Welsh language version
-
Change to debit and credit card payments
-
Added 'Personal information' section.
-
Added translation
-
Changed fee levels on documents
-
Updated text to explain in more detail how exemptions and remissions apply.
-
Replaced LPA120 form to reflect new power of attorney application fees from 1 October 2013
-
Details of application fees added to page description, including information about fee changes on 1 October 2013.
-
First published.