Ein llywodraethiant
Prif fwrdd penderfyniadau a phwyllgorau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG)
Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG)
Mae’r bwrdd yn cyfarfod bob 2 fis ac yn darparu arweiniad a chyfeiriad strategol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae hefyd yn monitro perfformiad ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein blaenoriaethau a’n hamcanion.
Aelodau Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae aelodau’r Bwrdd yn gwneud penderfyniadau fel grŵp, nid fel cynrychiolwyr unrhyw faes busnes. Yn ogystal â’r aelodau ffurfiol, mae mynychwyr sefydlog yn dod i bob cyfarfod.
Dyma’r aelodau presennol:
-
Alison Sansome, Cadeirydd Anweithredol i’r Bwrdd
-
Ruth Duffin, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr
-
Martyn Burke, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd
-
Veronika Neyer, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd
-
Greig Early, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd
-
Adrian Hannell, Cyfarwyddwr Rheolaeth Ariannol, Rheoli, Risg a Llywodraethu, y Weinyddiaeth Gyfiawnder (ailstrwythuro’r Weinyddiaeth Gyfiawnder)
Mae’r Pwyllgor Gweithredol ehangach hefyd yn mynychu’r Bwrdd a chynrychiolwyr polisi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, er nad ydynt yn aelodau ffurfiol.
Pwyllgor Gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn gwneud penderfyniadau yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac yn adrodd arnynt. Mae’n gyfrifol am reoli Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ddydd i ddydd ac mae’n goruchwylio ein darpariaeth weithredol a blaenoriaethu adnoddau. Mae’n cyfarfod unwaith y mis.
Aelodau Pwyllgor Gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Dyma’r aelodau presennol:
-
Ruth Duffin, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (cadeirydd)
-
Peter Boyce, Dirprwy Gyfarwyddwr Sicrwydd Gwybodaeth a Chyfreithiol
-
Sara O’Byrne, Prif Swyddog Gweithredu
-
Emma Sharp, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog
-
Lee Hiorns, Cyfarwyddwr Trawsnewid
-
Maxine Paintain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth Gwasanaethau Cyfiawnder a Phroffesiynau
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn rhoi barn annibynnol i’r Prif Weithredwr o ddulliau llywodraethu, rheoli risg a sicrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae’r pwyllgor yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn.
Aelodau Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Dyma’r aelodau presennol:
-
Martyn Burke, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd (cadeirydd)
-
Veronika Neyer, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd
-
Helen King, Aelod Annibynnol o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Yn ychwanegol i’r aelodau ffurfiol, mae’r unigolion eraill sy’n mynychu’n rheolaidd yn cynnwys cynrychiolydd archwilio mewnol a chynrychiolwyr o’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, yn ogystal â Gwarcheidwad Cyhoeddus, Prif Weithredwr a Dirprwy Gyfarwyddwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a chynrychiolwyr cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder.