Skip to main content

Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)

Printable version

1. Sut mae’n gweithio

Gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA) i’ch helpu pan fyddwch chi’n chwilio am waith.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallech gael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd neu’n lle JSA Dull Newydd. Gwiriwch a ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol.

Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm

Ni allwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm mwyach. Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

Beth sydd angen i chi ei wneud

  1. Gwiriwch os ydych yn gymwys.

  2. Gwnewch gais am JSA Dull Newydd ac ewch i gyfweliad yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol.

  3. Cadwch at eich cytundeb i chwilio am waith. Gelwir y cytundeb hwn yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’ a byddwch yn ei greu yn eich apwyntiad.

Bydd eich taliadau JSA yn cael eu lleihau neu eu stopio os nad ydych yn cadw i’ch cytundeb i chwilio am waith ac yn methu rhoi rheswm da.

Beth fyddwch yn ei gael

Mae uchafswm y gallech ei gael – ond mae faint a gewch yn ddibynnol ar bethau fel eich oedran.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i wirio faint o JSA y gallwch ei gael, a sut caiff eich budd-daliadau eraill eu heffeithio.

Oedran Swm Wythnosol JSA
Hyd at 24 oed hyd at £75.65
25 oed neu drosodd hyd at £95.55

Gallwch gael JSA am hyd at 182 diwrnod (tua 6 mis). Ar ôl hyn gallwch siarad â’ch anogwr gwaith am eich opsiynau.

Sut y cewch eich talu

Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans fel arfer yn cael eu talu i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Eich taliad cyntaf

Efallai bydd angen i chi aros hyd at 7 diwrnod ar ôl gwneud cais i’ch JSA ddechrau, a hyd at 2 wythnos ar ôl hynny i dderbyn eich taliad cyntaf.

Efallai na fydd eich taliad y swm llawn.

Ar ôl eich taliad cyntaf

Fel arfer bydd y taliadau’n cael eu gwneud bob 2 wythnos ac mi fyddant y swm llawn.

2. Cymhwyster

I fod yn gymwys am JSA Dull Newydd bydd angen i chi fod wedi:

  • gweithio fel cyflogai
  • talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 blynedd diwethaf.

Ni fyddwch yn gymwys os oeddech yn hunangyflogedig a dim ond wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, oni bai roeddech yn gweithio fel pysgotwr ar y cyd neu weithiwr datblygu gwirfoddol.

Mae yna reolau cymhwysedd gwahanol os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon.

Rhaid i chi hefyd:

  • fod yn 18 oed neu’n hŷn
  • bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • bod ym Mhrydain Fawr
  • peidio â bod yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos

Ni fyddwch yn gymwys os ydych chi’n rhan o anghydfod gyda’ch cyflogwr ynghylch materion sy’n gysylltiedig â chyflogaeth (‘anghydfod masnachu’).

Ni fyddwch yn gymwys os oes gennych salwch neu anabledd sy’n eich atal rhag gweithio. Gwiriwch a allwch chi gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle.

Ni fydd eich cynilion a chynilion eich partner yn effeithio ar eich cais.

Eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol

I fod yn gymwys, rhaid i chi fel arfer fod wedi gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y 2 flynedd dreth flaenorol. Gall credydau Yswiriant Gwladol gyfrif am un o’r blynyddoedd hyn os na wnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Enghraifft

Os byddwch yn gwneud cais am JSA ar neu cyn 3 Ionawr 2026, rhaid i chi fod wedi talu neu wedi cael eich credydu ag Yswiriant Gwladol yn y blynyddoedd treth:

  • 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024
  • 6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023

Os ydych chi’n gwneud cais am JSA ar neu ar ôl 4 Ionawr 2026, mae’n rhaid eich bod wedi talu neu wedi cael eich credydu ag Yswiriant Gwladol yn y blynyddoedd treth:

  • 6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025
  • 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024

Efallai y byddwch yn gymwys yn seiliedig ar gyfraniadau o wahanol flynyddoedd treth os, yn ystod y ddwy flynedd dreth flaenorol, rydych wedi:

  • hawlio JSA, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Lwfans Gofalwr, Lwfans Mamolaeth neu Daliad Cymorth i Ofalwyr
  • byw dramor gyda’ch partner sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog

Os ydych chi’n gweithio

Fel arfer, ni allwch chi gael JSA Dull Newydd os ydych chi’n gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos.

Gall eich enillion leihau faint o JSA Dull Newydd a gewch.

Gwiriwch beth sydd angen i chi ei ddweud wrth eich anogwr gwaith os ydych chi neu’ch partner yn gwneud unrhyw waith tra byddwch chi’n cael JSA Dull Newydd.

Os ydych chi mewn addysg

Os ydych chi’n astudio’n rhan-amser efallai y byddwch chi’n gymwys i gael JSA.

Os ydych chi’n astudio’n llawn amser, efallai y byddwch chi’n gymwys os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • mae’r cymhwyster rydych chi’n astudio ar ei gyfer ar Lefel 4 neu’n is
  • nid ydych chi’n cael benthyciad cynhaliaeth, grant na bwrsariaeth ar gyfer y cymhwyster rydych chi’n ei astudio
  • gallwch chi fodloni’r gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith y cytunwyd arnynt gyda’ch anogwr gwaith

Hawlio Credyd Cynhwysol a JSA Dull Newydd

Efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd neu yn lle JSA Dull Newydd.

Os ydych yn cael y ddau fudd-dal, bydd eich taliadau JSA Dull Newydd yn:

  • cyfrif fel incwm wrth hawlio Credyd Cynhwysol
  • lleihau swm y Credyd Cynhwysol a gewch

Bydd eich JSA Dull Newydd fel arfer yn cael ei dalu’n fwy rheolaidd na Chredyd Cynhwysol. Byddwch hefyd yn cael credydau Yswiriant Gwladol gwahanol sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth ac yn eich helpu i fod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill.

Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol

3. Gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd

Cyn i chi wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd, gwiriwch a ydych yn gymwys.

I wneud cais, byddwch angen eich:

  • rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (neu rhai aelod o’r teulu neu ffrind rydych yn ymddiried ynddynt)
  • manylion cyflogaeth am y 6 mis diwethaf, yn cynnwys manylion cyswllt cyflogwr a dyddiad rydych wedi gweithio â hwy

Bydd hefyd angen i chi ddarparu llythyr datganiad os ydych yn cael arian o’ch:

I ailhawlio mae angen i chi wneud cais eto, hyd yn oed os nad yw eich manylion wedi newid.

Gallwch ôl-ddyddio eich cais hyd at 3 mis mewn rhai amgylchiadau.

Gwneud cais ar-lein

Ni allwch wneud cais ar-lein os ydych yn gwneud cais fel penodai ar ran rhywun arall.

Gwneud cais am JSA Dull Newydd

Os na allwch wneud cais ar-lein neu os oes angen fformatiau arall arnoch

Gallwch wneud cais mewn ffordd arall os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gwneud cais fel penodai ar ran rhywun arall
  • mae angen help arnoch i wneud cais
  • mae angen i gyfathrebiadau gael eu hanfon atoch mewn fformat arall, fel braille, print bras neu CD sain

Mae angen i chi naill ai:

Ar ôl i chi wneud eich cais

Os gwnaethoch roi’ch rhif ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost yn eich cais ar-lein, byddwch yn cael neges destun neu e-bost i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei anfon.

Yna bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi o fewn 14 diwrnod o wneud cais. Byddwch un ai

Nid oes angen i chi gysylltu â DWP oni bai ei fod mwy na 14 diwrnod ers i chi wneud cais a heb glywed unrhyw beth.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.

Gwneud cwyn

Gallwch gwyno am y Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn anhapus gyda’r gwasanaeth rydych wedi’i gael.

4. Eich cyfweliad JSA

Os ydych yn cael eich gwahodd i gyfweliad, rhaid i chi fynychu. Bydd yn cael ei gynnal yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol.

Gofynnir rhai cwestiynau i chi i gadarnhau eich hunaniaeth ac yna byddwch yn dod i gytundeb ynghylch pa gamau y byddwch yn eu cymryd i chwilio am waith.

Dogfennau sydd angen arnoch yn y cyfweliad

Bydd angen i chi ddod â’r canlynol i gyd:

  • un darn o dystiolaeth hunaniaeth ffotograffig
  • un darn o dystiolaeth o’ch cyfeiriad
  • un darn o dystiolaeth bellach o’ch hunaniaeth

Os oes gennych P45 o’ch cyflogwr, dewch â hwn gyda chi i’r cyfweliad. Pan fyddwch yn ei gyflwyno, dywedwch wrth eich anogwr gwaith os ydych eisoes wedi derbyn neu hawlio ad-daliad treth gan CThEF ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol.

Gallwch hefyd ddefnyddio eich P45 fel eich prawf pellach o hunaniaeth.

Tystiolaeth hunaniaeth ffotograffig

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • pasbort dilys
  • trwydded gyrru
  • eVisa
  • tystysgrif brodori fel dinesydd Prydeinig
  • trwydded preswylio parhaol

Tystiolaeth o’ch cyfeiriad

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • slip cyflog neu ddatganiad pensiwn wedi’i dyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • bil cyfleustodau wedi’i dyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • bil Treth Cyngor wedi’i dyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • dogfennau benthyciad myfyriwr

Tystiolaeth pellach o’ch hunaniaeth

Mae enghreifftiau’n cynnwys eich:

  • P60
  • llyfr cyfrif cynilo
  • llyfr siec personol
  • cerdyn debyd, credyd neu siop gyda datganiad yn cadarnhau manylion y cerdyn

Gall biliau cyfleustodau cael eu defnyddio am dystiolaeth o’ch cyfeiriad a thystiolaeth bellach o’ch hunaniaeth os ydyn nhw o ddarparwyr gwahanol.

Darllenwch restr lawn y dogfennau gallwch ddod i’r cyfweliad

Cymorth yn eich cyfweliad

Gallwch gymryd rhywun gyda chi i’ch cyfweliad JSA.

Cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith cyn y cyfweliad os oes angen:

  • cymorth arnoch oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd (er enghraifft, rydych yn fyddar ac angen dehonglwyr iaith arwyddion).
  • cyfieithydd ar y pryd iaith tramor ac nad oes gennych rywun a all eich helpu gyda chyfieithu.

Derbyn cytundeb i chwilio am waith (‘Ymrwymiad Hawlydd’)

Yn eich cyfweliad JSA, mae’n rhaid i chi dderbyn cytundeb am ba gamau byddwch yn cymryd i chwilio am waith. Gelwir hwn yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’.

Byddwch chi a’ch anogwr gwaith yn cytuno ar beth sydd yn mynd yn eich Ymrwymiad Hawlydd. Gall hwn cynnwys:

  • beth mae’n rhaid i chi ei wneud i chwilio am waith – er enghraifft cofrestru gydag asiantaethau recriwtio, ysgrifennu CV
  • faint o oriau mae’n rhaid i chi wario yn chwilio am swydd bob wythnos

Mae beth fyddwch yn cytuno i wneud yn dibynnu ar bethau fel:

  • eich iechyd
  • eich cyfrifoldebau cartref
  • faint o help sydd angen arnoch i weithio neu gynyddu’ch incwm

Efallai y caiff eich JSA ei leihau neu ei stopio os nad ydych yn gwneud beth rydych wedi cytuno i’w wneud yn eich Ymrwymiad Hawlydd a methu rhoi rheswm da

Ar ôl eich cyfweliad JSA

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ysgrifennu atoch i un ai:

  • rhoi gwybod i chi eich bod yn gymwys am JSA a faint byddwch yn ei gael
  • esbonio pam nad ydych yn gymwys am JSA

Ni fydd rhaid i chi wneud yr hyn y cytunwyd arno yn eich Ymrwymiad Hawlydd os nad ydych yn gymwys am JSA.

5. Eich cais JSA

Pan fyddwch yn gwneud cais am JSA, bydd eich anogwr gwaith yn gwneud cytundeb gyda chi i chwilio am waith. Gelwir y cytundeb hwn yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’.

Gallai eich Ymrwymiad Hawlydd gynnwys:

  • beth sydd angen i chi ei wneud i chwilio am waith - er enghraifft cofrestru gydag asiantaethau recriwtio neu ysgrifennu CV
  • sawl awr yr wythnos mae angen i chi dreulio yn chwilio am waith bob wythnos

Dylech barhau i wneud popeth rydych wedi’i gytuno i’w gwneud os allwch eu gwneud yn ddiogel.

Gallwch chwilio am a gwneud cais am waith trwy ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Dod o hyd i swydd’.

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os yw eich amgylchiadau yn newid, er enghraifft rydych yn dechrau gweithio neu mae eich incwm yn newid.

Mynychu apwyntiadau rheolaidd

Bydd eich anogwr gwaith yn trefnu apwyntiadau gyda chi bob 1 i 2 wythnos.

Yn yr apwyntiadau hyn, rhaid i chi ddangos i’ch anogwr gwaith beth rydych wedi bod yn ei wneud i chwilio am waith, er enghraifft prawf o geisiadau am swyddi a chyfweliadau.

Os ydych wedi dioddef cam-drin domestig efallai y gallwch gael seibiant o hyd at 13 wythnos o chwilio am swydd - siaradwch â’ch anogwr gwaith os ydych angen y gefnogaeth hon.

Pryd gall eich taliad gael ei leihau neu stopio

Gall eich taliadau JSA gael eu lleihau neu eu stopio am gyfnod os nad ydych yn gwneud rhywbeth mae eich anogwr gwaith yn gofyn i chi ei wneud. Gelwir hyn yn cael ‘sancsiwn’. Er enghraifft, os:

  • nad ydych yn cymryd rhan mewn apwyntiad gyda’ch anogwr gwaith
  • nad ydych yn derbyn neu’n cadw i’ch cytundeb i chwilio am waith
  • rydych yn gwrthod swydd neu gwrs hyfforddiant
  • nad ydych yn gwneud cais am swyddi y dywedir wrthych amdanynt
  • nad ydych yn cymryd rhan mewn unrhyw gyfweliadau y cewch wahoddiad iddynt
  • nad ydych yn mynd i unrhyw hyfforddiant sydd wedi’i drefnu i chi neu gymryd rhan mewn cynlluniau cyflogaeth

Efallai y cewch sancsiwn hefyd os:

  • nad ydych ar gael i ddechrau gweithio ar unwaith
  • rydych yn dewis cymryd toriad cyflog yn eich swydd bresennol heb reswm da
  • rydych yn cael eich cyflog wedi’i dorri yn eich swydd bresennol oherwydd rhywbeth a wnaethoch, fel eich ymddygiad
  • rydych yn gadael eich swydd ddiwethaf neu hyfforddiant heb reswm da neu oherwydd eich ymddygiad

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith cyn gynted â phosibl os oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol i chi. Efallai y gallwch gadw eich taliad os oes gennych reswm da.

Dywedir wrthych am ba hyd y bydd eich taliad yn cael ei leihau neu ei stopio. Gallai fod am hyd at 26 wythnos (tua 6 mis).

Os ydych eisiau gwybod am faint o amser gall eich taliad JSA gael ei leihau neu ei stopio, darllenwch rhan 3 neu ran 4 o’r canllaw ar sancsiynau JSA.

Os yw eich taliad JSA yn cael ei leihau neu ei stopio

Os bydd eich taliad yn cael ei leihau neu ei stopio, dylech chwilio am waith o hyd. Gellid atal eich taliad budd-dal yn hirach os na wnewch hynny.

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad i stopio talu, gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei edrych arno eto – gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’.

Os ydych yn anghytuno gyda chanlyniad yr ailystyriaeth orfodol, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynhaliaeth Plant.

Dylech barhau gyda unrhyw gais JSA nes bydd yr anghydfod wedi’i ddatrys.

Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor

Dylech gysylltu â’ch cyngor lleol ar unwaith. Byddant yn dweud wrthych beth i’w wneud i barhau i gael cymorth.

6. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os bydd eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft, rydych yn dechrau gweithio neu os yw’ch incwm yn newid. Gallai hyn effeithio ar faint o Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) rydych yn ei gael.

Os ydych yn cael mwy nag un budd-dal, bydd angen i chi roi gwybod am eich newid i bob swyddfa budd-daliadau.

Nid yw’r dudalen hon yn ymdrin â phob newid y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdano. Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi roi gwybod am newid.

Efallai y bydd eich cais yn cael ei leihau neu ei stopio os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith.

Os ydych yn cael JSA Dull Newydd, rhaid i chi roi gwybod os ydych yn:

  • newid eich enw, cyfeiriad, manylion banc neu rif ffôn
  • mynd yn sâl neu fynd i’r ysbyty
  • dechrau neu stopio gofalu am rywun
  • dechrau neu stopio addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth
  • dechrau swydd, gan gynnwys hunangyflogaeth
  • gwneud unrhyw waith cyflogedig, di-dâl neu wirfoddol, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig oriau

  • dechrau cael, stopio cael, neu’n cael swm gwahanol o fudd-daliadau neu bensiynau eraill
  • gadael Prydain Fawr (Lloegr, yr Alban a Chymru) am unrhyw gyfnod o amser
  • mynd ar wyliau, gan gynnwys gwyliau ym Mhrydain Fawr

Sut i roi gwybod

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau trwy:

  • ffonio llinell gymorth JSA
  • ysgrifennu at swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith sy’n talu eich JSA - mae’r cyfeiriad ar y llythyrau a gewch am eich JSA

Os yw eich partner neu rywun rydych yn byw gyda nhw wedi marw, gallwch ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith a sefydliadau eraill y llywodraeth ar yr un pryd gan ddefnyddio gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith

Llinell gymorth Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd
Ffôn: 0800 169 0310
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0310
Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol yn ogystal â Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd, mae’n rhaid i chi roi gwybod am newidiadau i’r ddau wasanaeth.

Os ydych wedi cael eich gordalu

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith neu os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn, efallai y cewch eich gordalu. Os ydych, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o’r arian yn ôl.