Cerbydau awtomeiddiedig: datganiad o egwyddorion diogelwch
Consultation description
Rydym yn ceisio barn ar y datganiad drafft o egwyddorion diogelwch ar gyfer cerbydau awtomeiddiedig.
Mae’r datganiad o egwyddorion diogelwch yn ofynnol o dan adran 2 o Ddeddf Cerbydau Awtomeiddiedig 2024. Mae’n rhan o’r fframwaith diogelwch a gynlluniwyd i sicrhau bod cerbydau awtomeiddiedig yn:
- ddiogel i’w cyflwyno
- yn aros yn ddiogel ar ôl eu cyflwyno
Bydd y datganiad statudol o egwyddorion diogelwch yn tywys yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth mewn penderfyniadau ynghylch a ellir defnyddio cerbyd awtomeiddiedig ar ffyrdd y DU. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer monitro parhaus cerbydau hunan-yrru awdurdodedig.
Bydd yn darparu canllawiau ar yr ymddygiadau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn disgwyl eu gweld gan gerbydau wrth fodloni’r prawf hunan-yrru o deithio’n ddiogel ac yn awtomataidd.
Documents
Ways to respond
or
Email to:
Write to:
CCAV, 3rd Floor Great Minster House
33 Horseferry Road
Llundain, SW1P 4DR