Menu

Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 3)

Job details
Posting date: 20 May 2026
Salary: Not specified
Additional salary information: Gradd 5 £21,394 (SCP 10) - £22,453 (SCP 13)
Hours: Part time
Closing date: 06 June 2026
Location: Hengoed, Caerphilly, CF82 7XQ
Remote working: On-site only
Company: eTeach UK Limited
Job type: Contract
Job reference: 1554212

Apply for this job

Summary

Rydyn ni'n recriwtio Cynorthwyydd addysgu (Lefel 3) yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 32.50
Math o gontract: Rhan Amser, Cyfnod Penodol am 12 mis, Yn Ystod y Tymor yn Unig
Wythnosau Gwaith TTO: 39
Lleoliad: Ysgol Gymraeg Bro Allta
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £21,394 - £22,453 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
I ddechrau mis Medi 2026. Gwahoddir ceisiadau gan gynorthwywyr addysgu cymwys ar gyfer swydd llawn amser dros dro cytundeb Blwyddyn i ddechrau gyda’r posibilrwydd o ymestyn ar ol hynny.
Lleolir Ysgol Gymraeg Bro Allta ym mhentref Ystrad Mynach yn sir Caerffili. Mae’n ysgol hapus, gynhwysol a chymunedol ac ymfalchïwn yn y berthynas agos sydd gennym gyda’n rhieni a’r gymuned leol Rydym yn edrych i apwyntio cynorthwywyr dysgu ar raddfa 5 i ddechrau ym mis Medi 2026.
Fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar yr ysgol. Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus gydweithio’n agos gyda phlant, rhieni a staff yr ysgol er mwyn sicrhau parhad i ethos ardderchog a safonau uchel yr ysgol. Croesawn geisiadau gan unigolion â’r brwdfrydedd a’r angerdd i gyfrannu at wella profiadau disgyblion yr ysgol.
Os hoffech chi wybod mwy am y swydd neu’r Ysgol, mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mrs Meinir Jones. Mae’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi:
Cymhwyster Lefel 3 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Er enghraifft NVQ3 i Gynorthwywyr Addysgu neu brofiad.
Hyfforddiant yn y strategaethau perthnasol e.e. llythrennedd a/neu yn y cwricwlwm neu faes dysgu penodol e.e. dwyieithog, iaith arwyddion, dyslecsia, TGCh, mathemateg, Saesneg, CACHE ac ati.
Profiad o weithio gyda phlant o oedran perthnasol.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Meinir Jones ar 0 14 43 81 48 83.Ffurflenni cais ar gael o wefan ETEACH neu’r ysgol.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.
Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg drwy ffonio 02 92 0 46 00 99. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.

Apply for this job