Skip to main content

Os ydych o’r farn bod eich cod treth yn anghywir

Fel arfer, mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn diweddaru’ch cod treth gan ddefnyddio gwybodaeth oddi wrth eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn.

Fel arfer, os yw’ch cod treth yn anghywir, mae hyn oherwydd bod gan CThEF wybodaeth sy’n anghywir neu wybodaeth sydd ar goll.

I gywiro’ch cod treth, gwiriwch a diweddarwch y manylion sydd gan CThEF ar eich cyfer.

Diweddarwch eich manylion

Defnyddio’r gwasanaeth ar-lein yw’r ffordd gyflymaf o wirio a diweddaru eich manylion.

  1. Mewngofnodwch i’r gwasanaeth Gwirio’ch Treth Incwm ar-lein.

  2. Gwiriwch eich manylion ynghylch cyflogaeth, pensiwn, incwm trethadwy amcangyfrifedig, buddiant cwmni a threuliau.

  3. Diweddarwch eich manylion os oes unrhyw beth o’i le neu ar goll.

  4. Hawliwch ryddhad treth ar eich treuliau cyflogaeth - os oes gennych rai.

Os ydych wedi gadael swydd ac na chawsoch P45 oddi wrth eich cyflogwr blaenorol, gofynnwch iddo am un. Gall hyn helpu i ddiweddaru’ch manylion.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Os oes angen i’ch cod treth newid, bydd CThEF yn gwneud y canlynol:

  • diweddaru eich cod treth
  • rhoi gwybod i chi a’ch cyflogwr am y cod treth newydd cyn pen 15 diwrnod gwaith

Ar ôl i chi gael eich cod treth newydd, os ydych yn cael eich talu:

  • yn fisol - dylai’r cod fod ar eich slip cyflog nesaf neu’r un ar ôl hynny
  • yn wythnosol - dylai’r cod fod ar eich trydydd slip cyflog

Os nad yw’ch slip cyflog yn dangos eich cod treth newydd, siaradwch â’ch cyflogwr i wirio ei fod wedi’i gael.

Os ydych wedi talu’r swm anghywir o dreth, gallwch gael ad-daliad treth neu dalu’r dreth sydd arnoch.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Os ydych yn meddwl bod eich cod treth yn anghywir ac na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch gysylltu â CThEF.

Os ydych wedi dechrau swydd newydd, dylech aros 35 diwrnod i CThEF gael eich manylion incwm newydd cyn i chi gysylltu.

Os ydych yn cysylltu â CThEF ar ran rhywun arall

Os ydych am helpu ffrindiau neu aelodau o’r teulu gyda’u treth, gallwch gofrestru fel ‘cynorthwyydd dibynadwy’.

Os ydych yn asiant a bod angen i chi roi gwybod i CThEF am newid i incwm eich cleient, llenwch ffurflen ymholiadau ynghylch Hysbysiad Cod TWE.