Gwirio Statws Cyflogaeth at ddibenion Treth (CEST)
Defnyddiwch yr offeryn CEST i wirio a ddylech chi, neu weithiwr mewn swydd benodol, gael eich nodi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig at ddibenion treth.
Mae’r offeryn CEST yn dangos safbwynt CThEF o ran statws cyflogaeth gweithiwr, a hynny’n seiliedig ar yr wybodaeth a roddir gennych.
Bydd statws cyflogaeth gweithiwr yn pennu pwy sy’n gyfrifol am gyfrifo’r dreth a’r Cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus a’u talu wedyn i CThEF.
Bydd CThEF yn glynu wrth bob canlyniad a gynhyrchir gan yr offeryn, cyn belled â bod yr wybodaeth a rowch yn parhau i fod yn gywir a’i bod yn cael ei defnyddio yn unol â’n harweiniad.
Pwy all ddefnyddio’r offeryn
Gall unrhyw un ddefnyddio’r offeryn i wirio statws cyflogaeth at ddibenion treth, er enghraifft:
- hurwyr
- gweithwyr
- asiantaethau neu drydydd parti
Pryd i ddefnyddio’r offeryn
Defnyddiwch yr offeryn i wneud y canlynol:
- gwirio a ddylid eich ystyried chi neu weithiwr yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig at ddibenion treth
- p’un a yw’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) yn berthnasol i swydd
- gwirio a fydd newid i gontract neu drefniant gweithio yn effeithio ar ganlyniad
- gwirio neu ddeall canlyniad sydd eisoes wedi’i roi
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi wybod y canlynol:
- manylion y contract
- beth yw cyfrifoldebau’r gweithiwr
- pwy sy’n penderfynu ar ba waith sydd angen eu gwneud
- pwy sy’n penderfynu pa bryd, ym mha le a sut y gwneir y gwaith
- sut y bydd y gweithiwr yn cael ei dalu
- os yw’r swydd yn cynnwys unrhyw fuddiannau corfforaethol neu ad-daliadau ar gyfer treuliau
Mae defnydd o’r offeryn yn anhysbys. Nid ydym yn casglu manylion adnabod y rhai sy’n defnyddio’r offeryn.
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi manylion ar gyfer yr offeryn hwn ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Ar ôl i chi ddefnyddio’r offeryn, byddwch yn gallu:
- cadw eich atebion a’r canlyniad
- defnyddio’r canlyniad fel datganiad penderfynu statws dilys
Gwybodaeth bellach
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllaw Statws Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Rydym yn cofnodi ac yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol gan ddangos dadansoddiad o’r canlyniadau a’r rhesymeg ar gyfer yr offeryn CEST (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
The check employment status for tax tool has been amended to simplify the language. We have removed information for some customers where special rules apply and covered this within the tool itself. Useful links have also been included for related guidance.
-
The guidance has been updated to reflect off-payroll working changes that came into effect on 6 April 2021.
-
Welsh translation added.
-
The 'check employment status for tax' tool has been updated so if you do not know the worker, the tool will not ask questions about their circumstances.
-
Added a link to the off-payroll working in the public sector guidance.
-
First published.