Codau treth
Codau treth dros dro
Rydych ar god treth dros dro os yw’ch slip cyflog yn gorffen gyda’r canlynol:
- W1 - defnyddir hyn os ydych yn cael eich talu’n wythnosol, er enghraifft 1257L W1
- M1 - defnyddir hyn os ydych yn cael eich talu’n fisol, er enghraifft S875L M1
- X1 - defnyddir hyn os yw’ch dyddiadau talu yn newid, er enghraifft C663L X
Hefyd, gallech weld ‘NONCUM’ ar eich slip cyflog, yn dibynnu ar feddalwedd gyflogres eich cyflogwr.
Os nad yw’ch cod treth yn gorffen gydag ‘W1’, ‘M1’, ‘X’, na NONCUM, mae hynny yn dangos nad oes gennych god treth dros dro. Gallwch wirio beth mae’ch cod treth yn ei olygu.
Beth y mae cod treth dros dro yn ei olygu
Fel arfer, mae’ch treth yn cael ei gyfrifo ar sail cyfanswm eich incwm hyd at y pwynt hwnnw yn y flwyddyn dreth dan sylw.
Os oes gennych god treth dros dro, mae’ch treth wedi’i chyfrifo yn seiliedig ar yr hyn sydd wedi’i dalu i chi am yr wythnos neu’r mis dan sylw yn unig. Rydych yn cael eich trethi fel petai’r swm hwnnw’n cael ei dalu i chi bob wythnos neu fis o’r flwyddyn.
Gallai hyn olygu eich bod yn talu’r swm anghywir o dreth.
Os ydych wedi dechrau swydd newydd
Pan fyddwch yn cael eich talu am y tro cyntaf, bydd eich cyflogwr newydd yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) eich bod wedi dechrau gweithio iddo.
Os nad oes gan eich cyflogwr newydd eich manylion treth ac incwm blaenorol, byddwch yn cael eich talu gan ddefnyddio cod treth dros dro.
Os oes gennych P45 o’ch swydd flaenorol (yn agor tudalen Saesneg), rhowch hyn i’ch cyflogwr newydd. Bydd hyn yn rhoi eich manylion i’ch cyflogwr, a gall ei helpu i’ch tynnu oddi ar god dreth dros dro. Os na wnaeth eich cyflogwr blaenorol roi P45 i chi, gofynnwch iddo am un.
Fel arfer, bydd CThEF yn diweddaru’ch cod treth pan fydd ganddo eich holl fanylion oddi wrth eich cyflogwr newydd a chyflogwyr blaenorol. Bydd CThEF yn anfon y cod treth atoch chi a’ch cyflogwr newydd. Gall hyn gymryd hyd at 35 diwrnod i’r dyddiad y gwnaethoch ddechrau’r swydd.
Os nad ydych wedi talu digon o dreth, bydd y cod treth dros dro yn aros ar waith hyd nes eich bod wedi talu’r swm cywir o dreth ar gyfer y flwyddyn.
Os ydych wedi talu gormod o dreth, gallwch gael ad-daliad.
Os gwnaethoch ddechrau swydd mwy na 35 diwrnod yn ôl
Os ydych o’r farn bod eich cod treth yn dal i fod yn anghywir, dysgwch sut i ddiweddaru’ch cod treth.
Os ydych wedi dechrau cael buddiannau cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth
Efallai y caiff cod treth dros dro ei roi i chi os ydych yn dechrau cael buddiannau cwmni (yn agor tudalen Saesneg) neu Bensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn yn arferol ac mae’n eich helpu i dalu’r swm cywir o dreth ar gyfer y flwyddyn dreth honno.
Gwiriwch eich cod treth ar-lein i wneud yn siŵr ei fod yn cynnwys y buddiant cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth. Os nad yw’n cynnwys y rhain, ewch ati i ddiweddaru’ch manylion drwy’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer codau treth, neu drwy gysylltu â CThEF.
Bydd gennych god treth dros dro tan ddiwedd y flwyddyn dreth. Yn y flwyddyn dreth newydd, cewch eich rhoi ar god treth nad yw’n un dros dro.