Skip to main content

Cael budd-daliadau os ydych yn nesáu at ddiwedd oes

Printable version

1. Hawlio budd-daliadau o dan reolau arbennig

Os ydych chi’n agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch chi’n gallu cael rhai budd-daliadau yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.

Weithiau gelwir hyn yn ‘reolau arbennig ar gyfer diwedd oes’.

Mae gwahanol reolau os ydych chi’n byw yn yr Alban.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Dysgwch sut i hawlio o dan reolau arbennig os:

Gwiriwch a ydych chi’n gymwys i hawlio o dan reolau arbennig

Rydych chi’n gymwys ar gyfer y rheolau arbennig os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych chi salwch sy’n gwaethygu dros amser
  • mae eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych chi 12 mis neu lai i fyw

Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am ba mor hir y gallech chi fyw, gallwch dal ofyn a fyddan nhw’n cefnogi eich cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.

Mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn cynnwys:

  • meddygon teulu
  • ymgynghorwyr
  • meddygon arbenigol
  • meddygon hosbis
  • nyrsys cofrestredig (er enghraifft, nyrsys Macmillan neu nyrsys arbenigol)

Gwiriwch pa fudd-daliadau rydych chi’n gymwys ar eu cyfer

Os ydych chi’n gwneud cais o dan y rheolau arbennig, rhaid i chi fod yn gymwys o hyd ar gyfer y budd-dal. Mae gan bob budd-dal feini prawf cymhwysedd gwahanol.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael mwy nag un budd-dal ar yr un pryd.

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch wneud cais am Lwfans Gweini.

Os ydych chi o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Y budd-daliadau y gallwch wneud cais amdanynt yw:

Os yw’ch plentyn yn agosáu at ddiwedd oes

Os oes gennych blentyn o dan 16 oed sy’n agosáu at ddiwedd oes, gallwch wneud cais am:

Sut i wneud cais o dan y rheolau arbennig

  1. Gwiriwch eich bod yn gymwys i gael y budd-dal.

  2. Gwnewch gais am y budd-dal, gan ddweud eich bod yn hawlio o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.

  3. Gofynnwch i’ch meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol lenwi ffurflen SR1 i gadarnhau eich bod yn agosáu at ddiwedd oes. Dim ond gweithwyr meddygol proffesiynol sy’n gallu cael mynediad i a chwblhau’r ffurflen.

  4. Mae eich gweithiwr meddygol proffesiynol fel arfer yn anfon y ffurflen ar eich rhan. Os ydyn nhw’n rhoi’r ffurflen wedi’i chwblhau i chi, mae cyfarwyddiadau ar y ffurflen ynghylch ei anfon trwy’r post.

Dim ond un ffurflen SR1 sydd ei hangen arnoch i’w llenwi, hyd yn oed os ydych chi’n gwneud cais am fwy nag un budd-dal.

Os ydych chi eisiau copi o’r ffurflen wedi’i chwblhau, gallwch ofyn i’ch gweithiwr meddygol proffesiynol neu ffonio’r ‘llinell ymholiadau PIP’.

Llinell ymholiadau PIP
Ffôn: 0800 121 4433
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 ac yna 0800 121 4433
Gwasanaeth ‘video relay’(Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych chi ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Cymorth a chefnogaeth

Os oes angen cefnogaeth arnoch ar ôl eich diagnosis neu gyda gwneud cais am fudd-daliadau, gallwch gael cymorth gan y sefydliadau canlynol:

2. Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau

Os ydych chi’n agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch chi’n gallu cael eich budd-daliadau ar gyfradd uwch.

Weithiau gelwir hyn yn ‘rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes’.

Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych chi 12 mis neu lai i fyw, bydd angen i chi:

  • rhoi gwybod am hyn fel newid yn eich amgylchiadau
  • gofyn i’ch gweithiwr meddygol proffesiynol lenwi ffurflen (a elwir yn SR1) i gadarnhau eich bod chi’n agosáu at ddiwedd oes

Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am ba mor hir y gallech chi fyw, gallwch dal ofyn a fyddant yn cefnogi eich cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Darganfyddwch sut i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau os ydych eisoes yn cael:

Cyflwyno ffurflen SR1

Gofynnwch i’ch meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol cyflwyno ffurflen SR1. Dim ond gweithwyr meddygol proffesiynol sy’n gallu cael mynediad i a chwblhau’r ffurflen. Os ydyn nhw’n rhoi’r ffurflen wedi’i chwblhau i chi, mae cyfarwyddiadau ar y ffurflen ynghylch ei anfon trwy’r post.

Dim ond un ffurflen SR1 sydd ei hangen arnoch i’w llenwi, hyd yn oed os ydych chi’n cael mwy nag un budd-dal.

Os ydych chi eisiau copi o’r ffurflen wedi’i chwblhau, gallwch ofyn i’ch gweithiwr meddygol proffesiynol neu ffonio’r ‘llinell ymholiadau PIP’.

Llinell ymholiadau PIP
Ffôn: 0800 121 4433
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 ac yna 0800 121 4433
Gwasanaeth ‘video relay’(Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych chi ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

3. Os ydych yn gofalu am rywun sy’n agosáu at ddiwedd oes

Gwiriwch a all y person rydych chi’n gofalu amdano gael rhai budd-daliadau’n gyflymach ac ar gyfradd uwch.

Efallai y bydd angen i chi ddod yn benodai i wneud cais ar ran rhywun arall.

Nid oes angen i chi ddod yn benodai os ydych chi’n gwneud cais am:

  • Lwfans Gweini
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant

Gwiriwch a allwch chi gael budd-daliadau gofalwyr

Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael cymorth ariannol os ydych chi’n gofalu am rywun sy’n agosáu at ddiwedd oes.

Os ydych chi’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos, gwiriwch a allwch chi gael Lwfans Gofalwr.

Os ydych chi’n gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos ac rydych chi o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gwiriwch a allwch chi gael Credyd Gofalwr.

Cymorth a chefnogaeth

Os oes angen cefnogaeth i ofalwyr arnoch neu gymorth gyda gwneud cais am fudd-daliadau, gallwch gael cymorth gan y sefydliadau canlynol: