Darganfyddwch am arian sydd cael ei dynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol
Help i ddeall dyledion a didyniadau a gymerir o daliadau Credyd Cynhwysol a gyda phwy i gysylltu am eich dyledion a'ch didyniadau os ydych yn cael trafferthion ariannol.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Gall Credyd Cynhwysol dynnu arian o’ch taliad os oes gennych ddyled. Fe welwch hyn ar eich datganiad Credyd Cynhwysol.
I ddod o hyd i’ch datganiad, mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein ac ewch i ‘Taliadau’. Ar eich datganiad, edrychwch am ‘Beth rydym yn ei dynnu i ffwrdd - didyniadau’.
Gyda phwy i gysylltu am arian a dynnwyd o’ch taliad
Mae hyn yn dibynnu ar gyfer beth mae’r didyniad. Darganfyddwch â phwy i gysylltu.
Mathau o ddyledion
Taliadau ymlaen llaw
Dyma eich ad-daliad o daliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol.
Gordaliad Credyd Cynhwysol
Dyma pryd y talwyd gormod o Gredyd Cynhwysol i chi. I ddarganfod mwy am eich gordaliad, mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein. Ewch i’ch dyddlyfr a chwiliwch am neges am ordaliadau.
Os ydych yn credu eich bod wedi cael gordaliad ond heb glywed gan Gredyd Cynhwysol, mae angen i chi gysylltu â Chredyd Cynhwysol i ddweud wrthynt am hyn.
Gordaliad credyd treth a budd-daliadau
Mae hyn pan rydych wedi cael eich talu gormod o unrhyw fudd-dal oni bai am Gredyd Cynhwysol. Mae’n cynnwys gordaliadau Credyd Treth a Budd-dal Tai.
Gall cosb gael ei ychwanegu i ordaliad budd-dal.
Os ydych wedi cael eich gordalu, yna bydd gennych neges dyddlyfr neu lythyr yn egluro ar gyfer beth mae’r gordaliad.
Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich gordalu ond nad ydych wedi clywed gan DWP, mae’n rhaid i chi roi gwybod amdano ar unwaith. Os nad ydych yn gwneud hyn efallai y gallech gael eich erlyn neu orfod talu cosb.
Taliad caledi adferiadwy
Gallwch wneud cais am daliad caledi os yw eich taliad Credyd Cynhwysol wedi cael ei leihau oherwydd cosb twyll neu sancsiwn.
Byddwch angen talu hwn yn ôl unwaith y bydd eich cosb twyll neu sancsiwn wedi dod i ben. Pan fydd y swm rydych yn ei dalu’n ôl wedi cael ei gytuno arno ni ellir ei newid.
Ad-daliad benthyciad cyllidebu a benthyciad argyfwng
Hwn yw eich ad-daliad o fenthyciad cyllidebu neu fenthyciad argyfwng. Mae faint y byddwch yn ei dalu’n ôl yn cael ei gytuno arno pan fyddwch yn derbyn y benthyciad.
Dyledion eraill sydd arnoch – ‘didyniadau trydydd parti’
Didyniadau trydydd parti yw pan fydd arian yn cael ei dynnu o’ch Credyd Cynhwysol i dalu eich dyledion am bethau fel:
- cyfleustodau, fel trydan, nwy a dŵr
- Treth Cyngor
- cynhaliaeth plant
- rhent
- taliadau gwasanaeth
- dirwyon llys
Gellir ond cymryd 3 didyniad trydydd parti ar unrhyw adeg.
Bydd Credyd Cynhwysol yn anfon neges i chi yn eich dyddlyfr ar-lein pan fydd didyniad trydydd parti yn dechrau.
Didyniadau ar gyfer ôl-ddyledion rhent a thâl gwasanaeth
Gall eich landlord ofyn am arian o’ch taliad Credyd Cynhwysol (‘didyniad’) os oes arnoch ddyledion rhent neu dâl gwasanaeth iddynt. Rydym yn galw’r ddyled hon yn ‘ôl-ddyledion’.
Mae rhent a thaliadau gwasanaeth sy’n ddyledus gennych yn dod yn ôl-ddyledion pan fyddant heb eu talu y diwrnod ar ôl i’ch cytundeb tenantiaeth ddweud eu bod yn ddyledus.
Bydd Credyd Cynhwysol yn dweud wrthych os yw’ch landlord yn gwneud y cais hwn.
Mae gennych 7 diwrnod i fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol a dweud wrthym os ydych yn gwrthwynebu’r didyniad. Os nad ydych yn ymateb, gellir gwneud y didyniad beth bynnag.
Gallwch wrthwynebu os oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol. Rydych:
- mewn anghydfod gyda’ch landlord am atgyweiriadau
- mae’r swm sy’n ddyledus yn llai swm o ôl-ddyledion rhent a thâl gwasanaeth penodol
- nid oes arnooch unrhyw ôl-ddyledion i’ch landlord
Rydym ond yn gwneud didyniadau ar gyfer ôl-ddyledion ar eich cartref presennol. Dywedwch wrthym os ydych wedi symud, neu os ydych yn bwriadu symud.
Yn dilyn gwrthwynebiad, mae gennych 7 diwrnod arall i ddarparu tystiolaeth gywir. Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth i benderfynu a ddylid gwneud y didyniad.
Bydd eich taliadau yn stopio nes bod y penderfyniad wedi’i wneud.
Swm yr ôl-ddyledion rhent a thâl gwasanaeth
Gallwch wrthwynebu’r didyniad os yw’ch ôl-ddyledion yn gyfanswm o lai na 2 fis o rent a thaliadau gwasanaeth (neu dim ond rhent, os nad oes gan eich cartref dâl gwasanaeth).
Gall yr ôl-ddyledion fod o:
- rent
- taliadau gwasanaeth
- rent a thaliadau gwasanaeth
Gallwch fod mewn ôl-ddyledion o beidio â thalu’ch landlord o gwbl, neu o dalu llai nag sy’n ddyledus gennych dros amser.
Nid yw arian arall sy’n ddyledus i’ch landlord yn cyfrif tuag at y cyfanswm.
Tystiolaeth ar gyfer ôl-ddyledion rhent a thâl gwasanaeth
Rhaid i chi ddangos cofnod cyfredol o daliadau i’r landlord. Mae hyn yn cynnwys:
- llyfrau rhent
- datganiadau rhent a thâl gwasanaeth neu anfonebau
Nid ydym fel arfer yn derbyn cyfriflenni banc fel tystiolaeth. Efallai y byddwn yn eu derbyn os nad oes gennych unrhyw ôl-ddyledion neu os oes angen i chi brofi bod cofnodion eich landlord yn anghywir.
Tystiolaeth ar gyfer anghydfodau cyflwr gwael
Byddwn yn derbyn uwchlwythiadau o negeseuon e-bost, dogfennau a llythyrau (copïau electronig neu ffotograffau o fersiynau papur).
Gallai’r rhain fod gan, er enghraifft
- y landlord
- y cyngor lleol
- cyfreithiwr
- sefydliad cymorth neu gyngo
Ni fyddwn yn derbyn sgrinluniau neu lawrlwythiadau o negeseuon testun neu negeseua sydyn (fel WhatsApp).
Ar ôl i chi ddarparu tystiolaeth
Bydd asiant Credyd Cynhwysol yn penderfynu a ddylid cymhwyso’r didyniad.
Byddwn yn anfon neges yn eich dyddlyfr ar-lein am y penderfyniad.
Faint fydd yn cael ei gymryd o’ch taliad Credyd Cynhwysol
Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio allan y swm sy’n cael ei gymryd o’ch taliad ar ddiwedd pob cyfnod asesu (un mis calender).
Gallai’r swm sy’n cael ei dynnu i ffwrdd newid os yw eich:
- enillion yn newid
- budd-daliadau eraill yn newid
Nid yw’n bosib dweud wrthych faint fydd yn cael ei dynnu i ffwrdd nes bod y cyfrifiad wedi cymryd lle.
Fel arfer y mwyaf y gellir ei gymryd o’ch taliad i ad-dalu dyled yw 15% o’ch lwfans safonol o Gredyd Cynhwysol. Dyma’r swm sylfaenol mae gennych hawl iddo, cyn i arian am bethau fel gofal plant a chostau tai gael eu hychwanegu.
Efallai y cewch fwy na 15% o’ch lwfans safonol os ydych yn talu ‘didyniad dewis olaf’. Mae ‘didyniad dewis olaf’ yn eich helpu i fodloni eich rhwymedigaethau cynhaliaeth plant ac yn eich atal rhag cael eich troi allan neu gael eich cyfleustodau wedi eu torri i ffwrdd. Mae’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’r person neu sefydliad mae arnoch arian iddynt.
Beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth i ad-dalu eich dyled
Os ydych yn cael trafferth, gallwch ofyn am benderfyniad caledi ariannol i leihau’r swm o ddyled budd-dal rydych yn ei dalu.
Efallai y cewch eich ystyried am hyn os oes gennych arian yn cael ei gymryd o’ch Credyd Cynhwysol ar gyfer:
- dyled budd-dal
- ad-daliad Benthyciad Trefnu neu Fenthyciad Argyfwng
- taliadau ymlaen llaw
- ôl-ddyledion rhent (os ydynt yn cael eu cymryd ar gyfradd uwch na 10% or lwfans safonol)
Os yw penderfyniad yn cael ei wneud i leihau’r swm rydych yn ei dalu, bydd yn cael ei gymhwyso’n awtomatig i’ch cyfnod asesu Credyd Cynhwysol nesaf.
Darganfyddwch pwy i gysylltu â am arian sy’n cael ei dynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol.
Cyngor ar arian a dyled
Gallwch gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol a sefydliadau eraill.
Updates to this page
-
Added new information to the 'Other debts you owe – ‘third party deductions’' section. Universal Credit (UC) claimants can now object to landlords' requests to recover rent and service charge arrears from their UC payments.
-
Clarified that 'last resort deductions' also help claimants to meet their child maintenance obligations.
-
The most that can normally be taken from your Universal Credit payment to repay a debt has changed from 25% to 15% of your Universal Credit standard allowance.
-
The most that can normally be taken from your Universal Credit payment to repay a debt has changed from 30% to 25% of your Universal Credit Standard Allowance.
-
First published.