Skip to main content

Budd-dal Plant os bydd plentyn neu riant yn marw

Printable version

1. Os yw plentyn yn marw

Fel arfer, byddwch yn cael Budd-dal Plant am 8 wythnos ar ôl i’r plentyn farw. Os byddai’r plentyn wedi cael ei ben-blwydd yn 20 cyn diwedd yr 8 wythnos, byddai’r Budd-dal Plant yn dod i ben ar y dydd Llun canlynol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os yw babi newydd-anedig yn marw

Mae gennych hawl i hyd at 8 wythnos o Fudd-dal Plant os ydych yn hawlio o fewn 3 mis i’r farwolaeth.

Os bu farw’r plentyn cyn diwedd yr wythnos y cafodd ei eni, mae’r cyfnod o 8 wythnos yn dechrau ar y dydd Llun yn dilyn y farwolaeth.

Os ydych eisoes wedi hawlio

Bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd Dal Plant cyn gynted â phosibl os bydd plentyn rydych yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer yn marw.

Os nad ydych wedi hawlio eto

Os bu farw’r plentyn cyn i chi hawlio Budd-dal Plant, gallwch anfon ffurflen hawlio atom o hyd (oni bai bod y plentyn yn farw-anedig). Ni allwch hawlio ar-lein.

Sut i hawlio

  1. Gwnewch hawliad am Fudd-dal Plant drwy’r post

  2. Dylech gynnwys nodyn â dyddiad marwolaeth y plentyn.

  3. Rhowch eich manylion cyswllt a’ch rhif Yswiriant Gwladol ar y nodyn.

  4. Anfonwch rif cofrestru genedigaeth y plentyn (a ddangosir ar dystysgrif geni’r plentyn) neu dystysgrif fabwysiadu’r plentyn gyda’ch ffurflen hawlio (nid oes rhaid i chi anfon ei dystysgrif marwolaeth).

Os nad oes gennych dystysgrif geni neu fabwysiadu’r plentyn, gallwch archebu un newydd (yn agor tudalen Saesneg) ac anfon rhif cofrestru’r enedigaeth neu’r dystysgrif mabwysiadu yn ddiweddarach.

Gellir ôl-ddyddio Budd-dal Plant am hyd at 3 mis. Hawliwch cyn gynted â phosibl i gael yr hyn y mae gennych hawl iddo.

Os gwnaethoch optio allan o gael Budd-dal Plant

Mae dal angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl os bydd plentyn sy’n gymwys i gael Budd-dal Plant yn marw. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych wedi optio allan am unrhyw reswm, fel y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.

Ni fydd yn rhaid i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ar unrhyw Fudd-dal Plant a gewch ar ôl i’r plentyn farw.

2. Os bydd un rhiant yn marw, neu’r ddau ohonynt

Mae’n bosibl y gallwch gael Budd-dal Plant os ydych yn dod yn brif ofalwr plentyn neu blant i rywun sydd wedi marw.

Rhoi gwybod am y farwolaeth

Mae angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl os yw’r rhiant sy’n hawlio Budd-dal Plant yn marw.

Does dim rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant os ydych eisoes wedi defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Unwaith y byddwch yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant am y farwolaeth, bydd yn gwneud y canlynol:

  • canslo unrhyw daliadau Budd-dal Plant a Lwfans Gwarcheidwad

  • ysgrifennu at bwy bynnag sy’n gofalu am y plentyn cyn pen 20 diwrnod, i gadarnhau bod hyn wedi’i wneud

Gwneud hawliad

Ni fydd Budd-dal Plant yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig i chi. Bydd angen i chi wneud hawliad newydd ar gyfer Budd-dal Plant os nad chi yw’r person sydd wedi’i enwi fel yr hawliwr ar y ffurflen hawlio wreiddiol.

Unwaith y rhoddir gwybod am y farwolaeth, bydd Budd-dal Plant yn stopio o’r dydd Llun ar ôl y farwolaeth. Dim ond hyd at 3 mis y gellir ôl-ddyddio Budd-dal Plant.

Cyfrifon banc

Gallwch gadarnhau’r cyfrif banc rydych am i’r arian gael ei dalu iddo ar y ffurflen hawlio.

Os mai chi yw’r person sy’n cael Budd-dal Plant ond cafodd yr arian ei dalu i gyfrif yr ymadawedig, dylech ddewis cyfrif gwahanol.

Cymorth ychwanegol

Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael naill ai’r Lwfans Gwarcheidwad neu’r Lwfans Rhiant Gweddw ar ben y Budd-dal Plant.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi neu’ch partner dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ar unrhyw Fudd-dal Plant y byddwch yn ei gael.

3. Rhoi gwybod am farwolaeth i’r Swyddfa Budd-dal Plant

Ffoniwch neu ysgrifennwch i roi gwybod am farwolaeth plentyn neu riant a oedd yn hawlio Budd-dal Plant.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich enw llawn
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • enw llawn, dyddiad geni a dyddiad marwolaeth y person a fu farw

Wrth roi gwybod am farwolaeth rhiant, bydd yn rhaid i chi gadarnhau’r canlynol hefyd:

  • ei rif Yswiriant Gwladol
  • lle mae’r plentyn (neu’r plant) yn byw nawr
  • pwy sy’n gofalu am y plentyn

Dros y ffôn

Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF:

Ffôn: 0300 200 1900
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm (ac eithrio gwyliau banc)
Dysgwch am gostau galwadau

Mae’r llinell gymorth hon yn ymwneud â rhoi gwybod am farwolaeth yn unig.

Drwy’r post

Ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant:

Swyddfa Budd-dal Plant
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Peidiwch â chynnwys unrhyw ddogfennau gwreiddiol fel tystysgrifau geni neu dystysgrifau marwolaeth yn eich llythyr.

Ymholiadau Budd-dal Plant

Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant os oes gennych gwestiynau am gymhwystra, hawlio a newid eich manylion.