Skip to main content
Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cofrestr Ymrwymiadau

Mae’r cyngor hwn yn esbonio diben a defnydd Cofrestr Ymrwymiadau yn y broses gynllunio ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau) o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sylwch nad yw ein tudalennau cyngor Cymraeg yn adlewyrchu diweddariadau a wnaed i’n tudalennau Saesneg ym mis Gorffennaf a mis Awst 2026 ar hyn o bryd. Mae ein tudalennau Saesneg yn cynnwys diweddariadau sy’n cyfateb ein cyngor i newidiadau i brosesau a gyflwynwyd gan Ddeddf Cynllunio a Seilwaith 2025. Rydym wrthi’n cyfieithu’r diweddariadau ar gyfer ein tudalennau Cymraeg a byddwn yn eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau’r cyhoedd a phartïon eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).

Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth.

Dylid darllen y cyngor hwn ynghyd â nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor ar y Broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol a chanllawiau’r llywodraeth ar broses y Ddeddf Cynllunio.

Beth yw Cofrestr Ymrwymiadau?

O gwmpasu Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol (AEA) a llunio dogfennau cais yn ystod cam cyn-ymgeisio’r broses NSIP hyd at ddiwedd yr archwiliad, mae’n debygol y bydd angen ymrwymiadau i nifer o fesurau i wneud yn siŵr y bydd amcanion dylunio da yn cael eu sicrhau a’u gweithredu. Diben hyn yw sicrhau bod effeithiau amgylcheddol posibl sy’n deillio o’r prosiect yn cael eu lliniaru cyn belled â phosibl ac yn unol â’r hierarchaeth liniaru.

Dylai’r ymrwymiadau hyn gael eu cofnodi ar Gofrestr Ymrwymiadau yn unol â’r templed a ddarperir ar ddiwedd y nodyn cyngor hwn.

Mae’r pwyntiau bwled canlynol yn cynnwys enghreifftiau o’r mathau o fesurau y gellid ymrwymo iddynt ar yr adegau cwmpasu a chyflwyno yn y Gofrestr Ymrwymiadau.

Cwmpasu:  

  • sŵn – mesurau arfer gorau i reoli allyriadau sŵn, gan gynnwys cyfeiriad at drothwyon priodol ac yn unol â chanllawiau perthnasol
  • goleuadau – defnyddio ffitiadau cyfeiriadol penodol i leihau gollyngiadau golau tuag allan a llacharedd gymaint â phosibl (er enghraifft, cyflau sy’n cyfeirio golau tuag i lawr)
  • gwastraff – Cynllun Rheoli Gwastraff drafft i’w baratoi gan y contractwr, a fydd yn nodi’r ffrydiau gwastraff a fyddai’n cael eu monitro ac yn gosod targedau o ran y gwastraff a gynhyrchir, gan gynnwys ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau. Bydd yn cynnwys mesurau i sicrhau y cydymffurfir â’r targedau hyn a’r hierarchaeth wastraff drwy gydol pob cam o’r broses
  • darparu dogfennau rheoli drafft yn rhan o’r cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO), fel Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu a Chynllun Rheoli Traffig Adeiladu

Cyflwyno:

  • mesurau arfer gorau i reoli llwch, allyriadau aer, allyriadau i ddŵr a symudiad gwaddodion, symudiad halogyddion, goleuadau, gwastraff i’w cynnwys mewn dogfennau rheoli perthnasol a enwyd, gan gynnwys cyfeiriad at drothwyon priodol ac yn unol â chanllawiau perthnasol
  • nodi maint a lleoliadau lleiniau clustogi ar gyfer cynefinoedd, adnoddau dŵr, unedau preswyl cyhoeddus, derbynyddion treftadaeth, derbynyddion trafnidiaeth i’w cynnwys mewn dogfennau rheoli perthnasol a enwyd
  • nodi’r math o fesurau sgrinio (sŵn, tirwedd a gweledol, ansawdd aer), eu maint a’u lleoliad
  • nifer, math, llwybr a lleoliadau mynediad ar gyfer traffig a thrafnidiaeth
  • nodi egwyddorion dylunio da, fel cyflawni budd net bioamrywiaeth >10% gan ddefnyddio’r Metrig Budd Net Bioamrywiaeth priodol, plannu bylchau mewn gwrychoedd a llinellau coed i leihau darnio yn unol â’r cynllun rheoli tirwedd amlinellol, nodi graddiannau argloddiau i leihau effeithiau ar dderbynyddion tirwedd a gweledol gymaint â phosibl

Diffinnir ymrwymiadau fel mesurau ymgorfforedig (mesurau sy’n rhan annatod o ddyluniad y prosiect) a mesurau ychwanegol (mesurau nad ydynt yn rhan annatod o’r prosiect) a monitro a gynigir gan yr ymgeisydd i naill ai osgoi effeithiau niweidiol neu eu lleihau gymaint â phosibl, neu ddarparu canlyniadau buddiol er mwyn sicrhau dyluniad da.  

Pan amlinellir mesurau fel cydymffurfio ag egwyddorion, fe ddylai fod ymrwymiad hefyd i sut y bydd gwaith monitro, gwerthuso ac addasu’n cael ei wneud i sicrhau y cyflawnir yr egwyddorion yn ymarferol.

Diben a defnydd Cofrestr Ymrwymiadau

Diben Cofrestr Ymrwymiadau yw olrhain ymrwymiadau a wnaed gan yr ymgeisydd drwy gydol proses gynllunio NSIP, yn ogystal ag ar ôl y penderfyniad, gan gynnwys dylunio manwl, caffael, gweithredu a datgomisiynu. Er mwyn cynyddu buddion y Gofrestr Ymrwymiadau i’r eithaf, mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n argymell bod fersiynau o’r gofrestr yn cael eu cytuno gyda rhanddeiliaid perthnasol a’u cyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio ar adeg cerrig milltir canlynol y broses gynllunio:

  • Cwmpasu AEA – cyflwynir y fersiwn gyntaf gyda chais cwmpasu sy’n amlinellu lle mae ymgeiswyr yn dibynnu ar ymrwymiad fel sail i hepgor materion neu fireinio cwmpas yr asesiad
  • Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol
  • adolygiad dogfennau drafft
  • cyflwyno cais DCO
  • unrhyw ddiweddariadau fel sy’n ofynnol gan Awdurdod Archwilio o fewn archwiliad

Mae darparu fersiwn gyntaf ar yr adeg gwmpasu yn rhoi syniad clir o ble y bydd mesurau y dibynnir arnynt i hepgor materion yn cael eu sicrhau trwy’r cais. Dylai’r fersiwn derfynol a gyflwynir gyda’r cais gael ei darparu fel atodiad ar wahân i’r Datganiad Amgylcheddol. Diben hyn yw lleihau nifer y prif faterion ar ddechrau’r archwiliad ac mae’n rhoi eglurhad i’r Awdurdod Archwilio a Phartïon â Buddiant ynghylch:

  • p’un a yw’r ymrwymiadau a wnaed ar yr adeg cwmpasu AEA yn parhau ar adeg y cais DCO, ac felly p’un a yw cwmpas yr AEA yn ddilys o hyd
  • pa ymrwymiadau a gynigir i osgoi/lleihau effeithiau niweidiol
  • pa ymrwymiadau a gynigir i gefnogi cyflawni dylunio da, gan gynnwys buddion amgylcheddol neu fuddion eraill
  • sut mae pob ymrwymiad yn cael ei sicrhau trwy’r DCO
  • sut y bydd pob ymrwymiad yn cael ei gyflawni a’i fonitro (lle y bo’n briodol) trwy’r DCO
  • unrhyw newidiadau i ymrwymiadau a wnaed yn ystod y cam cyn-ymgeisio, a’r rhesymau dros unrhyw newidiadau a wnaed
  • y mewnbwn a allai fod yn ofynnol gan bartïon â buddiant yn yr archwiliad i ystyried p’un a yw ymrwymiadau penodol yn ddigonol
  • y mewnbwn a allai fod yn ofynnol gan bartïon â buddiant ar ôl caniatáu’r DCO i sicrhau bod ymrwymiadau’n cael eu datblygu a’u gweithredu’n llawn

Dylai’r Gofrestr Ymrwymiadau fod yn ddogfen ‘fyw’ sy’n cael ei diweddaru drwy gydol y broses gynllunio NSIP a bydd yn sicrhau bod yr holl ymrwymiadau’n gyfredol ar yr adeg pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu ar y cais NSIP. Os caniateir y DCO, dylai’r Gofrestr Ymrwymiadau gael ei diweddaru eto i gynnwys unrhyw ymrwymiadau ychwanegol neu a addaswyd a osodwyd yn rhan o’r penderfyniad. Yna, gellir ei defnyddio yn ystod y cam cydsyniad ôl-DCO fel offeryn i ddangos cydymffurfedd â’r ymrwymiadau.

Templed Cofrestr Ymrwymiadau

Er mwyn hwyluso cyfeirio ac ystyried yn ystod proses archwilio’r DCO, mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n cynghori y dylai’r brif ddogfen i olrhain rhwymedigaethau ac ymrwymiadau a wnaed gan yr ymgeisydd gael ei henwi’n ‘Gofrestr Ymrwymiadau’. Cynghorir bod y gofrestr ymrwymiadau’n cynnwys, o leiaf, y wybodaeth a amlinellir yn y templed Cofrestr Ymrwymiadau safonedig a ddarperir ar ddiwedd y dudalen gyngor hon.

Dylai’r wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y Gofrestr Ymrwymiadau gael ei llywio gan ystyried Tudalen Cyngor Technegol penodol i ddatblygiad yr Arolygiaeth Gynllunio a’r Cyngor ar y Broses AEA.   (MS Word Document, 43.2 KB)

Mae’r templed Cofrestr Ymrwymiadau yn amlygu pob ymrwymiad unigol ac yn amlinellu’r wybodaeth gyfatebol ganlynol:

  • Cyfeirnod yr Ymrwymiad – cyfeirnod unigol sy’n amlygu pob ymrwymiad, fel y gellir cyfeirio ato’n rhwydd yn ystod proses archwilio’r DCO
  • Ymrwymiad – disgrifiad o’r ymrwymiad ei hun, fel y dyfynnwyd yn y DCO a/neu ddogfen ategol berthnasol, er enghraifft, y bennod berthnasol yn y Datganiad Amgylcheddol
  • Monitro – p’un a gynigir monitro ac, os felly, disgrifiad o’r mesurau monitro fel y’u dyfynnir yn y DCO a/neu ddogfen ategol berthnasol
  • Cam y Prosiect – mae’n nodi cam y prosiect y mae’r ymrwymiad yn berthnasol iddo. Argymhellir bod ymrwymiadau sy’n berthnasol i bob cam o’r prosiect yn cael eu trefnu gyda’i gilydd yn y Gofrestr er mwyn hwyluso dehongli
  • Agwedd berthnasol / mater perthnasol – mae’n amlygu’r mater technegol y mae’r ymrwymiad yn ymwneud ag ef, sy’n hwyluso cyfeirio gan randdeiliaid perthnasol yn ystod proses archwilio’r DCO ac ar ôl penderfyniad
  • Dull o Sicrhau Ymrwymiad – mae’n amlinellu’r dogfennau rheoli perthnasol a’r rhan berthnasol neu’r gofyniad perthnasol o’r DCO neu ddull arall lle y sicrheir yr ymrwymiad, a’r parti neu’r partïon y mae’n ofynnol iddynt gytuno ar y dogfennau rheoli perthnasol
  • Cyflawni – mae’n amlygu ar ba gam y dylid cyflawni’r ymrwymiad a chan bwy
  • Gwybodaeth Ategol Gysylltiedig neu ddolenni i ble i’w chael – mae’n amlygu’r ddogfen ategol berthnasol sy’n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am bob ymrwymiad
  • Dyddiad a Manylion Cydymffurfio – mae’n nodi’r dyddiad pryd y cydymffurfiwyd â’r ymrwymiad yn ystod y cam ôl-ganiatâd, ochr yn ochr ag unrhyw fanylion fel cyfeiriadau a dolenni i gynlluniau manwl, pa gorff a roddodd y caniatâd, a gofynion ychwanegol ar gyfer archwilio a monitro

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Gorffennaf 2026 Show all updates
  1. Welsh note added

  2. Preamble updated to remove reference to publication of advice page(s) under s51 of the Planning Act 2008.

  3. Added translation

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon