Cymorth i ddefnyddwyr
Gwybodaeth am eich hawliau, beth i'w wneud os aiff pethau o chwith, a sut i ddweud wrth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) am broblemau defnyddwyr.
Mae yna lawer o ffyrdd i gael help os oes gennych broblem gyda rhywbeth rydych wedi’i brynu.
Sefydliadau a all eich helpu
I gael help gyda’ch problem, cysylltwch â’r sefydliad perthnasol cyngor i ddefnyddwyr yn eich ardal.
Rhowch wybod am broblem i ni
Gallwch roi gwybod am broblem defnyddiwr i’r CMA, os ydych chi’n credu ei bod yn effeithio ar fwy nag un unigolyn yn unig: Dywedwch wrth y CMA am broblem.
Ar ôl i chi gyflwyno eich cwyn i ni, byddwch yn cael ymateb awtomataidd drwy e-bost. Byddwn yn adolygu’r wybodaeth rydych wedi’i darparu.
Fodd bynnag, ni allwn ymyrryd na chynghori ar gwynion unigol.
Cael arian yn ei ôl os yw’r CMA yn gorchymyn ad-daliadau neu ddigollediadau
Efallai fod arian yn ddyledus i chi os yw’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) wedi gorchymyn i fusnes ad-dalu neu ddigolledu ei gwsmeriaid. Gweld a ydych yn gymwys a’r hyn sydd angen i chi ei wneud.
Gwybod eich hawliau
Gallwch wirio ein canllawiau ar eich hawliau fel defnyddiwr.
Canslo nwyddau neu wasanaethau
Beth allwch chi ei wneud a phwy i gysylltu ag ef i gael gwybodaeth neu gyngor os oes angen i chi ganslo nwyddau neu wasanaethau,
Dychweliadau ac ad-daliadau
Ewch i Gyngor ar Bopeth am wybodaeth am ddychweliadau ac ad-daliadau.