Skip to main content

Gweithio i APHA

Manylion am weithio i APHA, ynghyd â swyddi gwag presennol a chyfleoedd i astudio, a gwybodaeth am sut i wneud cais.


Swyddi

Caiff ein swyddi gwag presennol eu hysbysebu ar Gwefan Swyddi’r Gwasanaeth Sifil.

Os ydych yn ystyried ymuno â thîm milfeddygol APHA, ewch i’n gwefan arbennig APHA Vets.

Ffyrdd o weithio

Mae Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Ein polisi yw rhoi cyfleoedd cyfartal mewn perthynas â chyflogaeth, datblygiad gyrfa a dyrchafiad.

Mae pob swydd yn yr asiantaeth yn agored i wladolion y DU, gwladolion y Gymanwlad, gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a rhai aelodau o’u teuluoedd nad ydynt yn wladolion o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, ac Unigolion dan Amddiffyniad Prydain.

Gallwch wneud cais am unrhyw swydd yn y Gwasanaeth Sifil ar yr amod eich bod yn wladolyn y DU neu os oes gennych genedligrwydd deuol gydag un rhan yn Brydeinig. At hynny, mae tua 75% o swyddi’r Gwasanaeth Sifil yn agored i ddinasyddion y Gymanwlad a gwladolion unrhyw aelod wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Cedwir y gweddill, sy’n gofyn am deyrngarwch arbennig i’r wladwriaeth, i wladolion y DU.

Cod y Gwasanaeth Sifil

Rydym yn dilyn egwyddorion Cod y Gwasanaeth Sifil, gan gynnwys y canlynol:

  • gweithio’n broffesiynol a chydag uniondeb
  • bod yn agored ac yn onest gyda’n cydweithwyr a’r cyhoedd
  • bod yn wrthrychol a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth fel bod y wyddoniaeth ddiweddaraf yn bwydo i mewn i’r gwaith o lunio polisïau
  • sicrhau bod ein gwaith yn ddiduedd

Lleoliadau astudiaethau allanol (EMS) ar gyfer myfyrwyr milfeddygol

Gall myfyrwyr milfeddygol sy’n astudio mewn prifysgol yn y DU, Prifysgol Szent Istvan yn Hwngari neu fyfyrwyr milfeddygol sy’n byw yn y DU ac yn astudio dramor, wneud cais am leoliadau EMS yn APHA.

Caiff ceisiadau eu derbyn gan fyfyrwyr yn ystod yr haf cyn dwy flynedd diwethaf eu hastudiaethau (4edd/5ed blwyddyn yn y rhan fwyaf o brifysgolion neu’r 5ed/6ed blwyddyn yng Nghaergrawnt). Mae mynychu wythnos polisi/arweinwyr milfeddygol Llundain/Weybridge EMS ar gyfer myfyrwyr yn y dyfodol ar sail fesul achos, yn unol â gofynion prifysgolion unigol.

Gweler rhagor o wybodaeth ar Cynnig i fyfyrwyr sy'n ceisio Astudiaethau Allanol (EMS) gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ODT, 34.2 KB)

Mae gan bob prifysgol gopïau o’r fersiwn ddiweddaraf o’r ffurflen gais. E-bostiwch geisiadau wedi’u cwblhau i EMS@apha.gov.uk. Gellir gofyn am ffurflenni drwy’r cyfeiriad e-bost hwn hefyd.

Caiff eich cais ei ystyried ar sail cymhwysedd ac argaeledd. Darllenwch yr holl wybodaeth ar y ffurflen gais cyn cyflwyno eich cais.

Gellir trafod trefniadau amgen gydag APHA ar sail fesul achos. Caiff ceisiadau eu hystyried a’u hasesu ar wahân yn ddibynnol ar yr amgylchiadau.

Rhaglen profiad gwaith rhithwir

Mae APHA yn cynnig rhaglen profiad gwaith ar-lein am ddim i fyfyrwyr 13 oed a throsodd. Mae’n cynnwys dros 10 awr o weithgareddau a gwybodaeth am yrfaoedd yn APHA. Gallwch gwblhau’r rhaglen ar-lein ar eich cyflymder eich hun gartref, yn yr ysgol neu yn y coleg.

Mae’r rhaglen yn cynnwys:

  • croeso gan ein Prif Swyddog Gweithredol
  • Cyflwyniad i APHA a’r amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael
  • gweithgareddau rhyngweithiol, cwisiau a hunanasesiadau
  • blogiau a fideos gan gydweithwyr APHA yn rhannu eu profiadau
  • senarios gweithle realistig sy’n seiliedig ar rolau yn APHA
  • canllawiau ar sgiliau allweddol yn y gweithle, gan gynnwys gwaith tîm a chyfathrebu
  • cyngor ymarferol ar wneud cais am swyddi, gan gynnwys proffiliau llwyddiant a chwestiynau cyfweliad sy’n seiliedig ar ymddygiad

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen yn derbyn tystysgrif a gydnabyddir gan Wasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau (UCAS), y gallant ei defnyddio i gefnogi ceisiadau yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i’r wefan hon Defra and APHA virtual work experience programme website.

Cyrsiau addysg bellach

Rydym yn gweithio ar y cyd â phrifysgolion i ddarparu cyrsiau addysg bellach, gan gynnwys y canlynol: