Skip to main content

Trosolwg

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 i’ch helpu i fod yn gymwys i gael rhai budd-daliadau, fel Pensiwn y Wladwriaeth, os ydych yn hunangyflogedig.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu’r cyfraniadau hyn fel rhan o’u bil treth Hunanasesiad neu mae eu cyfraniadau yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu.

Pryd y gallech ddewis talu

Mae’n bosibl y byddwch yn dewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os yw’r canlynol yn wir:

  • nid ydych yn talu drwy Hunanasesiad
  • rydych am lenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol – gallwch wirio’ch bod yn gymwys ar gyfer cyfnodau pan oeddech yn hunangyflogedig
  • rydych yn gweithio neu’n byw dramor, neu wedi gwneud yn y gorffennol

Os ydych fel arfer yn talu cyfraniadau Dosbarth 2 fel rhan o’ch bil Hunanasesiad ond wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer talu, bydd angen i chi gysylltu â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol i gael cyfeirnod a gwneud eich taliad.

Gallwch hefyd ddewis talu oherwydd nad ydych yn gymwys i gael eich trin fel rhywun sydd wedi talu cyfraniadau Dosbarth 2. Mae hyn yn berthnasol os ydych chi’n un o’r canlynol:

  • yn arholwr, safonwr, goruchwyliwr neu berson sy’n gosod cwestiynau arholiad
  • yn weinidog yr efengyl nad yw’n cael cyflog na thâl
  • yn berson sy’n gwneud buddsoddiadau – ond nid fel busnes, a heb gael ffi na chomisiwn
  • yn landlord ac yn gymwys i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2

Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor

Mae yna ffordd wahanol o wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os ydych yn byw neu’n gweithio dramor. Gwiriwch a ydych yn gymwys a sut i dalu.

Sut i wneud cyfraniadau gwirfoddol Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os ydych yn byw yn y DU

Bydd angen i chi gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad.

Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg ac fel arfer gallwch dalu cyfraniadau am y 6 blynedd dreth ddiwethaf. Gwiriwch y dyddiadau cau ar gyfer talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol.

Ar ôl i chi gofrestru

Bydd CThEF yn anfon cais am daliad atoch rhwng mis Medi a diwedd mis Hydref yn rhoi gwybod i chi faint i’w dalu.

Bydd y cais am daliad yn cynnwys cyfeirnod 18 digid o hyd y bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud taliad. 

Cysylltwch â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol os na fyddwch yn cael cais am daliad erbyn diwedd mis Tachwedd.

Ar ôl i chi gofrestru, bydd CThEF yn anfon cais am daliad atoch bob blwyddyn tan y byddwch wedi gwneud y canlynol:

  • rhoi gwybod iddo nad ydych am dalu cyfraniadau gwirfoddol mwyach

  • rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig

  • cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Ffyrdd o dalu os ydych yn byw yn y DU

Bydd eich cais am daliad yn rhoi dyddiad cau i chi dalu CThEF.

Gwiriwch pa mor hir y mae angen i chi ganiatáu i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Gallwch wneud taliadau sy’n cyrraedd ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf:

Sicrhewch eich bod yn caniatáu 3 diwrnod i’ch taliadau gyrraedd CThEF os ydych yn defnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Bacs).

Sicrhewch eich bod yn caniatáu 21 diwrnod gwaith i drefnu Debyd Uniongyrchol os nad ydych wedi trefnu un o’r blaen.

Os bydd y dyddiad cau ar ddiwrnod dros y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny. Nid oes angen i chi wneud hyn os ydych chi’n talu gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn Taliadau Cyflymach.

Os ydych yn methu’r dyddiad cau ar gyfer talu

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau y mae CThEF wedi’i roi i chi, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gall hyn hefyd effeithio ar eich hawl i rai budd-daliadau.

Cysylltwch â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol i gael gwybod faint sydd angen i chi ei dalu.

Ar ôl i chi dalu

Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.

Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol a’ch cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.