Dewislen

SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 3 (Dros Dro)

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 19 Mai 2026
Cyflog: Heb ei nodi
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: £18,173 - £20,357 y flwyddyn
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 10 Mehefin 2026
Lleoliad: Abertawe, Neath Port Talbot, SA8 4JX
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: eTeach UK Limited
Math o swydd: Cytundeb
Cyfeirnod swydd: 1553994

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 3Dros Dro
27.5 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)Cyflog: Gradd 5 (SCP 10-17) - £18,173 - £20,357 y flwyddyn
(Yn amodol ar gyfrifiad cyflog tymor os yw’r dyddiad dechrau ar ôl Medi 1af)Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i’r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.
Mae ysgol Gymraeg Pontardawe yn gymuned hapus a chyfeillgar gydag ethos gofalgar a chefnogol. Rydym yn chwilio am berson gyfrifol gyda’r angerdd i wella a chodi safonau disgyblion tra’n cynnig perthynas ofalgar mewn amgylchedd ysgogol a diogel sy’n annog pob disgybl i gyrraedd ei lawn botensial.
Mae’r swydd yma am 27.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn am flwyddyn yn unig yn y man cyntaf gyda’r posibilrwydd o ymestyn.Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
The above post is for a Teaching Assistant at YGG Pontardawe for which the ability to speak Welsh is essential
Gellir cael gwybodaeth pellach drwy gysylltu â Mr Martin Evans, Pennaeth.

Gwneud cais am y swydd hon