Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 3) - Ysgol Gymraeg Bro Allta
| Dyddiad hysbysebu: | 20 Mai 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | £21,394 i £22,453 bob blwyddyn |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 05 Mehefin 2026 |
| Lleoliad: | Ystrad Mynach, Hengoed |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | Caerphilly County Borough Council |
| Math o swydd: | Dros dro |
| Cyfeirnod swydd: | REQ0010928 |
Crynodeb
Oriau gwaith: 32.50
Math o gontract: Rhan Amser, Cyfnod Penodol am 12 mis, Yn Ystod y Tymor yn Unig
Wythnosau Gwaith TTO: 39
Lleoliad: Ysgol Gymraeg Bro Allta
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £21,394 - £22,453 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
I ddechrau mis Medi 2026. Gwahoddir ceisiadau gan gynorthwywyr addysgu cymwys ar gyfer swydd llawn amser dros dro cytundeb Blwyddyn i ddechrau gyda’r posibilrwydd o ymestyn ar ol hynny.
Lleolir Ysgol Gymraeg Bro Allta ym mhentref Ystrad Mynach yn sir Caerffili. Mae’n ysgol hapus, gynhwysol a chymunedol ac ymfalchïwn yn y berthynas agos sydd gennym gyda’n rhieni a’r gymuned leol Rydym yn edrych i apwyntio cynorthwywyr dysgu ar raddfa 5 i ddechrau ym mis Medi 2026.
Fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar yr ysgol. Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus gydweithio’n agos gyda phlant, rhieni a staff yr ysgol er mwyn sicrhau parhad i ethos ardderchog a safonau uchel yr ysgol. Croesawn geisiadau gan unigolion â’r brwdfrydedd a’r angerdd i gyfrannu at wella profiadau disgyblion yr ysgol.
Os hoffech chi wybod mwy am y swydd neu’r Ysgol, mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mrs Meinir Jones. Mae’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi:
Cymhwyster Lefel 3 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Er enghraifft NVQ3 i Gynorthwywyr Addysgu neu brofiad.
Hyfforddiant yn y strategaethau perthnasol e.e. llythrennedd a/neu yn y cwricwlwm neu faes dysgu penodol e.e. dwyieithog, iaith arwyddion, dyslecsia, TGCh, mathemateg, Saesneg, CACHE ac ati.
Profiad o weithio gyda phlant o oedran perthnasol.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Meinir Jones ar 01443 814883 neu ebost: YsgolGymraegBroAllta@sch.caerphilly.gov.uk
Ffurflenni cais ar gael o wefan ETEACH neu’r ysgol.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd