Skip to main content
Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu

Lynette Rose

Bywgraffiad

Ymunodd Lynette â DVLA ym 1989 a daeth yn Gyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu ym mis Mawrth 2018.

Addysg

Mae gan Lynette BA Anrhydedd mewn Saesneg ac Astudiaethau Americanaidd o Brifysgol Cymru, Abertawe.

Gyrfa

Mae Lynette wedi gweithio yn DVLA trwy gydol y rhan fwyaf o’i gyrfa.

Mae ei ffocws wedi bod ar arwain ar newidiadau polisi a deddfwriaethol sy’n cefnogi uchelgais ddigidol DVLA. Cyn hyn, bu Lynette yn gweithio mewn amrywiol rolau ar draws yr asiantaeth, gan gynnwys cyflawni newid diwylliannol, rheoli rhaglenni a gwasanaethau corfforaethol.

Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu

Mae Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu yn arwain strategaeth fusnes, datblygu polisïau a chyfathrebu mewnol ac allanol DVLA. Nhw hefyd yw Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) DVLA ac mae’n gyfrifol am sicrwydd gwybodaeth a data.

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Prif Weithredwr Dros Dro
  • Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu
  • Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu Dros Dro