Skip to main content
Canllawiau

Sut y caiff eiddo domestig ei asesu ar gyfer bandiau Treth Gyngor

Dysgwch sut mae’r Swyddfa Brisio yn prisio eiddo domestig ar gyfer bandiau Treth Gyngor.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Mae bandiau Treth Gyngor yn seiliedig ar y pris y byddai’r eiddo wedi’i gael pe bai wedi’i werthu ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2003 yng Nghymru a 1 Ebrill 1991 yn Lloegr.

Mae pob eiddo yn cael ei fandio ar yr un sail, gan gynnwys eiddo a brynwyd o dan gynlluniau disgownt, megis Hawl i Brynu. Nid yw’r disgownt sy’n cael ei ddefnyddio ar yr eiddo hwn yn cael ei ystyried wrth bennu’r band.

Nid yw’r Swyddfa Brisio yn defnyddio mynegeion pris eiddo ar gyfer gwybodaeth na phrisiadau.

Band Treth Gyngor

Bydd pob eiddo sy’n gymwys fel annedd yn cael ei fandio at ddibenion Treth Gyngor.

Mewn amgylchiadau cyfyngedig, mae’n bosibl y byddwn yn dileu’r band Treth Gyngor o eiddo. Mae hyn yn golygu na fydd gan eiddo fand Treth Gyngor ac ni fydd y trethdalwr yn talu unrhyw Dreth Gyngor hyd nes y bydd yr eiddo yn cael ei fandio eto. Mae hyn fel arfer yn dilyn cwblhau gwaith neu gyflwyno hysbysiad cwblhau gan y cyngor lleol.

Os yw’ch eiddo wedi’i feddiannu, ni chaiff y band Treth Gyngor ei ddileu, hyd yn oed os yw gwaith atgyweirio neu adnewyddu sylweddol ar y gweill.

Os yw’ch eiddo yn wag ac na ellir ei atgyweirio neu ei fod yn destun gwaith mawr sy’n ei wneud yn anaddas i fyw ynddo, gallwch wneud cais i dynnu band Treth Gyngor.

Bandiau Treth Gyngor yn Lloegr yn seiliedig ar werthoedd 1 Ebrill 1991

Band Gwerth ar 1 Ebrill 1991
A hyd at £40,000
B £40,001 hyd at £52,000
C £52,001 hyd at £68,000
D £68,001 hyd at £88,000
E £88,001 hyd at £120,000
F £120,001 hyd at £160,000
G £160,001 hyd at £320,000
H mwy na £320,000

Bandiau Treth Gyngor yng Nghymru yn seiliedig ar werthoedd 1 Ebrill 2003

Band Gwerth ar 1 Ebrill 2003
A hyd at £44,000
B £44,001 hyd at £65,000
C £65,001 hyd at £91,000
D £91,001 hyd at £123,000
E £123,001 hyd at £162,000
F £162,001 hyd at £223,000
G £223,001 hyd at £324,000
H £324,001 hyd at £424,000
I mwy na £424,000

Asesiadau bandiau Treth Gyngor

Mae’r Swyddfa Brisio yn asesu eiddo i sicrhau ei fod yn y band Treth Gyngor cywir. Mae’n asesu rhai eiddo yn awtomatig, er enghraifft pan fydd eiddo wedi’i wneud yn llai neu pan fydd eiddo’n cael ei adeiladau o’r newydd. Mae’r Swyddfa Brisio hefyd yn asesu eiddo pan ofynnir iddi wneud hynny, megis yn ystod apêl Treth Gyngor neu yn ystod adolygiad band.

Mae asesiadau’n seiliedig ar nifer o ffactorau, megis:

  • maint yr eiddo

  • cynllun yr eiddo

  • cymeriad yr eiddo

  • lleoliad yr eiddo

  • newid yn y defnydd o’r eiddo

  • gwerth yr eiddo ar 1 Ebrill 2003 (Cymru) neu 1 Ebrill 1991 (Lloegr)

Gallwch wirio’ch band Treth Gyngor yng Nghymru neu Loegr. Yn yr Alban, gwiriwch eich band Treth Gyngor ar wefan Scottish Assessors Association.

Os yw eiddo wedi cynyddu o ran maint ers iddo gael ei asesu am y tro cyntaf, mae’n bosibl y bydd yn symud i fand uwch pan gaiff ei werthu’r tro nesaf.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch asesiad eich band Treth Gyngor, dylech gysylltu â’r Swyddfa Brisio.

Asesu eiddo newydd

Bydd angen asesu eiddo ar gyfer band Treth Gyngor os bydd un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r eiddo wedi cael ei adeiladu o’r newydd

  • mae eiddo presennol yn cael ei drosi i ddefnydd domestig, er enghraifft trosi warws

Os ydych wedi symud i mewn i eiddo sydd heb fand Treth Gyngor, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg). Bydd y cyngor yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar y Swyddfa Brisio i bennu band.

Os nad ydych wedi talu Treth Gyngor o’r blaen, darllenwch yr arweiniad ar sut i ddechrau talu Treth Gyngor (yn agor tudalen Saesneg).

Sicrhau bod eich eiddo yn y band cywir

O dan rai amgylchiadau, gellir newid y band heb werthu’r eiddo. Er enghraifft, os caiff eiddo ei ymestyn gyda rhandy hunangynhwysol.

Bydd unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor y byddwch yn ei thalu yn berthnasol o’r dyddiad y caiff Rhestr Brisio’r Dreth Gyngor ei haddasu. Nid oes angen i chi roi gwybod i ni am werthiannau, gan fod yr wybodaeth hon yn dod atom gan gyfreithiwr y prynwr drwy Swyddfa Treth Dir y Tollau Stamp.

Ymweliadau gan y Swyddfa Brisio

Bydd y Swyddfa Brisio’n trefnu ymweliad os nad yw’n gallu cael digon o wybodaeth i bennu band i eiddo.

Fel arfer, gall y Swyddfa Brisio gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arni o’r tu allan, felly ni fydd angen iddi darfu arnoch. I arbed amser, yn aml bydd yr arolygydd yn tynnu lluniau. Yn gyffredinol, dim ond un neu ddau o luniau allanol sydd eu hangen.

Os na all y Swyddfa Brisio gael yr holl wybodaeth o’r tu allan, efallai y bydd yn gofyn am gael mynd i mewn i’r eiddo. Os oes angen lluniau o’r tu mewn, ni fyddant yn cael eu tynnu heb eich caniatâd.

Dim ond gyda’ch caniatâd y gellir cynnal adolygiadau. Mae staff y Swyddfa Brisio yn archwilio eiddo yn unol â chod ymarfer y llywodraeth ar roi pwerau mynediad ar waith (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd y Swyddfa Brisio yn trefnu’r ymweliad ar adeg sy’n gyfleus i chi. Fel arfer, mae ymweliadau’n cymryd rhwng 10 a 30 munud. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, dylech gysylltu â’r Swyddfa Brisio.

Mae staff bob amser yn cario ac yn cyflwyno cardiau adnabod sy’n cynnwys eu llun. Os yw rhywun yn honni bod angen archwilio’ch cartref at ddibenion Treth Gyngor a bod gennych amheuon, peidiwch â rhoi mynediad iddo. Cysylltwch â’r Swyddfa Brisio i wirio pwy yw ymwelwyr os oes gennych unrhyw bryderon.

Tai Amlfeddiannaeth (HMOs)

Mae’r Swyddfa Brisio yn prisio’r rhan fwyaf o HMOs fel eiddo sengl at ddibenion Treth Gyngor, ac wedi gwneud hynny ers:

  • 3 Mehefin 2026 yng Nghymru

  • 1 Rhagfyr 2023 yn Lloegr

Fel arfer, mae hyn yn golygu na fydd gan ystafelloedd mewn HMOs eu band eu hunain. Bydd gan y rhan fwyaf o HMOs un band Treth Gyngor sy’n cwmpasu’r eiddo cyfan.

Gallwch roi gwybod i ni os nad yw HMO yn cael ei brisio fel eiddo sengl ar hyn o bryd drwy lenwi’r ffurflen gynnig HMO.

Llety Gwyliau

Efallai y bydd angen asesu unrhyw eiddo sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol ar gyfer ardrethi busnes, yn dibynnu ar sut y caiff ei ddefnyddio.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rheolau ynghylch llety gwyliau.

Bandiau Treth Gyngor a rhandai

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i unrhyw adeilad neu ran o adeilad sydd wedi’i adeiladu neu ei addasu ar gyfer defnydd fel llety byw ar wahân gael ei fandio ei hun.

Caiff rhai eiddo sy’n cael eu meddiannu gan un aelwyd (un uned deuluol) eu hadnabod fel rhai sy’n cynnwys mwy nag un uned hunangynhwysol.

Gall uned hunangynhwysol olygu:

  • lle byw sydd ar wahân i lety arall

  • llety byw sy’n gysylltiedig â llety sy’n cydffinio ac yn rhannu mynediad ag ef

Sylwer na ddylech ddisgwyl i’r addasiadau canlynol effeithio ar benderfyniad y Swyddfa Brisio ynghylch a yw ardal ar wahân o lety byw yn dal i fodoli:

  • tynnu sinc heb dynnu’r systemau draenio a’r pibellau

  • tynnu popty heb wneud unrhyw waith arall

Enghraifft

Mae teulu yn addasu dwy ystafell yn eu tŷ fel bod perthynas yn gallu byw gyda nhw. Mae hyn yn cynnwys gosod offer cegin, toiled a chawod yn ogystal â chreu mynedfa unigol i’r rhandy newydd. Fel arfer, byddai angen band Treth Gyngor ei hun ar y rhandy hwn am ei fod yn llety byw ar wahân.

Bydd y Swyddfa Brisio yn gwneud penderfyniad ar bob achos yn seiliedig ar natur benodol adeiladu ac addasu’r eiddo, megis:

  • mynediad annibynnol i gyntedd, landin neu fan cyffredin arall, neu fynediad oddi wrth y rhain

  • ei gyfleusterau ei hun ar gyfer cysgu a pharatoi bwyd

  • cyfleusterau ymolchi a thoiled

Nodweddion ffisegol yn unig sy’n cael eu hystyried wrth benderfynu a yw man ychwanegol o lety byw yn bodoli o fewn eiddo domestig, nid sut y caiff ei ddefnyddio. Mae dal angen band Treth Gyngor ar wahân os yw rhan o dŷ, fflat neu eiddo domestig arall y gellid ei meddiannu ar wahân yn wag.

Os oes gennych randy, efallai y bydd gennych yr hawl i ryddhad gan y cyngor lleol. Gallwch gysylltu â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Ni fyddai llety a feddiannir gan denantiaid yn cael ei drin fel rhandy, ond byddai ganddo ei fand Treth Gyngor ei hun o hyd.

Gweinyddir disgowntiau ac esemptiadau amrywiol gan eich cyngor lleol.

Os ydych wedi cael gwared ar lety byw ar wahân drwy wneud newidiadau ffisegol i’ch tŷ, fflat neu eiddo domestig arall, dylech gysylltu â’r Swyddfa Brisio. Dim ond os yw’r rhan o’r llety byw neu’r rhandy wedi’i newid yn ddigonol fel na ellid byw ynddo ar wahân mwyach y bydd y Swyddfa Brisio yn gallu tynnu band Treth Gyngor.

Nid yw’r Swyddfa Brisio yn gallu rhoi cyngor penodol ar unrhyw newidiadau a gynllunnir i eiddo. Gall ond esbonio sut mae rheoliadau Treth Gyngor perthnasol yn cael eu rhoi ar waith.

Os ydych o’r farn bod eich eiddo wedi cael band Treth Gyngor ychwanegol yn anghywir, mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw (yn agor tudalen Saesneg).

Addasiadau

Mae hysbysiad o addasiad yn llythyr a anfonir atoch os yw rhestr brisio’ch eiddo wedi newid ar restr brisio’r Dreth Gyngor.

Byddwch yn cael hysbysiad o addasiad yn yr achosion canlynol:

  • mae band eich eiddo yn newid

  • rydych yn berchen ar eiddo newydd ac mae’n cael ei ychwanegu at restr y Dreth Gyngor am y tro cyntaf

  • mae’r dyddiad y daw’r band i rym yn newid

  • mae cyfeiriad eich eiddo yn newid

  • mae’ch eiddo wedi’i ddileu o’r Rhestr Treth Gyngor

Os byddwch yn cael hysbysiad o addasiad, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os ydych am apelio yn erbyn y penderfyniad, mae gwybodaeth ar gael yn apeliadau’r Dreth Gyngor (yn agor tudalen Saesneg).

Sgamiau Treth Gyngor a threthi busnes

Mae bob amser yn rhad ac am ddim i herio’ch band Treth Gyngor gyda’r Swyddfa Brisio. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn dewis penodi asiant i wneud y gwaith hwn ar eich rhan.

Os byddwch yn dewis penodi asiant, dylech fod yn ymwybodol bod nifer o asiantau Treth Gyngor ac ardrethi busnes twyllodrus yn gweithredu ledled y wlad.

Rhedeg busnes o’r cartref

Fel arfer, ni fyddai disgwyl i chi dalu ardrethi busnes wrth ddefnyddio’ch cartref at fân ddibenion busnes, megis defnyddio ystafell fel swyddfa bersonol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Dreth Gyngor ar gyfer busnesau yn y cartref.

Talu Treth Gyngor

Mae’ch cyngor lleol yn pennu cyfraddau ac yn casglu’ch taliadau Treth Gyngor. Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) os oes angen i chi gael gwybod y cyfraddau Treth Gyngor y maent wedi’u pennu neu faint y dylech dalu.

Gallwch hefyd dalu eich Treth Gyngor ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).

Sut mae eiddo yn cael ei fesur at ddibenion Treth Gyngor

Mae tai yn cael eu mesur ar sail Arwynebedd Dan Do wedi’i Leihau (RCA). Mae fflatiau yn cael eu mesur ar sail Arwynebedd Llawr Effeithiol (EFA).

Arwynebedd Dan Do wedi’i Leihau (RCA)

Mae’r RCA yn cynnwys yr arwynebedd sydd dan do o fewn y waliau allanol, wedi’i fesur yn allanol.

Mae’r RCA yn eithrio:

  • bargod bondo

  • balconïau agored

  • llwybrau dan do a choridorau allanol

  • arwynebeddau llofft heb eu trosi

  • byncers glo

  • unrhyw estyniad dros dro

Lle bo atriwm, dim ond y lefel isaf y dylid ei chynnwys (mae grisiau yn cael eu cynnwys ar bob lefel).

Mae’r canlynol wedi’u heithrio oni bai bod mynediad iddynt o’r prif dŷ a’u bod wedi’u codi i safon debyg i’r prif dŷ:

  • garejys cysylltiedig a garejys integrol

  • golchdai

  • storfeydd tanwydd

  • ystafelloedd gwydr

  • portshys

  • unrhyw estyniad o ansawdd sy’n sylweddol is na’r prif annedd

Mae adeiladau allanol yn cael eu cofnodi ar wahân.

Mae arwynebeddau mewnol sydd ag uchder o dan 1.5 metr wedi’u heithrio, heblaw am arwynebeddau o dan y grisiau. Mae trwch wal allanol tybiannol yn cael ei ychwanegu at bob dimensiwn cyn cyfrifo arwynebeddau er mwyn cynnal cysondeb, er enghraifft mewn byngalos cabanau gwyliau neu drosiadau llofft gyda nenfydau ar oleddf.

RCA o’i gymharu ag Arwynebedd Allanol Gros (GEA)

Mae GEA yn cael ei ddefnyddio yn bennaf yn y diwydiant eiddo i fesur adeiladau annomestig. Mae’n cynnwys y canlynol:

  • garejys

  • celloedd o dan y palmant (‘pavement vault’)

  • bae llwytho

  • tai allan sy’n rhannu o leiaf un wal gyda’r prif adeilad

  • ystafelloedd gwydr

  • balconïau mewnol

  • storfeydd tanwydd

Mae diffiniad y Swyddfa Brisio o RCA yn wahanol iawn i ddiffiniad Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) o GEA

Mesur trosiadau llofft gyda nenfydau ar oleddf a gwneud addasiadau o ran trwch wal

Dim ond arwynebeddau dros uchder o 1.5 metr sydd wedi’u cynnwys. Mae swm ar gyfer trwch wal allanol tybiannol yn cael ei ychwanegu at bob mesuriad (ar gyfer tŷ) er mwyn ei addasu i RCA.

Mae 23 centimedr yn cael ei ychwanegu ar gyfer pob wal allanol solet.

Mae’r swm a ychwanegir ar gyfer waliau allanol dwbl yn dibynnu ar bryd cafodd yr eiddo ei adeiladu. Ar gyfer pob wal geudod, mae’r Swyddfa Brisio yn ychwanegu:

  • 28cm ar gyfer eiddo ac estyniadau a adeiladwyd cyn 1995

  • 30.5cm ar gyfer eiddo ac estyniadau a adeiladwyd rhwng 1995 a 2002

  • 33cm ar gyfer eiddo ac estyniadau a adeiladwyd rhwng 2002 a 2022

  • 35cm ar gyfer eiddo ac estyniadau a adeiladwyd cyn 2022

Isloriau

Mae arwynebeddau islawr sydd wedi’u gorffen i safon llety’r prif dŷ wedi’u cynnwys yn yr RCA. Mae trwch wal allanol tybiannol yn cael ei ychwanegu at y mesuriadau mewnol i gyfrifo ffigur yr RCA.

Ym mis Mehefin 2022, newidiodd rheoliadau adeiladu i’w gwneud hi’n ofynnol cael bwlch wal o 125 milimedr. Ceir cyfnod pontio, felly ni fydd hyn yn berthnasol i eiddo lle cafodd y cais cynllunio ei wneud cyn Mehefin 2022 a lle dechreuodd y gwaith cyn Mehefin 2023.

Arwynebedd Llawr Effeithiol (EFA)

EFA yw arwynebedd ystafelloedd y gellir ei ddefnyddio o fewn annedd, wedi’i fesur hyd at wyneb mewnol waliau’r ystafelloedd hynny.  Defnyddir y sail hon o fesur ar gyfer fflatiau.

Mae hyn yn eithrio’r canlynol:

  • cynteddau a phennau grisiau

  • cypyrddau mewn arwynebeddau sydd wedi’u heithrio

  • colofnau, strwythur gynhaliol ‘pier’ (piers) neu frestyn simneiai

  • ystafelloedd ymolchi, toiledau a chawodydd

  • pob arwynebedd sydd ag uchder sy’n llai na 1.5 medr

  • arwynebeddau a gwmpesir gan waliau styd a phartisiynau

Mae EFA yn cynnwys yr arwynebedd a feddiannir gan unedau neu gypyrddau gosod mewn ystafelloedd mesuredig. Mae hefyd yn cynnwys arwynebedd storfeydd a chypyrddau mawr y mae modd cerdded i mewn iddynt, a’u cyrraedd o’r tu mewn i’r annedd.

EFA o’i chymharu ag Arwynebedd Mewnol Net (NIA)

Arwynebedd Mewnol Net (NIA) yw’r arwynebedd y gellir ei ddefnyddio o fewn adeilad, wedi’i fesur hyd at wyneb mewnol waliau perimedr ar bob llawr. Mae’n cynnwys arwynebeddau sydd wedi’u hamgáu a’u croesi gan bartisiynau an-strwythurol, megis coridorau. Mae coridorau ond yn cael eu heithrio os ydynt yn cael eu defnyddio’n gymunedol.

Mae EFA yn cael ei gydnabod yn y Cod Ymarfer Mesur gan RICS.

Mae ychydig o awdurdodau bilio yn Lloegr lle nad yw fflatiau yn cael eu mesur yn ôl EFA. Nid yw’n effeithio ar sut rydym yn asesu eich band.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Mehefin 2026 Show all updates
  1. Added translation

  2. Information on how Houses in Multiple Occupation (HMOs) are valued for Council Tax bands has been updated in the section 'Houses in Multiple Occupation (HMOs)'.

  3. Corrected formatting issues, broken links and reorganised bullet points.

  4. Updating Welsh Translation. Section on making sure the property is in the right band to account for the rule that annexes in Wales are entered into the list from the date of list update, implemented on 8 November 2023.

  5. 'How properties are measured for Council Tax purposes' has been added.

  6. We have amended the guidance to include changes to English HMOs

  7. The contents on this page were updated in all sections.

  8. Added translation

  9. Added Welsh translation.

  10. Consolidation of information of two pages ('Banding of houses in multi occupation (HMOs)' and 'Council Tax bands and annexes')

  11. First published.

Argraffu'r dudalen hon