Skip to main content

Prynu trwydded pysgota â gwialen

Printable version

1. Pryd mae angen trwydded arnoch

Rhaid i chi feddu ar drwydded pysgota â gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr os ydych yn pysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod gyda gwialen a lein yn yr ardaloedd canlynol:

  • Lloegr (ac eithrio afon Tuedd)
  • Cymru
  • rhanbarth afon Border Esk, gan gynnwys y rhannau o’r afon sydd yn yr Alban

Mae hyn yn cynnwys os ydych chi’n pysgota ar dir preifat, fel dyfroedd clwb pysgota neu lynnoedd pysgota preifat.

Caiff ffi eich trwydded ei defnyddio i ariannu gwaith fel a ganlyn:

  • stocio pysgod
  • gwella cynefinoedd a physgodfeydd
  • atal pysgota anghyfreithlon

Gallwch dderbyn dirwy o hyd at £2,500 os ydych yn pysgota yn yr ardaloedd hyn heb allu dangos trwydded pysgota â gwialen ddilys ar gais.

Rhaid i chi ddilyn is-ddeddfau lleol a chenedlaethol ar gyfer pysgota â gwialen (yn Saesneg) wrth bysgota mewn dŵr croyw gyda gwialen a lein yng Nghymru a Lloegr. Efallai y bydd rheolau ychwanegol mewn rhai ardaloedd - gwiriwch gyda pherchennog y tir.

Mae rheolau gwahanol ar gyfer pysgota yng ngweddill yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Caniatadau eraill sydd eu hangen arnoch

Mae angen caniatâd arnoch gan berchennog y tir neu’r bysgodfa i bysgota yn yr ardal, yn ogystal â thrwydded pysgota â gwialen.

Fel arfer, y caniatâd sydd ei angen arnoch chi yw trwydded pysgota.

Er enghraifft, i bysgota mewn lociau neu goredau ar afon Tafwys mae angen trwydded pysgota mewn lociau a choredau arnoch chi.

Trwyddedau i blant a gofalwyr

Nid oes angen trwydded ar blant dan 13 oed.

Bydd angen i chi gael trwydded iau ar gyfer plant rhwng 13 a 16 oed. Mae trwyddedau iau ar gael am ddim.

Nid oes angen trwydded ar ofalwyr sy’n dod gyda rhywun sy’n pysgota oni bai eu bod nhw’n pysgota eu hunain.

2. Mathau o drwyddedau a therfynau gwialen

Trwydded brithyll, pysgod bras a llyswennod

Mae’r drwydded hon yn caniatáu ichi bysgota am frithyll anfudol a phob math o bysgod dŵr croyw, gan gynnwys brwyniaid a llyswennod.

Gallwch ddefnyddio eich trwydded i bysgota gyda:

  • 1 wialen ar gyfer brithyll anfudol mewn afonydd, nentydd, draeniau a chamlesi
  • hyd at 2 wialen ar gyfer brithyll anfudol mewn cronfeydd dŵr, llynnoedd a phyllau
  • hyd at 2 wialen ar gyfer pysgod dŵr croyw eraill

Gallwch hefyd brynu trwydded 12 mis sy’n caniatáu ichi ddefnyddio hyd at 3 gwialen ar gyfer pysgod dŵr croyw, ac eithrio brithyll anfudol.

Efallai y bydd gan y lle rydych chi’n pysgota reolau ychwanegol ynghylch faint o wialenni y gallwch chi eu defnyddio yno.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Trwydded eog a brithyll môr

Mae’r drwydded hon yn caniatáu i chi bysgota am eogiaid, brithyll anfudol a phob math o bysgod dŵr croyw, gan gynnwys brwyniaid a llyswennod.

Gallwch ddefnyddio eich trwydded i bysgota gyda’r canlynol:

  • 1 wialen ar gyfer eogiaid, brithyll môr a brithyll anfudol mewn afonydd, nentydd a chamlesi
  • hyd at 2 wialen ar gyfer eogiaid, brithyll môr a brithyll anfudol mewn cronfeydd dŵr, llynnoedd a phyllau
  • hyd at 3 gwialen ar gyfer pysgod dŵr croyw eraill

Os oes gennych drwydded ar gyfer eogiaid a brithyll y môr, rhaid i chi gyflwyno ffurflen daliad (yn Saesneg) bob blwyddyn hyd yn oed os nad ydych wedi pysgota.

Efallai y bydd gan y lle rydych chi’n pysgota reolau ychwanegol ynghylch faint o wialenni y gallwch chi eu defnyddio yno.

Gwialenni nad effeithir arnynt gan derfynau trwyddedau

Nid yw terfynau trwyddedau yn effeithio ar y gwialenni canlynol oni bai bod bachau ynghlwm wrthynt:

  • gwialenni spodiau (wedi’u defnyddio i daflu abwyd i’r dŵr)
  • gwialenni marcio (wedi’u defnyddio i farcio llinynnau)

3. Prynu trwydded pysgota â gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr

Gallwch brynu trwydded 1 diwrnod, 8 diwrnod neu 12 mis ar-lein i chi’ch hun neu rywun arall.

Gallwch brynu trwydded hyd at 30 diwrnod cyn i chi ei defnyddio.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ffioedd

Nid oes prisiau gostyngol ar gyfer trwydded 1 diwrnod na thrwydded 8 diwrnod.

Math o drwydded Brithyll a physgod bras (hyd at 2 wialen) Brithyll a physgod bras (hyd at 3 wialen) Eog a brithyll y môr
1 diwrnod £7.30 Ddim ar gael £13.50  
8 diwrnod £14.70 Ddim ar gael £30.50  
12 mis £36.80 £55.30 £93.10  
12 mis - (66 neu hŷn neu anabl) £24.50 £36.80 £62.00  
12 mis - iau (13 i 16 oed) Am ddim Am ddim Am ddim  

Caiff ffi eich trwydded ei defnyddio i ariannu gwaith fel a ganlyn:

  • stocio pysgod
  • gwella cynefinoedd a physgodfeydd
  • atal pysgota anghyfreithlon

Mae angen gwahanol ganiatadau neu drwyddedau arnoch i bysgota yn y rhan fwyaf o’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Cymhwysedd ar gyfer trwyddedau i bobl anabl

Gallwch gael trwydded i bobl anabl am 12 mis os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • os oes gennych Fathodyn Glas neu’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer un
  • os ydych chi’n derbyn Taliad Annibyniaeth Personol - unrhyw gyfradd 
  • os ydych chi’n derbyn Lwfans Byw i’r Anabl

Os ydych chi’n derbyn Taliad Annibyniaeth Personol neu Lwfans Byw i’r Anabl, bydd angen i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol (neu rif cyfeirnod plentyn os ydych chi o dan 16) wrth wneud cais.

Cael trwydded ar-lein

Gallwch gael trwydded oedolyn neu drwydded iau ar-lein. Mae trwyddedau iau i blant 13 i 16 oed am ddim.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cerdyn debyd neu gredyd
  • eich rhif Yswiriant Gwladol, os ydych chi’n derbyn Taliad Annibyniaeth Personol neu Lwfans Byw i’r Anabl ac yn gwneud cais am drwydded 12 mis
  • manylion y person arall (megis dyddiad geni), os ydych chi’n prynu ar ran rhywun arall

Cael trwydded

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Ffyrdd eraill o gael trwydded

Gallwch hefyd gael trwydded oedolyn neu drwydded iau drwy ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd.

Gwasanaeth trwyddedau pysgota Asiantaeth yr Amgylchedd
Ffôn: 0344 800 5386
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Gwybodaeth am gostau galwadau

Os nad ydych wedi derbyn eich trwydded

Dylai trwyddedau a anfonir drwy’r post gyrraedd o fewn 10 diwrnod gwaith. Fel arfer, mae trwyddedau a anfonir dros e-bost neu neges destun yn cyrraedd o fewn awr.

Cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd os nad ydych wedi derbyn eich trwydded.

Asiantaeth yr Amgylchedd
enquiries@environment-agency.gov.uk
Ffôn: 03708 506 506
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Gwybodaeth am gostau galwadau 

4. Amnewid, diweddaru neu ymestyn trwydded pysgota â gwialen

Gallwch gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd:

  • i amnewid trwydded goll
  • i ddiweddaru eich manylion os ydych chi wedi newid eich enw neu gyfeiriad
  • i ddweud wrthym fod pysgotwr wedi marw
  • os oes gennych gwestiynau am eich trwydded

Asiantaeth yr Amgylchedd
enquiries@environment-agency.gov.uk
Ffôn: 03708 506 506
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Gwybodaeth am gostau galwadau 

National Customer Contact Centre
PO Box 544
Rotherham
S60 1BY

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ymestyn trwydded

I newid trwydded 1 diwrnod neu 8 diwrnod i drwydded 12 mis, ffoniwch Asiantaeth yr Amgylchedd o fewn 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y daeth y drwydded i ben. Bydd angen i chi brynu trwydded newydd ond byddwch yn cael ad-daliad am yr un gyntaf a brynwyd gennych.

Gwasanaeth trwyddedau pysgota Asiantaeth yr Amgylchedd
Ffôn: 0344 800 5386
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Gwybodaeth am gostau galwadau

5. Pysgota yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Pysgota yn yr Alban

Nid oes angen trwydded arnoch i bysgota â gwialen a lein yn unman yn yr Alban ac eithrio rhanbarth afon Border Esk.

Dim ond caniatâd gan berchennog y tir neu glwb pysgota sydd ei angen arnoch chi.

Gan fod afon Border Esk yn llifo i Loegr mae angen i chi brynu trwydded pysgota â gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr i bysgota unrhyw ran ohoni. Mae hyn yn cynnwys y rhannau o’r afon a’i llednentydd sydd yn yr Alban.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pysgota yng Ngogledd Iwerddon

Rhaid i chi gael trwydded gwialen bysgota a chaniatâd pysgota gan asiantaeth yng Ngogledd Iwerddon i bysgota yng Ngogledd Iwerddon.