Gwneud cais am batent
Cyn i chi wneud cais
Gwnewch gais am batent dim ond os:
-
rydych chi wedi gwirio nad yw eich dyfais yn bodoli eisoes, er enghraifft trwy chwilio ar-lein am gynhyrchion tebyg i’ch dyfais
-
mae gennych yr amser a’r arian ar gyfer y broses
Ni fydd cael patent yn gwarantu y bydd eich dyfais yn gwneud arian. Ystyriwch a yw patent yn werth y gost i chi a’ch busnes cyn i chi wneud cais.
Cael help a chyngor proffesiynol
Gallwch gael cyngor am ddim ynghylch a yw patent yn iawn i chi gan:
- twrnai patent neu gynghorydd proffesiynol arall - mae llawer yn cynnig cyngor sylfaenol am ddim
- clinig eiddo deallusol (IP)
- Canolfan Busnes ac Eiddo Deallusol y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain
Bydd rhaid i chi dalu twrnai patent os ydych am gael cymorth gyda’r broses ymgeisio. Gall ffioedd fod yn filoedd o bunnoedd ond byddant yn rhoi llawer gwell cyfle i chi gael patent.
Gall twrnai patent:
- eich helpu i baratoi eich cais
- eich arwain drwy’r broses i gael eich patent wedi’i ganiatáu
- ymateb i’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) ar eich rhan
Efallai na fyddwch yn gallu rhoi patent ar eich dyfais os daw’n wybodaeth gyhoeddus. Os byddwch yn trafod eich dyfais ag unrhyw un heblaw twrnai patent, efallai y bydd angen cytundeb peidio â datgelu arnoch.