Codau treth
Beth mae’ch cod treth yn ei olygu
Mae’ch cod treth yn cynnwys rhifau a llythrennau.
1257L yw’r cod treth a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sydd ag un gyflogaeth neu bensiwn.
Fel arfer, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cysylltu â chi i esbonio sut y cyfrifwyd eich cod treth unigol, os bydd eich cod treth yn newid.
Gwirio beth mae’ch cod treth yn ei olygu
Nodwch eich cod treth yn yr offeryn gwirio beth mae’ch cod treth yn ei olygu i ddysgu mwy am y canlynol:
- beth mae’r rhifau a llythrennau yn ei olygu
- faint o dreth y byddwch yn ei thalu
- yr hyn y gall fod angen i chi ei wneud nesaf
Beth mae’r rhifau yn ei olygu
Mae’r rhifau yn eich cod treth yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn faint o incwm rhydd o dreth rydych yn ei gael oddi wrtho yn ystod y flwyddyn dreth honno.
I gyfrifo’ch rhif unigol, mae CThEF yn dechrau gyda’ch Lwfans Personol rhydd o dreth ac yn tynnu unrhyw rai o’r canlynol:
- incwm nad ydych wedi talu treth arno (fel llog heb ei drethu neu enillion rhan amser)
- didyniadau eraill yn eich cod treth (fel buddiannau cwmni (yn agor tudalen Saesneg) neu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel)
Yna, bydd yn newid y rhif olaf i lythyren.
Os oes gennych K yn eich cod treth, mae’r cyfrifiad yn wahanol.
Enghraifft
Mae gennych hawl i’r Lwfans Personol rhydd o dreth safonol, sef £12,570, ond rydych hefyd yn cael yswiriant meddygol gan eich cyflogwr. Gan mai buddiant cwmni yw hwn, mae’n gostwng eich Lwfans Personol ac yn newid eich cod treth.
Mae’r buddiant yswiriant meddygol, sef £1,570, yn cael ei ddidynnu oddi wrth eich Lwfans Personol, gan olygu bod gennych swm rhydd o dreth o £11,000. 1100L fyddai’ch cod treth, felly.
Beth mae’r llythrennau yn ei olygu
Mae’r llythrennau yn eich cod treth yn cyfeirio at eich sefyllfa, a sut y mae’n effeithio ar eich Lwfans Personol rhydd o dreth a’r cyfraddau treth rydych yn eu talu.
| Llythrennau | Beth maent yn ei olygu |
|---|---|
| 0T | Defnyddiwyd eich Lwfans Personol i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi |
| BR | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd sylfaenol (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| C | Trethir eich incwm neu’ch pensiwn gan ddefnyddio’r cyfraddau yng Nghymru |
| C0T | Defnyddiwyd eich Lwfans Personol (yng Nghymru) i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi |
| CBR | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd sylfaenol yng Nghymru (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| CD0 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch yng Nghymru (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| CD1 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd ychwanegol yng Nghymru (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| D0 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| D1 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd ychwanegol (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| K | Mae gennych incwm nad ydych yn talu treth arno sy’n fwy na’ch Lwfans Personol - dysgwch fwy am K yn eich cod Treth |
| L | Mae gennych hawl i’r Lwfans Personol rhydd o dreth safonol |
| M | Lwfans Priodasol: rydych wedi cael trosglwyddiad o 10% o Lwfans Personol eich partner |
| M1 | Rydych ar god treth dros dro |
| N | Lwfans Priodasol: rydych wedi trosglwyddo 10% o’ch Lwfans Personol i’ch partner |
| NONCUM | Rydych ar god treth dros dro |
| NT | Nid ydych yn talu unrhyw dreth ar yr incwm hwn |
| S | Trethir eich incwm neu’ch pensiwn gan ddefnyddio’r cyfraddau yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) |
| S0T | Defnyddiwyd eich Lwfans Personol (yn yr Alban) i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi |
| SBR | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd sylfaenol yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| SD0 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd ganolradd yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| SD1 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| SD2 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch bellach yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| SD3 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uchaf yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| T | Mae’ch cod treth yn cynnwys cyfrifiadau eraill i gyfrifo’ch Lwfans Personol |
| W1 | Rydych ar god treth dros dro |
| X | Rydych ar god treth dros dro |