Talu eich bil Treth Gorfforaeth
Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Mae’r ffordd rydych yn talu yn dibynnu a ydych yn defnyddio cyfrif banc yn y DU neu dramor.
Cyfrif banc yn y DU
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:
- drwy’ch cyfrif banc ar-lein
- gan ffonio’ch banc
Bydd eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’ neu unrhyw nodynnau atgoffa gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi gwybod i chi i ba gyfrif y dylech dalu. Os nad ydych yn siŵr, defnyddiwch HMRC Cumbernauld.
- cod didoli: 08 32 10
- rhif y cyfrif: 12001039
- enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld
Neu:
- cod didoli: 08 32 10
- rhif y cyfrif: 12001020
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Cyfrif banc tramor
Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor.
-
rhif y cyfrif (IBAN) - GB62 BARC 2011 4770 2976 90
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
-
enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld
Neu:
-
rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
-
enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Dylech wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Cyfeirnod
Defnyddiwch eich cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth, sy’n 17 o gymeriadau, ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn talu amdano.
Mae’ch cyfeirnod talu’n newid gyda phob cyfnod cyfrifyddu, felly bydd angen i chi ddefnyddio un gwahanol bob tro y byddwch yn talu.
Os ydych wedi talu drwy drosglwyddiad banc yn y gorffennol ac wedi cadw CThEF fel talai, bydd eich banc wedi cadw’r cyfeirnod diwethaf i chi ei ddefnyddio yn awtomatig. Bydd angen i chi ddiweddaru hwn efo’r cyfeirnod cywir.
Gallwch gael hyd i’ch cyfeirnod:
- ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’ neu ar unrhyw nodynnau atgoffa gan CThEF
- yng nghyfrif ar-lein CThEF eich cwmni – dewiswch ‘Bwrw golwg dros eich datganiad Treth Gorfforaeth’, ‘cyfnodau cyfrifyddu’, yna dewiswch y cyfnod cywir
Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Cyfeiriad bancio
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Taliadau lluosog drwy CHAPS
I wneud un taliad sy’n cwmpasu sawl cwmni ar gyfer yr un cyfnod cyfrifyddu:
- cwblhewch ffurflen ymholiad CHAPS ar-lein
- lawrlwythwch y ffurflen a dilynwch y cyfarwyddiadau i’w hanfon drwy e-bost at CThEF