Defnyddio eich GOV.UK One Login
Printable version
1. Mewngofnodi i'ch GOV.UK One Login
Ar hyn o bryd gallwch ond ei ddefnyddio i gael mynediad i rai gwasanaethau’r llywodraeth. Gweler y gwasanaethau y gallwch eu defnyddio gyda GOV.UK One Login.
Nid yw’n gweithio gyda holl gyfrifon a gwasanaethau’r llywodraeth eto (er enghraifft Credyd Cynhwysol).
Dros amser, bydd GOV.UK One Login yn disodli’r holl ffyrdd eraill o fewngofnodi i wasanaethau ar GOV.UK, gan gynnwys Porth y Llywodraeth.
Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Saesneg (English) hefyd.
Os ydych angen GOV.UK One Login i ddefnyddio gwasanaeth, ac nad oes gennych un yn barod, byddwch yn gallu creu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwnnw am y tro cyntaf.
Mewngofnodwch i:
- newid eich manylion mewngofnodi (cyfeiriad e-bost, cyfrinair neu sut rydych yn cael codau diogelwch)
- gweld a chael mynediad at y gwasanaethau rydych wedi’u defnyddio gyda’ch GOV.UK One Login
- dileu eich GOV.UK One Login
Cael help i ddefnyddio GOV.UK One Login
Gallwch gysylltu â’r tîm GOV.UK One Login i gael help, rhoi gwybod am broblem neu roi adborth.
Gallwch hefyd ofyn i rywun rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt i’ch helpu os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio GOV.UK One Login ar eich pen eich hun. Darganfyddwch beth gall ac na all y person rydych yn gofyn iddynt eich helpu gyda.
Sut mae GOV.UK One Login yn defnyddio’ch gwybodaeth
I gael gwybod sut mae eich gwybodaeth yn cael ei storio a’i defnyddio pan fyddwch yn defnyddio GOV.UK One Login, gweler hysbysiad preifatrwydd GOV.UK One Login.
2. Profi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login
Bydd angen i chi brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login i ddefnyddio rhai gwasanaethau. Pan fyddwch yn gwneud hyn, bydd eich gwybodaeth One Login yn cael ei storio’n awtomatig i’ch GOV.UK One Login.
Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi brofi eich hunaniaeth eto y tro nesaf y bydd angen i wasanaeth wirio pwy ydych chi.
Mae yna 3 ffordd i brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login:
- gyda’r ap GOV.UK One Login
- drwy ateb cwestiynau diogelwch ar-lein
- mewn Swyddfa Bost
Bydd y dull a ddefnyddiwch yn dibynnu ar eich dyfais, os oes gennych ID gyda llun a pha fath o ID gyda llun sydd gennych.
Gyda’r ap GOV.UK One Login
Byddwch angen mynediad i ffôn gyda chamera sy’n gweithio.
Os ydych yn defnyddio iPhone, rhaid iddo fod yn:
- iPhone 8 neu fwy newydd
- rhedeg iOS 16.7 neu uwch
Ar gyfer ffôn Android (er enghraifft, Samsung neu Google Pixel), rhaid iddo fod yn rhedeg Android 10 neu uwch.
Byddwch yn cael arweiniad ar sut i lawrlwytho a defnyddio’r ap.
Y mathau o ID gyda llun y gallwch eu ddefnyddio yn yr ap
Byddwch angen un o’r mathau canlynol o ID gyda llun:
- trwydded yrru cerdyn llun y DU
- pasbort y DU
- pasbort o’r tu allan i’r DU gyda sglodyn biometrig
- trwydded breswylio biometreg y DU (BRP)
- cerdyn preswylio biometreg y DU (BRC)
- trwydded Gweithwyr Ffiniol y DU (FWP)
Os yw’ch ID gyda llun wedi dod i ben
Ni allwch ddefnyddio pasbort sydd wedi dod i ben i brofi eich hunaniaeth gyda’r ap.
Gallwch ddefnyddio trwydded yrru sydd wedi dod i ben os daeth i ben yn y 90 diwrnod diwethaf a cafodd ei chyhoeddi gan DVLA.
Gallwch ddefnyddio BRP, BRC neu FWP sydd wedi dod i ben os yw wedi dod i ben yn ystod y 24 mis diwethaf.
Trwy ateb cwestiynau diogelwch ar-lein
Bydd yn rhaid i chi ateb rhai cwestiynau diogelwch am naill ai:
- pethau ariannol - fel eich contract ffôn symudol, ac unrhyw gyfrifon banc, cardiau credyd, benthyciadau neu forgeisi a allai fod gennych
- eich Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), os ydych yn ei gael
Mae angen i chi hefyd roi manylion o un o’r canlynol:
- pasbort y DU
- trwydded yrru cerdyn llun y DU
- cyfrif cyfredol gyda banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU
Mewn Swyddfa Bost
Gofynir i chi:
- roi manylion o’ch ID gyda llun ar GOV.UK
- fynd i Swyddfa Bost sy’n cynnig ‘dilysu mewn cangen’, lle byddant yn sganio’ch ID gyda llun ac yn tynnu llun ohonoch chi
Byddwch yn cael e-bost am ganlyniad eich gwiriad hunaniaeth - fel arfer o fewn diwrnod o fynd i Swyddfa Bost.
Byddwch angen un o’r mathau canlynol o ID gyda llun:
- pasbort y DU
- pasbort o’r tu allan i’r DU
- trwydded yrru cerdyn llun y DU
- trwydded yrru cerdyn llun yr Undeb Ewropeaidd (UE)
- cerdyn llun hunaniaeth genedlaethol o wlad yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein