Skip to main content

Dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol

Os ydych wedi byw neu weithio yn y DU, fel arfer bydd gennych rif Yswiriant Gwladol, hyd yn oed os nad ydych chi’n ei wybod.

Fel arfer, byddwch yn cael llythyr gyda’ch rhif Yswiriant Gwladol yn fuan cyn eich pen-blwydd yn 16 oed os ydych chi’n byw yn y DU. Mae’n cael ei anfon i’r cyfeiriad sydd gan CThEF ar eich cyfer.

Os gwnaethoch symud i’r DU o dramor, efallai bod gennych rif Yswiriant Gwladol eisoes os ydych wedi gweithio neu hawlio budd-daliadau yma. Os nad oes gennych un, efallai y bydd angen i chi wneud cais am un.

Mae rhif Yswiriant Gwladol yn cynnwys 2 lythyren, 6 rhif a llythyren derfynol, er enghraifft, QQ123456B.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Y lle cyntaf i wirio

Efallai y byddwch yn dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol ar rywbeth sydd gennych eisoes, megis:

  • slip cyflog
  • P60
  • llythyrau ynghylch treth, pensiynau neu fudd-daliadau

Gallwch hefyd ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol:

  • yn ap CThEF os ydych yn byw yn y DU
  • yn eich cyfrif treth personol, os oes gennych un eisoes
  • yn eich Apple Wallet neu Google Wallet os oeddech wedi’i gadw yno

Gallwch ddefnyddio ap CThEF neu’ch cyfrif treth personol i lawrlwytho llythyr sy’n dangos eich rhif Yswiriant Gwladol.

Ni all CThEF roi’ch rhif Yswiriant Gwladol i chi dros y ffôn na thrwy sgwrs dros y we.

Gwirio sut i ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol

Defnyddiwch yr offeryn hwn i ddysgu ble i chwilio am eich rhif Yswiriant Gwladol neu sut i ofyn amdano. Bydd angen i chi ateb ychydig o gwestiynau am eich sefyllfa i ddangos y ffordd orau i chi o ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol.

Bydd y sesiwn ar yr offeryn hwn yn dod i ben os byddwch yn rhoi’r gorau i’w ddefnyddio am 15 munud neu fwy. Ni chaiff eich atebion eu cadw.

Gwiriwch nawr