Taliad Tanwydd Gaeaf
Rhoi gwybod am newid
Cysylltwch â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn gymwys am Daliad Tanwydd Gaeaf ac rydych:
- angen rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
- angen newid eich cyfeiriad neu fanylion personol
Rhowch wybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau cyn gynted ag y bo modd
- er enghraifft, os byddwch yn symud tŷ neu yn mynd fewn i gartref gofal. Gall y rhain effeithio faint o Daliad Tanwydd Gaeaf rydych yn ei gael.
Cysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf
Pan fyddwch yn cysylltu â’r ganolfan daliadau, byddwch angen dweud wrthynt eich manylion personol fel:
- eich enw
- eich cyfeiriad
- eich dyddiad geni
- eich rhif Yswiriant Gwladol
Gallwch naill ai ffonio’r llinell gymorth neu anfon llythyr trwy’r post.
Ffurflen ymholiadau e-bost
Ffôn: 0800 731 0160
Relay UK
(os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 ac yna 0800 731 0160
Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych yn denfyddio cyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR
Os ydych wedi cael eich gordalu
Efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu’r arian os:
- nad ydych yn rhoi gwybod am newid ar unwaith
- rydych wedi rhoi gwybodaeth anghywir
- cawsoch eich gordalu mewn camgymeriad
Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.