Codau treth
Printable version
1. Trosolwg
Mae’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn defnyddio’ch cod treth i gyfrifo faint o Dreth Incwm i’w chasglu o’ch cyflog neu’ch pensiwn. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi gwybod iddo pa god i’w ddefnyddio.
Byddwch yn cael cod treth ar gyfer pob cyflogaeth neu bensiwn sydd gennych.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Dod o hyd i’ch cod treth
Gallwch ddod o hyd i’ch cod treth:
- drwy wirio’ch cod treth ar gyfer y flwyddyn bresennol ar-lein – bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein neu greu un
- ar ap CThEF
- ar eich slip cyflog
- ar lythyr ‘Hysbysiad o God Treth’ oddi wrth CThEF, os cewch un
Os byddwch yn gwirio’ch cod treth ar-lein neu ar ap CThEF, gallwch hefyd wneud y canlynol:
- dod o hyd i’ch cod treth ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol
- cofrestru i gael hysbysiadau di-bapur – mae hyn yn golygu y bydd CThEF yn anfon e-bost atoch pan fydd eich cod treth yn newid
2. Pam y gallai’ch cod treth newid
Efallai bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn newid eich cod treth os oes angen i chi dalu swm gwahanol o dreth.
Mae hyn fel arfer yn digwydd pan fo’ch incwm neu amgylchiadau’n newid, er enghraifft, yn sgil un o’r canlynol:
- rydych yn dechrau swydd newydd
- rydych yn cael budd-daliadau trethadwy’r Wladwriaeth
- rydych yn dechrau cael incwm o bensiwn neu swydd ychwanegol
- mae’r llog ar eich cynilion yn fwy na’ch Lwfans Cynilion Personol
- mae swm wythnosol eich Pensiwn y Wladwriaeth yn newid
- mae’ch cyflogwr yn rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi dechrau neu stopio cael buddiannau o’ch swydd (yn agor tudalen Saesneg)
- rydych yn hawlio Lwfans Priodasol
- rydych yn hawlio treuliau rydych yn cael rhyddhad treth arnynt
- rydych yn talu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel drwy’ch cyflog neu bensiwn
- mae angen i chi ad-dalu’r Taliad Tanwydd Gaeaf neu’r Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl Oedran Pensiwn
- rydych wedi bod ar y cod treth anghywir ac mae arnoch dreth
Os byddwch yn dechrau swydd newydd ac nad yw’ch cyflogwr newydd yn gwybod eich manylion incwm blaenorol, efallai y caiff cod treth dros dro ei roi i chi.
Os yw’ch cod treth wedi newid, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio’ch Treth Incwm ar-lein er mwyn dysgu pam.
3. Beth mae’ch cod treth yn ei olygu
Mae’ch cod treth yn cynnwys rhifau a llythrennau.
1257L yw’r cod treth a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sydd ag un gyflogaeth neu bensiwn.
Fel arfer, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cysylltu â chi i esbonio sut y cyfrifwyd eich cod treth unigol, os bydd eich cod treth yn newid.
Gwirio beth mae’ch cod treth yn ei olygu
Nodwch eich cod treth yn yr offeryn gwirio beth mae’ch cod treth yn ei olygu i ddysgu mwy am y canlynol:
- beth mae’r rhifau a llythrennau yn ei olygu
- faint o dreth y byddwch yn ei thalu
- yr hyn y gall fod angen i chi ei wneud nesaf
Beth mae’r rhifau yn ei olygu
Mae’r rhifau yn eich cod treth yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn faint o incwm rhydd o dreth rydych yn ei gael oddi wrtho yn ystod y flwyddyn dreth honno.
I gyfrifo’ch rhif unigol, mae CThEF yn dechrau gyda’ch Lwfans Personol rhydd o dreth ac yn tynnu unrhyw rai o’r canlynol:
- incwm nad ydych wedi talu treth arno (fel llog heb ei drethu neu enillion rhan amser)
- didyniadau eraill yn eich cod treth (fel buddiannau cwmni (yn agor tudalen Saesneg) neu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel)
Yna, bydd yn newid y rhif olaf i lythyren.
Os oes gennych K yn eich cod treth, mae’r cyfrifiad yn wahanol.
Enghraifft
Mae gennych hawl i’r Lwfans Personol rhydd o dreth safonol, sef £12,570, ond rydych hefyd yn cael yswiriant meddygol gan eich cyflogwr. Gan mai buddiant cwmni yw hwn, mae’n gostwng eich Lwfans Personol ac yn newid eich cod treth.
Mae’r buddiant yswiriant meddygol, sef £1,570, yn cael ei ddidynnu oddi wrth eich Lwfans Personol, gan olygu bod gennych swm rhydd o dreth o £11,000. 1100L fyddai’ch cod treth, felly.
Beth mae’r llythrennau yn ei olygu
Mae’r llythrennau yn eich cod treth yn cyfeirio at eich sefyllfa, a sut y mae’n effeithio ar eich Lwfans Personol rhydd o dreth a’r cyfraddau treth rydych yn eu talu.
| Llythrennau | Beth maent yn ei olygu |
|---|---|
| 0T | Defnyddiwyd eich Lwfans Personol i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi |
| BR | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd sylfaenol (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| C | Trethir eich incwm neu’ch pensiwn gan ddefnyddio’r cyfraddau yng Nghymru |
| C0T | Defnyddiwyd eich Lwfans Personol (yng Nghymru) i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi |
| CBR | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd sylfaenol yng Nghymru (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| CD0 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch yng Nghymru (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| CD1 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd ychwanegol yng Nghymru (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| D0 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| D1 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd ychwanegol (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| K | Mae gennych incwm nad ydych yn talu treth arno sy’n fwy na’ch Lwfans Personol - dysgwch fwy am K yn eich cod Treth |
| L | Mae gennych hawl i’r Lwfans Personol rhydd o dreth safonol |
| M | Lwfans Priodasol: rydych wedi cael trosglwyddiad o 10% o Lwfans Personol eich partner |
| M1 | Rydych ar god treth dros dro |
| N | Lwfans Priodasol: rydych wedi trosglwyddo 10% o’ch Lwfans Personol i’ch partner |
| NONCUM | Rydych ar god treth dros dro |
| NT | Nid ydych yn talu unrhyw dreth ar yr incwm hwn |
| S | Trethir eich incwm neu’ch pensiwn gan ddefnyddio’r cyfraddau yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) |
| S0T | Defnyddiwyd eich Lwfans Personol (yn yr Alban) i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi |
| SBR | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd sylfaenol yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| SD0 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd ganolradd yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| SD1 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| SD2 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch bellach yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| SD3 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uchaf yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| T | Mae’ch cod treth yn cynnwys cyfrifiadau eraill i gyfrifo’ch Lwfans Personol |
| W1 | Rydych ar god treth dros dro |
| X | Rydych ar god treth dros dro |
4. Os ydych o’r farn bod eich cod treth yn anghywir
Fel arfer, mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn diweddaru’ch cod treth gan ddefnyddio gwybodaeth oddi wrth eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn.
Fel arfer, os yw’ch cod treth yn anghywir, mae hyn oherwydd bod gan CThEF wybodaeth sy’n anghywir neu wybodaeth sydd ar goll.
I gywiro’ch cod treth, gwiriwch a diweddarwch y manylion sydd gan CThEF ar eich cyfer.
Diweddarwch eich manylion
Defnyddio’r gwasanaeth ar-lein yw’r ffordd gyflymaf o wirio a diweddaru eich manylion.
-
Mewngofnodwch i’r gwasanaeth Gwirio’ch Treth Incwm ar-lein.
-
Gwiriwch eich manylion ynghylch cyflogaeth, pensiwn, incwm trethadwy amcangyfrifedig, buddiant cwmni a threuliau.
-
Diweddarwch eich manylion os oes unrhyw beth o’i le neu ar goll.
-
Hawliwch ryddhad treth ar eich treuliau cyflogaeth - os oes gennych rai.
Os ydych wedi gadael swydd ac na chawsoch P45 oddi wrth eich cyflogwr blaenorol, gofynnwch iddo am un. Gall hyn helpu i ddiweddaru’ch manylion.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Os oes angen i’ch cod treth newid, bydd CThEF yn gwneud y canlynol:
- diweddaru eich cod treth
- rhoi gwybod i chi a’ch cyflogwr am y cod treth newydd cyn pen 15 diwrnod gwaith
Ar ôl i chi gael eich cod treth newydd, os ydych yn cael eich talu:
- yn fisol - dylai’r cod fod ar eich slip cyflog nesaf neu’r un ar ôl hynny
- yn wythnosol - dylai’r cod fod ar eich trydydd slip cyflog
Os nad yw’ch slip cyflog yn dangos eich cod treth newydd, siaradwch â’ch cyflogwr i wirio ei fod wedi’i gael.
Os ydych wedi talu’r swm anghywir o dreth, gallwch gael ad-daliad treth neu dalu’r dreth sydd arnoch.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Os ydych yn meddwl bod eich cod treth yn anghywir ac na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch gysylltu â CThEF.
Os ydych wedi dechrau swydd newydd, dylech aros 35 diwrnod i CThEF gael eich manylion incwm newydd cyn i chi gysylltu.
Os ydych yn cysylltu â CThEF ar ran rhywun arall
Os ydych am helpu ffrindiau neu aelodau o’r teulu gyda’u treth, gallwch gofrestru fel ‘cynorthwyydd dibynadwy’.
Os ydych yn asiant a bod angen i chi roi gwybod i CThEF am newid i incwm eich cleient, llenwch ffurflen ymholiadau ynghylch Hysbysiad Cod TWE.
5. Os ydych wedi talu gormod o dreth neu heb dalu digon o dreth
Os ydych ar y cod treth anghywir, efallai y byddwch yn talu gormod neu rhy ychydig o dreth. Gallwch gael ad-daliad neu dalu’r dreth sydd arnoch unwaith i Gyllid a Thollau EF (CThEF) gael manylion eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth.
Os ydych am gael ad-daliad ar gyfer unrhyw beth ar wahân i swydd neu bensiwn, gwiriwch sut i hawlio ad-daliad treth.
Os ydych wedi talu gormod o dreth
Pan fydd CThEF yn diweddaru’ch cod treth, bydd yn gwirio a yw holl fanylion eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ganddo.
Os oes ganddo’r holl fanylion, bydd yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng faint o dreth rydych wedi’i thalu a faint o dreth y dylech fod wedi’i thalu.
Bydd CThEF yn gofyn i’ch cyflogwr neu ddarparwr pensiwn ad-dalu’r gwahaniaeth drwy eich cyflog. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd pan fydd yn defnyddio eich cod treth newydd.
Pan fydd eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn yn cael eich cod treth newydd, os ydych yn cael eich talu:
- yn fisol - dylai ddefnyddio’r cod ar gyfer eich cyflog nesaf neu’r un ar ôl hynny
- yn wythnosol - dylai ddefnyddio’r cod ar gyfer eich trydydd cyflog
Os nad oes gan CThEF eich manylion
Ni allwch gael ad-daliad nes bo gan CThEF fanylion eich incwm oddi wrth eich cyflogwr, darparwr pensiwn neu swyddfa budd-daliadau.
Os ydych wedi newid swydd, rhowch y P45 (yn agor tudalen Saesneg) o’ch swydd flaenorol i’ch cyflogwr newydd. Os na wnaeth eich cyflogwr blaenorol roi P45 i chi, gofynnwch iddo am un. Gall hyn roi’r manylion sydd eu hangen i CThEF.
Ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, mae CThEF yn cael manylion incwm oddi wrth gyflogwyr, darparwyr pensiwn â’r swyddfa budd-daliadau. Yna, bydd CThEF yn gwneud y canlynol:
- gwirio faint o dreth rydych wedi’i thalu
- anfon llythyr atoch os nad ydych wedi talu’r swm cywir
- rhoi gwybod i chi sut gallwch gael ad-daliad, os ydych wedi talu gormod
- diweddaru eich cod treth, os oes angen
Os nad ydych wedi talu digon o dreth
Bydd CThEF yn gwneud y canlynol:
- amcangyfrif faint o dreth sydd arnoch, pan fydd eich cod treth wedi’i ddiweddaru
- addasu’ch cod treth i gasglu’r dreth dros un neu fwy o flynyddoedd treth, os yw’n bosibl
- gwirio’ch treth ar ôl diwedd y flwyddyn dreth ac anfon llythyr atoch os nad ydych wedi talu’r swm cywir
Byddwch yn cael cod treth dros dro tan ddiwedd y flwyddyn dreth. Yn y flwyddyn dreth newydd, cewch eich rhoi ar god treth nad yw’n un dros dro.
6. Codau treth dros dro
Rydych ar god treth dros dro os yw’ch slip cyflog yn gorffen gyda’r canlynol:
- W1 - defnyddir hyn os ydych yn cael eich talu’n wythnosol, er enghraifft 1257L W1
- M1 - defnyddir hyn os ydych yn cael eich talu’n fisol, er enghraifft S875L M1
- X1 - defnyddir hyn os yw’ch dyddiadau talu yn newid, er enghraifft C663L X
Hefyd, gallech weld ‘NONCUM’ ar eich slip cyflog, yn dibynnu ar feddalwedd gyflogres eich cyflogwr.
Os nad yw’ch cod treth yn gorffen gydag ‘W1’, ‘M1’, ‘X’, na NONCUM, mae hynny yn dangos nad oes gennych god treth dros dro. Gallwch wirio beth mae’ch cod treth yn ei olygu.
Beth y mae cod treth dros dro yn ei olygu
Fel arfer, mae’ch treth yn cael ei gyfrifo ar sail cyfanswm eich incwm hyd at y pwynt hwnnw yn y flwyddyn dreth dan sylw.
Os oes gennych god treth dros dro, mae’ch treth wedi’i chyfrifo yn seiliedig ar yr hyn sydd wedi’i dalu i chi am yr wythnos neu’r mis dan sylw yn unig. Rydych yn cael eich trethi fel petai’r swm hwnnw’n cael ei dalu i chi bob wythnos neu fis o’r flwyddyn.
Gallai hyn olygu eich bod yn talu’r swm anghywir o dreth.
Os ydych wedi dechrau swydd newydd
Pan fyddwch yn cael eich talu am y tro cyntaf, bydd eich cyflogwr newydd yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) eich bod wedi dechrau gweithio iddo.
Os nad oes gan eich cyflogwr newydd eich manylion treth ac incwm blaenorol, byddwch yn cael eich talu gan ddefnyddio cod treth dros dro.
Os oes gennych P45 o’ch swydd flaenorol (yn agor tudalen Saesneg), rhowch hyn i’ch cyflogwr newydd. Bydd hyn yn rhoi eich manylion i’ch cyflogwr, a gall ei helpu i’ch tynnu oddi ar god dreth dros dro. Os na wnaeth eich cyflogwr blaenorol roi P45 i chi, gofynnwch iddo am un.
Fel arfer, bydd CThEF yn diweddaru’ch cod treth pan fydd ganddo eich holl fanylion oddi wrth eich cyflogwr newydd a chyflogwyr blaenorol. Bydd CThEF yn anfon y cod treth atoch chi a’ch cyflogwr newydd. Gall hyn gymryd hyd at 35 diwrnod i’r dyddiad y gwnaethoch ddechrau’r swydd.
Os nad ydych wedi talu digon o dreth, bydd y cod treth dros dro yn aros ar waith hyd nes eich bod wedi talu’r swm cywir o dreth ar gyfer y flwyddyn.
Os ydych wedi talu gormod o dreth, gallwch gael ad-daliad.
Os gwnaethoch ddechrau swydd mwy na 35 diwrnod yn ôl
Os ydych o’r farn bod eich cod treth yn dal i fod yn anghywir, dysgwch sut i ddiweddaru’ch cod treth.
Os ydych wedi dechrau cael buddiannau cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth
Efallai y caiff cod treth dros dro ei roi i chi os ydych yn dechrau cael buddiannau cwmni (yn agor tudalen Saesneg) neu Bensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn yn arferol ac mae’n eich helpu i dalu’r swm cywir o dreth ar gyfer y flwyddyn dreth honno.
Gwiriwch eich cod treth ar-lein i wneud yn siŵr ei fod yn cynnwys y buddiant cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth. Os nad yw’n cynnwys y rhain, ewch ati i ddiweddaru’ch manylion drwy’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer codau treth, neu drwy gysylltu â CThEF.
Bydd gennych god treth dros dro tan ddiwedd y flwyddyn dreth. Yn y flwyddyn dreth newydd, cewch eich rhoi ar god treth nad yw’n un dros dro.
7. Os oes gennych K yn eich cod treth
Mae codau treth sy’n cynnwys ‘K’ yn golygu bod gennych incwm neu ddidyniadau sy’n uwch na’ch Lwfans Personol rhydd o dreth ac nad ydynt yn cael eu trethu eisoes.
Er enghraifft, gallai hyn ddigwydd pan fyddwch yn:
- talu treth sydd arnoch o flwyddyn flaenorol drwy’ch cyflog neu’ch pensiwn
- cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau trethadwy’r Wladwriaeth
- cael buddiannau cwmni (yn agor tudalen Saesneg) y mae angen i chi dalu treth arnynt - fel car cwmni
- cael llog ar eich cynilion sy’n fwy na’ch Lwfans Cynilion Personol
Mae’ch cyflogwr neu ddarparwr pensiwn yn defnyddio cod treth K fel eich bod yn talu treth ar eich incwm arall neu ddidyniadau yn y gyflogaeth neu’r pensiwn lle caiff y cod ei ddefnyddio.
Ni all cyflogwyr na darparwyr pensiwn ddidynnu mwy na hanner o’ch cyflog neu bensiwn cyn treth wrth ddefnyddio cod treth K.